Yn Bwyd

Mae Emma Baravelli yn cyfaddef ei bod wrth ei bodd gyda siocledi hufen fioled. “Byddwn i bendant yn mynd a bag o siocledi hufen fioled efo fi i ynys unig”, meddai’r chocolatier, gan bwyso ar gownter ei emporiwm siocled yng Nghonwy.

“Dw i wrth fy modd â’r ffordd rydym yn defnyddio’n holl synhwyrau i fwynhau siocled, ac yn mwynhau’r ffaith bod pob cam o’r broses o greu siocled yn gyfle i fod yn greadigol”, meddai, wrth i arogleuon hyfryd ffa coco hedfan o amgylch y siop, y cyflenwyr cyntaf i greu siocled o ffa coco yng Nghymru. Mae Emma’n ei anadlu i mewn. “Mae’r cymdogion bob amser yn gwybod pryd byddwn ni wrthi’n rhostio’r ffa coco” meddai gyda gwên.

Agorodd Baravelli’s [baravellis.com] fel busnes melysion bwtîc yn 2014, a hyd yma maent wedi ennill pum gwobr Gwir Flas. Mae’r cwmni hyd yn oed wedi cyflenwi danteithion siocled unigryw i Harrods a Fortnum & Mason, gan gynnwys cyfres o wyau Pasg lliwgar a ddyluniwyd ar y cyd â’r artist dinesig Camille Walala. Ar y cyd â’r llwyddiant hwn, lansiwyd busnes arall gan ŵr Emma, Mark, sef Conwy Distillery.

“Mae Conwy wedi dod yn ganolbwynt i bobl sydd yn gwerthfawrogi bwyd, gyda mwy na 90% o’r busnesau ar y stryd fawr yn fusnesau annibynnol” meddai Emma, sy’n cynnal gweithdai gwneud peli siocled poblogaidd ar ddyddiau Sadwrn yn ei labordy siocled ar y llawr cyntaf. “Mae ansawdd uchel y cynhwysion lleol sydd i’w cael ar hyd arfordir Gogledd Cymru wedi cyfrannu at hyn.”

BLASAU LLEOL

Rydw i wedi dod i Sir Conwy i ddarganfod mwy am adfywiad y rhanbarth fel cyrchfan i bobl sy’n caru bwyd.  Mae wedi datblygu’n ganolbwynt i fusnesau annibynnol ac arwyr bwyd lleol, a ddethlir yng Ngwobrau’r Gwir Flas, sy’n cymryd blasau traddodiadol Cymreig, ac ychwanegu elfen gyfoes atynt. Yn well byth, mae llawer o’r cynhyrchwyr hyn yn cynnig ffyrdd i ymwelwyr ryngweithio gyda chynnyrch lleol, drwy gynnig teithiau tywys, gweithdai, a sesiynau blasu.

Mae’r sector cynhyrchu bwyd a diod wedi tyfu ar draws Cymru gyfan, gyda throsiant o £4.8 biliwn yn 2018-19, a 78,000 o bobl wedi eu cyflogi yn y sector bwyd a ffermio, yn ôl ffigyrau gan Fwyd a Diod Cymru. Mae Gwyliau Bwyd wedi dod yn gonglfaen i galendr cymdeithasol y sir, ac maent yn amrywio o Ffair Fêl i Gŵyl flynyddol Conwy lle ceir bwyd stryd, arddangosfeydd coginio anhygoel, a cherddoriaeth fyw.

Ond, yn ôl y pysgotwr Thomas Jones o Conwy Mussels [conwymussels.com], dydy bwyd da ddim yn rhywbeth sy’n newydd i’r ardal. “Mae cregyn gleision Conwy yn gymaint rhan o hanes y dref ag yw’r castell ei hun” meddai, gan sefyll ar y cei ger arwydd sy’n hysbysebu cranc, mecryll wedi eu mygu a bagiau o gregyn gleision am £6.

