A ninnau ar drothwy cyfnod y Pasg, mae rhai o brif sefydliadau Gogledd Cymru yn erfyn ar bobl i beidio gwneud teithiau di-angen ac i beidio ymweld a’r ardal er mwyn diogelu a chefnogi ein gwasanaethau iechyd yn lleol.

Er bod y sector twristiaeth yn allweddol i economi’r Gogledd, mae Covid-19 yn creu heriau di-gynsail i’r Bwrdd Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol, Awdurdodau Lleol, y gwasanaethau brys a phob rhan o gymdeithas Gogledd Cymru.

Mewn datganiad ar y cyd, nododd chwe chyngor gogledd Cymru:

“Mae pob un o awdurdodau lleol y gogledd yn llwyr gefnogi’r alwad gan arweinwyr twristiaeth i ofyn wrth ymwelwyr beidio ymweld ar hyn o bryd.

“Mae ein hatyniadau wedi cau ac mae’r trigolion lleol yn gwneud ymdrech arbennig wrth ddilyn canllawiau ymbellhau cymdeithasol a negeseuon aros adref, ac rydym yn annog ymwelwyr posib i ddilyn y cyngor yma hefyd. Plîs arhoswch adref a chadwch yn saff.

“Fe fyddwn dal yma pan fydd hyn wedi dod i ben a bydd ein atyniadau twristiaeth a diwylliannol a’r Parciau Cenedlaethol yn falch o roi croeso Cymreig arbennig i chi pan fydd bob dim yn ôl i’r arfer.”

Dywedodd y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, Cadeirydd Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru “Ein cyngor i unrhyw un sy’n meddwl teithio i Ogledd Cymru dros gyfnod y Pasg yw i beidio gwneud hynny.

“Mae rheoliadau clir gan ein Llywodraethau na ddylid ond gadael y cartref ar gyfer siopa am hanfodion, anghenion meddygol neu ymarfer corff ac y dylid ond gwneud teithiau hanfodol. Dydy ymweld a'ch ail gartref ddim yn daith hanfodol.”

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Richie Green, Heddlu Gogledd Cymru: “Rhaid i bawb gyfrannu at yr ymdrech genedlaethol i ymateb i’r achosion o coronafeirws ac rwy’n ddiolchgar i’r mwyafrif helaeth sydd wedi gwneud newidiadau sylweddol i’w trefniadau a’u harferion bob dydd.

“Bydd Heddlu Gogledd Cymru yn parhau i chwarae ei ran. Mae timau allan a bydd ein swyddogion yn parhau i ymgysylltu â phobl, sefydlu eu hamgylchiadau unigol a byddant yn parhau i egluro'r risgiau a rhybuddio am ganlyniadau methu â chydymffurfio â'r canllawiau.

“Rydym yn parhau i ofyn i bobl ystyried a ydi eu taith yn hanfodol. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb efo’n gilydd i amddiffyn y Gwasanaeth Iechyd defnyddiwch eich synnwyr cyffredin a'n helpu gyda'n gilydd i achub bywydau."

Meddai Emyr Williams, Prif Weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri:

“Mewn ymateb i argyfwng Covid-19, dros yr wythnosau diwethaf mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi bod yn cydweithio gydag awdurdodau lleol i gau ardaloedd poblogaidd o fynediad agored er mwyn ceisio arafu lledaeniad y firws ac er mwyn amddiffyn gwasanaethau iechyd yn ardal Gogledd Cymru.

“Hyd nes y cyhoeddir yn wahanol, ni cheir mynediad i brif ardaloedd mynyddig Eryri, ac mae holl feysydd parcio a thoiledau cyhoeddus yr Awdurdod wedi cau. I unrhyw un sy’n ystyried ymweld ag Eryri dros y Pasg mae’r neges yn glir - peidiwch ag ymweld â’r Parc Cenedlaethol nes bydd canllawiau’r Llywodraeth i osgoi teithio diangen wedi ei godi – tan hynny arhoswch yn actif, arhoswch yn iach ac arhoswch yn lleol. Bydd Eryri yma pan fydd hyn i gyd wedi mynd heibio, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu’n ôl bryd hynny.”

Mae’r sefyllfa yma yn ddigynsail ac mae gofyn i bobl beidio ymweld a’r ardal yn gwbl anarferol, ond mi wnaeth Michael Bewick, Cadeirydd Fforwm Twristiaeth Gogledd Cymru, bwysleisio bod yn rhaid dilyn rheoliadau’r Llywodraeth.

“Fel Rheolwr Gyfarwyddwr atyniad, a Chadeirydd Fforwm Twristiaeth Gogledd Cymru mae gofyn i bobl beidio ymweld yn gwbl anghredadwy, ond rydym yn byw mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol.

“Mae pob atyniad yn y Gogledd ar gau, mae ein prif fynyddoedd a thraethau ar gau ac mae ein trefi a’n pentrefi i bob pwrpas ar gau. Mae hyn am fod yn gyfnod o her eithriadol i’n sector twristiaeth.

“Rwy’n siŵr y gallaf siarad ar ran y sector cyfan gan ddiolch i bobl am gadw i ffwrdd, i aros yn eu prif gartref ac wrth ddweud y byddwn yn edrych ymlaen at eich croesawu yn ôl i Ogledd Cymru - yn y dyfodol.”

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?

Gadewch Ymateb