O dafarndai glan môr prysur i brofiadau sgïo hwyr y nos ar y Gogarth, mae gan Sir Conwy ddewis gwych o weithgareddau gyda'r nos sy'n addas i bawb. Dyma ein saith prif atyniad ar gyfer noson allan wych...
- I’r digrifwyr...
Mae nosweithiau comedi'n hynod boblogaidd yma yn Llandudno a’r cyffiniau, gyda nifer o dafarndai’n cynnal nosweithiau comedi rheolaidd. Ewch draw i Fragdy’r Gogarth neu dafarn The Station ym Mae Colwyn ar nos Sadwrn ola’r mis am noson o chwerthin ei hochr hi. Mae digrifwyr gwadd yn y gorffennol wedi cynnwys Tudur Owen (un o enillwyr cystadleuaeth ysgrifennu Sitcom ar BBC 3 “The Last Laugh”), yn ogystal â Dan Nightingale a gafodd adolygiadau gwych yng Ngwyl Edinburgh Fringe 2018.
- I’r rhai sy’n caru’r theatr...
Does dim byd tebyg i’r byd adloniant! Gall mynychwyr selog y theatr fwynhau perfformiadau hudolus ac ysbrydoledig yn Venue Cymru Llandudno – theatr, canolfan gynadleddau a chyfleuster digwyddiadau sy’n agos at ganol Llandudno. Maer theatr wedi bod yn denu cynulleidfaoedd ers 1894 ac yn dangos ffefrynnau’r West End yn rheolaidd, yn ogystal â chyngherddau cerdd a pherfformiadau theatr poblogaidd. I ychwanegu at eich noson, beth am archebu bwrdd ym mwyty Y Review, sy'n cynnig golygfeydd panoramig syfrdanol dros Fae Llandudno.
- I’r partïwyr...
Mae bywyd nos Llandudno yn llawn mynd. Mae llawer o fariau poblogaidd yn rhan uchaf Mostyn Street popular bars in Llandudno, gan gynnwys Fountains, The Lily a The Palladium. Cadwch lygad am gynigion tymhorol drwy gydol y flwyddyn ac ewch i fwynhau coctel, cerddoriaeth fyw ac ambell i noson karaoke. Ar ddiwedd y noson, gallwch fynd i un o ddau glwb nos y dref, Club 147 neu Broadway Boulevard, a dawnsio drwy’r nos.
Am noson fwy hamddenol, mae yna dafarndai cwrw traddodiadol yn Llandudno ac yng Nghonwy, gan gynnwys The Kings Arms, The Cottage Loaf a The Erskine Arms, ac mae gan bob un ohonynt awyrgylch cyfeillgar a mwy hamddenol. Wedi’u lleoli fel arfer mewn adeiladau cyfnod, mae’r tafarndai hyn yn llawn cymeriad a swyn, yn ailadrodd hanesion cyrchfannau gwyliau Fictoraidd a Chanoloesol Llandudno a Chonwy.
- I’r rhai sydd wrth eu bodd yn gwylio ffilmiau...
Ewch i weld y ffilmiau Hollywood diweddaraf yn Cineworld Llandudno neu yn sinema annibynnol leol Bae Colwyn, Theatr Colwyn. Wedi'i leoli yn agos oddi ar yr A55, mae Cineworld Llandudno yn hynod o hawdd ei gyrraedd ac wedi'i amgylchynu gan amrywiaeth o fwytai bwyd cyflym poblogaidd - y lle perffaith i gael tamaid cyflym i’w fwyta cyn ffilm!
Am noson fwy diwylliannol a hanesyddol – ewch i Theatr Colwyn, sinema weithredol hynaf y DU, a agorodd ei ddrysau am y tro cyntaf yn y 1800au. Mae’r addurniadau tu mewn yn ategu hanes yr adeilad ac yn ein hatgoffa o ddyddiau cynnar ffilmiau prif ffrwd. Yn ogystal â’r ffilmiau Hollywood diweddaraf, gall cynulleidfaoedd hefyd gael eu swyno gan gynyrchiadau ffilm a theatr annibynnol.
- I’r dewrion...
Ydych chi’n ddigon dewr i dreulio’r nos mewn castell llawn ysbrydion? Mae Cymru’n enwog am ei nifer o gestyll crand a hanesyddol, ond nid llawer sy’n mentro iddyn nhw ar ôl iddi nosi. I’r rhai hynny ohonoch chi sy’n mwynhau straeon hunllefus ac ymweliadau arswydus, ewch am daith dywys i Gastell Gwrych, lle cewch chi ymchwilio i straeon am ysbrydion bondigrybwyll sy’n crwydro’r castell yn y nos. Ar ôl cael taith dywys, bydd gwesteion yn cael eu harwain ar wylnos o amgylch tir y castell a’r tŵr sydd wedi’i adfer.
Am ymweliad llai dychrynllyd, ewch i Gastell Conwy lle gallwch fwynhau canap Ar gael ar ddyddiau penodol drwy’r flwyddyn.
- I’r anturwyr...
Wedi trefnu gwyliau sgïo ac eisiau ymarfer rhywfaint cyn mynd? Mae Llandudno Snowsports Centre yn cynnig amrywiaeth o weithgareddau ar y llethr PermaSnow – sgïo, eirafyrddio a hyd yn oed eira-diwbio! Wedi’i leoli ar y Gogarth, mae’r ganolfan yn cynnig sesiwn sgïo hwyr bob nos Iau tan 10pm. Mwynhewch noson o sgïo gan edmygu golygfeydd godidog Bae Llandudno yn y nos!
- I’r selogion awyr agored...
Dringwch i fyny fry gyda Great Orme Vertical - grŵp cymdeithasol gweithgareddau awyr agored Llandudno. Gan gynnig cyfarwyddyd proffesiynol mewn dringo creigiau, mae'r clwb yn cynnal nosweithiau dringo creigiau rheolaidd ar y Gogarth, ac yna diod gymdeithasol mewn tafarn gyfagos. Bydd y noson yn cwmpasu hanfodion dringo gan gynnwys sgiliau symud, Cyfarpar Diogelu Personol, sut i ddefnyddio hoelion angori a chlymu cwlwm. Darperir yr holl gyfarpar proffesiynol ac mae croeso i bawb.
Cysylltiedig
#number# Sylwadau
Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?