Mae tarddiad y diwydiant pysgota cregyn gleision yn y cyfnod canoloesol, pan oedd Conwy yn borthladd masnacha pwysig. Mae pysgotwyr wedi casglu cynnyrch o welyau naturiol y cregyn gleision yn aber yr afon Conwy ers cannoedd o flynyddoedd, ac maent yn parhau i ddefnyddio’r dulliau traddodiadol isel eu heffaith er mwyn eu casglu heddiw. Cregyn gleision Conwy yw’r unig gregyn gleision a gribinnir â llaw yn y DU ac mae ganddynt statws Enw Tarddiad Gwarchodedig (PDO).

“Maint a blas sydd yn gwneud cregyn gleision gwyllt Conwy yn wahanol” meddai Thomas, sy’n gweithio ar y cei lle mae siop ac offer prosesu yn rhoi cyfle i weld y broses buro tra mae’n digwydd. “Yn hanesyddol roedd y cregyn gleision hyn yn swper rhad, ond bellach mae’r cregyn gleision yma sydd yn fwy ac yn fwy melys, yn ddanteithion go iawn.”

LLWYBR BWYD 

Roeddwn wedi cychwyn ar fy nhaith fwyd drwy ranbarth Conwy yn gynharach y diwrnod hwnnw, ger y ffin â Sir Ddinbych. Gan yrru ar hyd ffyrdd y wlad, ymwelais â Llaeth y Llan [llaethyllan.co.uk], y busnes llaeth teuluol sydd wedi esgor ar ymerodraeth iogwrt ym mhentref Llannefydd, ger Bryniau Clwyd.

Yn yr 1980au, cychwynnodd y cwmni wneud iogwrt gyda bag 2 gilogram mewn cwpwrdd cynhesu. Bellach maent yn cynhyrchu dros 100 tunnell yr wythnos, tua 12 blas, ac yn allforio i Hong Kong a’r Dwyrain Canol ymysg llefydd eraill. Dyfarnwyd seren i Iogwrt Bio-Byw Naturiol Llaeth y Llan yng Ngwobrau’r Gwir Flas 2019.

“Mae’r farchnad dramor wrth eu boddau â’r syniad o darddle. Maent yn ymddiried mewn brandiau Cymreig o safbwynt purder y cynnyrch”, eglura’r Cyfarwyddwr Gruff Roberts, sy’n arwain taith o’r ffatri a sesiwn flasu am ddim i ymwelwyr (rhaid archebu o flaen llaw).

“Mae’r cynnyrch yn adlewyrchu’r tirlun, porfeydd irlas Dyffryn Clwyd”, meddai, gan ein harwain drwy'r oriel wylio o’r ystafell brosesu drwy eplesiad i’r storfa oer anferth.

Oddi yma, rydw i’n gyrru tuag at Gyffordd Llandudno, ar hyd y ffyrdd culion a dod ar draws sypreis, un’r gwinllannoedd sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru. Rydw i’n dysgu bod 30 o 700 o winllannoedd y DU yng Nghymru, ac mae sawl un ohonynt yn dathlu digwyddiadau yn ystod Wythnos Gwin Cymru bob mis Mai.

Cychwynnodd Gwinllan Conwy [gwinllanconwy.co.uk] gynhyrchu gwin gyda 100 gwinwydden yn 2012. Bellach, mae’r winllan yn dair acer o ran maint, ac yn cynhyrchu tua 9,000 o boteli bobl blwyddyn mewn pum steil gwin gwahanol, gan gynnwys gwin coch canolig Rondo, a gwin gwyn sych Solaris. Mae’r perchnogion, Colin a Charlotte Bennett, yn defnyddio croesiadau o amrywiadau anhraddodiadol o Ddwyrain Ewrop ac yn cymryd mantais o’r llethrau sy’n wynebu’r de ac yn edrych dros y Carneddau yn Eryri.

“Yn wreiddiol, pobl oedd yn yfed gwin oeddem ni, yn hytrach na phobl oedd yn creu gwin,” meddai Charlotte, sydd bellach yn arwain y teithiau a’r sesiynau blasu yn y winllan, gan gynnwys noson blasu caws a gwin yn yr ystafell flasu unwaith y mis. “Rydym ni wedi dysgu ein hunain, ac yn dal i ddysgu, gan ymladd yn erbyn y tywydd a’r chwyn” gwena Charlotte, yn y winllan sydd ond 6 milltir oddi wrth Erddi Bodnant. “Ond rydym wrth ein boddau pan fydd pobl yn blasu gwin Cymreig ac yn deall pa mor safonol ydy’r gwin.

