Mae’r pantomeim poblogaidd Sleeping Beauty yn dod i Venue Cymru y Rhagfyr hwn! 60 mlynedd ar ôl y ffilm wreiddiol, bydd cast llawn sêr yn ail-greu’r stori hudolus trwy gerddoriaeth, comedi a digon o hwyl yr ŵyl!
Cyfarfod y cast...
Mynychodd ein Swyddog Marchnata, Jasmin Koffler, lansiad pantomeim yn Venue Cymru ym Mehefin 2019. Dyma'r hanes...
Sherrie Hewson
Bydd yr actores a’r bersonoliaeth teledu boblogaidd, Sherrie Hewson yn serennu yn y pantomeim eleni fel Nyrs Temple Savage. Nid yw Sherrie yn ddiarth i Landudno, ar ôl perfformio yn y sioe hynod lwyddiannus Benidorm Live, a ddaeth i Landudno ym mis Ebrill 2019. Mewn sesiwn holi ac ateb yn Venue Cymru, disgrifiodd Sherrie floedd y gynulleidfa ar ddiwedd bob sioe o Benidorm Live. Gan gyfaddef bod hyn wedi ei gwneud hi’n eithaf emosiynol, eglurodd Sherrie nad oedd hi wedi gweld llwyddiant fel y sioe hon ar hyd ei gyrfa, a'i bod wrth ei bodd gyda ffyddlondeb a chefnogaeth y dilynwyr. Mae hi’n gado y bydd y pantomeim eleni yn annog y gynulleidfa i gymeradwyo a bloeddio yn yr un modd.
Ar ôl gweithio ym myd adloniant am dros 50 mlynedd, Benidorm Live yw un cynhyrchiad ymhlith nifer y mae Sherrie wedi serennu ynddo. Mae hi hefyd wedi chwarae rhannau yn Coronation Street, Emmerdale, Crossroads a’r sioeau Carry On, i enwi ond y rhai.
Bydd Sherrie yn preswylio yng Nghonwy am yr ail dro, a datgelodd bod ganddi nifer o gysylltiadau agos yn yr ardal. Mae ei brawd yn berchen ar y Tŷ Te poblogaidd Characters a’r Bwyty Hot Stone yn Llandudno, ac mae ei nith yn berchen y Lava Hot Stone Kitchen yng Nghonwy. Mae Sherrie yn agos iawn at ei theulu a bob amser yn byw yn agos at ei pherthnasau, yn arbennig ei merch. Felly ym mis Awst 2019, bydd Sherrie a’i merch a’i wyres yn symud i Ddeganwy i ymuno â gweddill ei pherthnasau.
Pan ofynnodd aelod o’r gynulleidfa iddi am ei hoff leoliad bwyd a diod yng Ngogledd Cymru, dywedodd Sherrie ei bod hi wrth ei bodd â’r Cottage Loaf a’i ffefryn yw’r Caffi a Bar yn Osbourne House gan ei fod yn westy mor hardd.
Nigel Ellacott
Yn serennu gyda Sherrie fel yr hen wraig eleni fydd Nigel Ellacott, a fydd yn perfformio rôl y Frenhines. Eleni fydd 45 mlynedd Nigel mewn pantomeim a’i bedwerydd tymor yn Venue Cymru - ei hoff theatr! Mae’n hynod gyffrous i berfformio gyda Sherrie unwaith eto, ar ôl perfformio gyda hi'n flaenorol yn Hull a Wolverhampton.
Mae stori ddiddorol tu ôl i un o wisgoedd trawiadol Nigel ar gyfer y sioe. Yn ystod y perfformiad, bydd Nigel yn gwisgo ffrog felen a oedd yn eiddo i Danny La Rue. Pan fu farw Danny, cafwyd arwerthiant mawr ac fe fynychodd Nigel. Prynodd y ffrog, a gafodd ei ddylunio gan Terry Parsons, yn yr arwerthiant, a bydd yn gwisgo’r ffrog ar gyfer ei rôl fel y frenhines yn Sleeping Beauty.
Cyn y pantomeim ym mis Rhagfyr, bydd Nigel yn dychwelyd i Landudno ym mis Hydref ar gyfer ei bantomeim teithiol. Bydd yn ymweld â 10 ysgol yn yr ardal leol, ac yn perfformio i tua 3000 o blant mewn wythnos. Mae’n debyg mai dyma’r tro cyntaf i nifer o blant ysgol brofi theatr fyw, felly mae’n gyffrous ar gyfer pawb sydd ynghlwm.
Mae Nigel wrth ei fodd a’i rôl fel y Frenhines yn Sleeping Beauty, oherwydd y tro olaf iddo berfformio’r rôl yn Llandudno gyda John Evans, cafodd "gymaint o hwyl". Mae Nigel wedi meistroli ei sgiliau colur, ac erbyn hyn yn gallu rhoi ei golur ymlaen mewn naw munud.
Kieran Powell
Bydd un o brif dafleiswyr y byd, Kieran Powell, yn perfformio yn Llandudno am y tro cyntaf ym mis Rhagfyr. Y tymor hwn fydd ei ail berfformiad gyda Qdos Pantomimes. Bydd yn perfformio persona digrif Muddles, a bydd Kieran yn dod a'i ffraethineb, creadigrwydd a chomedi i'r rôl.
Mae Kieran wedi difyrru cynulleidfaoedd ar draws y byd gyda’i berfformiad tafleisio. Mae wedi perfformio mewn 101 o wledydd ac mae ganddo nifer o ddilynwyr. Mae ei brif gymeriad, Dave the Dinosaur, wedi denu dilynwyr yn fyd-eang gyda miliynau o ddilynwyr ar Dinstagram (Instagram Dinosoriaid) a thros 1m o wedi gwylio ar YouTubeosaurus.
Mae Kieran yn gwbl newydd i Landudno ac mae’n edrych ymlaen at gael Nigel a Sherrie yno i ddangos rhai o brif atyniadau a bwytai'r ardal iddo.
Gallwch archebu eich tocynnau ar gyfer y cynhyrchiad gwych o Sleeping Beauty yma.
Cysylltiedig
#number# Sylwadau
Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?