Mae Sul y Tadau ar 16 Mehefin 2019. Os ydych chi'n chwilio am ysbrydoliaeth ar beth i’w gael i’ch tad eleni, dyma awgrymiadau ar eich cyfer! Rydym wedi amlinellu ein 5 prif brofiad ar gyfer tadau yn Sir Conwy. P'un a yw'n ffanatig go-cartio neu'n ffafrio amgylchedd sba mwy hamddenol, mae gennym rywbeth y gall pob tad ei fwynhau!

  1. Gerddi Bodnant, Tal-y-Cafn

Gerddi Bodnant

Ydy eich tad yn hoffi garddio a natur? Beth am fynd ag o am daith o amgylch Gerddi Bodnant? Mae'r ardd 80 erw hon yn cynnwys terasau llawn blodau, y Bwa Tresi Aur enwog o goed Laburnum, yn ogystal â phum casgliad cenedlaethol o magnolia, Embothrium, Eucryphia, Rhododendron Forrestii a Hybrid Rhododendron Bodnant. Ar y Sul y Tadau hwn, byddwch yn gallu mwynhau'r ardd wrth wrando ar Dylan Cernyw, enillydd yr Eisteddfod Genedlaethol, yn chwarae cerddoriaeth telyn yn y Felin Binnau, yn edrych dros deras y gamlas. Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

  1. GYG Karting, Cerrigydrudion

GYG Karting

Ydych chi awydd rhoi ras i’ch tad yn y gylched 'gratio' fwyaf yng Ngogledd Orllewin Cymru? Mae Parc Glan y Gors yn gylched rasio groesawgar, teuluol sy'n cynnig amrywiaeth o brofiadau go-cartio. Mae'r ganolfan chwaraeon modur yn denu ymwelwyr ledled y byd i gystadlu yn rowndiau Pencampwriaeth Prydain a digwyddiadau rasio. Cliciwch yma <https://gygkarting.com/> i gael gwybod mwy ac archebu tocynnau neu dalebau.

  1. Cineworld Cyffordd Llandudno a Theatr Colwyn

Theatr Colwyn

Ydy'ch tad yn mwynhau gwylio ffilmiau newydd? Mae Sir Conwy yn gartref i ddwy sinema lle gallwch weld y ffilmiau Hollywood diweddaraf. Ewch draw i Cineworld yng Nghyffordd Llandudno neu sinema annibynnol leol Bae Colwyn, Theatr Colwyn. Archebwch eich tocynnau, estynnwch y popcorn ac eisteddwch yn ôl i fwynhau ffilm y Sul y Tadau hwn. Cliciwch Click here yma i gael gwybod mwy am Cineworld, neu cliciwch yma click here am fwy o wybodaeth am Theatr Colwyn.

  1. Zip World Fforest, Betws-Y-Coed

Zip Safari

Dewch am anturiaethau cyffrous y Sul y Tadau hwn yn Sir Conwy. Gall tadau sy'n chwilio am adrenalin fwynhau dewis eang o weithgareddau yn Zip World Fforest ym Metws-y-Coed. Ewch drwy'r goedwig ar siglen fwyaf Zip World, syrthiwch drwy geuddrws dros 100 troedfedd o uchder, neu gwibiwch drwy'r goedwig ar linellau gwib. Mae’n rhaid i chi ddod os ydych chi’n hoffi cael gwefr! Cliciwch yma Click here am fwy o wybodaeth ac i archebu ar-lein.

  1. Bodysgallen Hall, Llandudno

Bodysgallen Hall

Ymlaciwch a thawelwch ym Mhlas Bodysgallen a manteisiwch ar eu Pecyn Sba a gynlluniwyd yn arbennig ar gyfer dynion. Cewch ddewis o dylino Wyneb i Ddynion neu dylino’r corff cyfan gydag Aromatherapi. Mae'r ddwy driniaeth yn ymlaciol iawn a byddant yn gadael i dad deimlo ei fod wedi’i adnewyddu. Cliciwch yma . Click here am fwy o wybodaeth.


Cofiwch fod ein Canolfan Groeso yn Llandudno yn llawn o anrhegion Cymreig lleol gan gynnwys Jin Aber Falls, bisgedi Aberffraw, cacennau cri blasus a llawer iawn mwy! Dewch o hyd i'r anrheg berffaith i dad ar ôl mwynhau diwrnod yn Sir Conwy.

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?

Gadewch Ymateb