GWIRODYDD CYMRU 

Ar ôl prynu danteithion ar stryd fawr Conwy, mae fy ymweliad yn dod i ben yn Baravelli’s. Yno, mae Mark yn egluro wrth gwsmeriaid sut mae’r Conwy Distillery [conwydistillery.com] wedi addasu rysáit teuluol o Bologna ar gyfer limoncello a chychwyn cynhyrchu gwirodlyn ffa coco – cocoacello.

Wedi cychwyn gyda 100 o boteli yn unig, erbyn heddiw mae Mark yn cynhyrchu tua 2,500 o boteli y flwyddyn mewn pum blas, gan gynnwys gwirodlyn jin a choffi, yn ogystal â rhedeg cwrs creu jin o’u safle arbennig yng Nghonwy.

“Rydym bob amser yn defnyddio cynnyrch Cymreig lle bo hynny’n bosib, ac yn dibynnu ar ein cwsmeriaid lleol teyrngar fel ein prif gefnogwyr” meddai Mark, gyda’i grys blodeuog, a’i fwstas mawr taclus.

Gyda chynlluniau ar y gweill i ryngweithio mwy â chwsmeriaid a datblygu cynnyrch, gan gynnwys cynllun hir dymor i agor caffi ar thema siocled, mae Baravelli’s yn nodweddiadol o’r bobl rwyf wedi eu cwrdd heddiw – pencampwyr bwyd lleol sy’n manteisio ar y cyfle i fyw ac i adeiladu eu busnes o fewn y sir.

“Rydw i wastad wedi bod yn angerddol am fwyd, ers pan oeddwn yn pobi gyda fy nana fel plentyn”, meddai Emma. “Erbyn hyn rydym ni’n angerddol dros fwyd lleol o’n hardal leol.”

Pum blas lleol ychwanegol i’w mwynhau o Wobrau’r Gwir Flas

1) Cacen Gaws Bob Gymreig, enillydd gan y pencampwyr bwyd lleol, Blas ar Fwyd, Llanrwst. Mae’n cyfuno gwaelod clasurol o fisged gyda chaws hufen, ac amrywiaeth o sawsiau blas fel haen uchaf. blasarfwyd.com                   

2) Gwirodlyn Rym a Phlanhigion Trofannol, rym sbeislyd gyda nodau o ddail sinamon a lemonwellt, gan arbenigwyr diodydd trofannol Grandma's Cupboard, Llandudno. Yn dilyn rysáit Creolaidd traddodiadol, mae ar ei orau wedi ei weini gyda rhew. grandmascupboard.co.uk

3) Mae Cig Moch Hallt Tew, cig moch wedi ei halltu â llaw yn unol â’r dulliau traddodiadol, yn un o’r cigoedd cyfeithiedig sydd ar gael o cigydd a deli Edwards o Conwy, sydd wedi ei sefydlu yma ers blynyddoedd. Cofiwch flasu’r porc peis traddodiadol, hefyd. Edwardsofconwy.co.uk         

4) Mae ‘Black Cherry Ripple’ yn flas poblogaidd yn Parisella’s yng Nghonwy, y cwmni hufen iâ artisan sy’n cyfuno llaeth hufen dwbl Cymreig lleol gyda rysáit teuluol Eidalaidd. Parisellasicecream.co.uk                             

5) Mae Wild Horse Brewing, y bragdy crefft o Landudno sy’n defnyddio dŵr Eryri a haidd bragu, wedi derbyn canmoliaeth am eu cwrw crefft cyfoes, yn benodol y Palomino Pale Ale, yn ogystal ag am gynnal sesiynau blasu rheolaidd yn y bar cwrw. Wildhorsebrewing.co.uk

CYDNABYDDIAETH: Mae David Atkinson yn awdur llyfrau teithio ond bydd bob amser yn dychwelyd i Ogledd Cymru lle cafodd ei eni; i weld mwy ewch i atkinsondavid.com

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?

Gadewch Ymateb