O ddyfnderoedd jyngl Awstralia i gastell gwledig rhestredig Gradd I hardd yng Ngogledd Cymru, bydd cyfres eleni o “I’m a Celebrity…Get Me Out Of Here” yn cael ei ffilmio ar safle godidog a hanesyddol Castell Gwrych yn Abergele.

Adeiladwyd y castell 200 mlwydd oed hwn rhwng 1812 a 1822 gan Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh. Roedd yn un o’r ymdrechion Cymreig cyntaf i ddyblygu pensaernïaeth ganoloesol yn Ewrop. Fel cartref cyfres “I’m a Celebrity…Get Me Out Of Here” ar gyfer 2020, bydd bywyd y jyngl yn cael ei ffeirio am dyrrau llawn bwganod a lleoliad canoloesol.

Ysbryd y nos?

yn agos i Gastell Gwrych gyda sêr uwch ei ben

Bydd y gwersyll “I’m a Celebrity” newydd yng Nghastell Gwrych yn dod â’i set unigryw o heriau. Yn hytrach na bywyd gwyllt neu bryfetach Awstralaidd yn dod i’r gwersyll, bydd yr enwogion yn aros mewn castell llawn ysbrydion. Mae Castell Gwrych wedi cynnal digwyddiadau yn y gorffennol i archwilio honiadau fod ysbrydion enwog yn cerdded lloriau’r castell yn y nos. Dywedir fod ysbryd yr Iarlles Dundonald yn ymweld â’r castell hyd heddiw, ar ôl i nifer o bobl honni gweld dynes mewn gwyn.

Cyrchfan wyliau boblogaidd yng Ngogledd Cymru

golygfa o Gastell Gwrych a'r môr

Er gwaetha’r ysbrydion rhwng ei furiau, mae gosodiad godidog Castell Gwrych ar fryniau coediog Abergele yn ei wneud yn lleoliad hynod olygfaol. Mae Abergele yn gyrchfan wyliau boblogaidd iawn gan ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae’r drefn lan môr llawn cyfaredd hon wedi’i hamgylchynu gan hanes – mae bryngaerau Oes yr Haearn ar hyd y bryniau, ac roedd unwaith yn dref fasnach Rufeinig ac yn farchnad ganoloesol. 

Mae Abergele hefyd yn y lleoliad delfrydol ar gyfer archwilio’r oll sydd gan Ogledd Cymru i’w gynnig. Mae’n agos at wibffordd yr A55, gan ei gwneud yn hawdd iawn teithio i drefi ac atyniadau gerllaw. Mae ffilmio ar gyfer y gyfres newydd o “I’m a Celebrity…Get Me Out Of Here” wedi digwydd mewn mannau hardd gerllaw. Cofiwch wylio’r rhaglen fis Tachwedd eleni i weld fersiwn newydd arloesol hon o’r sioe deledu boblogaidd hon. Bydd yn siŵr o daro tant gyda’r teulu oll.

Sut i archebu eich gwyliau yn Sir Conwy

I archebu eich antur eich hun yn Abergele neu gyrchfannau gerllaw, gallwch archwilio ein gwefan i’ch helpu i ganfod y lle delfrydol i aros. Gallwch hefyd ddod o hyd i ysbrydoliaeth am lefydd i ymweld â nhw a phethau i’w gwneud yn Sir Conwy.

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?

Gadewch Ymateb