Hyrwyddo am dâl

Gwnewch yn iawn am amser a gollwyd yng Nghyngor Conwy a threfnwch eich gwyliau gartref dros yr haf rŵan. Gyda phenwythnos gŵyl y banc rownd y gornel, mae'n gyfle perffaith i fwynhau gwyliau bach i ran hyfryd o'r byd; lle mae Eryri yn cwrdd â'r môr. I gael ysbrydoliaeth o lefydd i fynd, edrychwch ar ein hamrywiaeth o ddarparwyr llety ar draws y sir. P'un a ydych chi'n chwilio am wyliau carafanio teuluol ar lan y môr neu am encilio i westy gwledig, fe wnawn ni eich helpu i ddod o hyd i'r lle perffaith i fwynhau'ch gwyliau gartref nesaf.

Cewch fwynhau gwyliau moethus yn Escape Boutique B&B

Pâr yn yr ystafell wely yn Gwely a Brecwast

Escape yw llety bwtîc cyfoes cyntaf Llandudno. Mae’n cynnig llety cŵl, unigryw, chwaethus a hudolus mewn fila Fictoraidd unigryw ac mae wedi’i leoli o fewn taith gerdded fer i fwytai, bariau a siopau gorau Llandudno. Mae'r llety Gwely a Brecwast wedi cyflawni'r achrediad Good To Go sy'n golygu bod y busnes yn dilyn canllawiau Covid-19 y llywodraeth a'r diwydiant. Yn ddiweddar hefyd, maen nhw wedi cyrraedd y 10% uchaf o westai ledled y byd yng Ngwobrau Traveller’s Choice TripAdvisor 2020. I drefnu eich gwyliau gartref dros yr haf yn y llety gwely a brecwast chwaethus hwn, ffoniwch 01492 877776 a mwynhewch 15% oddi ar ddwy noson neu fwy pan fyddwch chi'n archebu'n uniongyrchol.

Dewch o hyd i’r bwthyn gwyliau cartrefol perffaith gyda North Wales Holiday Cottages

Ystafell fyw mewn bwthyn gwyliau ar gael o North Wales Holiday Cottages

Mae North Wales Holiday Cottages yn asiantaeth gosod gwyliau wedi'i hachredu gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi bod yn gweithredu ers dros 50 mlynedd. Gallan nhw eich helpu chi i ddod o hyd i’r bwthyn gwyliau cartrefol perffaith ar gyfer eich gwyliau gartref dros yr haf yng Ngogledd Cymru. Os ydych yn chwilio am fwthyn clyd i ddau, neu dŷ tref mawr a thai fferm ar gyfer y teulu oll, mae ganddynt rhywbeth i weddu pob cyllideb a chwaeth. Archebwch yn uniongyrchol i gael y gwerth gorau. Ffoniwch nhw ar 01492 582492.

Beth am fwynhau gwyliau glan y môr traddodiadol gyda Beachside Guesthouse

 Ystafell ddwbl yn Beachside Guesthouse

Mae Beachside Guesthouse yn cynnig llety ardderchog yn nhref glan môr Llandudno. Yn ddiweddar, maen nhw wedi cyflawni safon Good To Go y diwydiant, sy’n nodi eu bod yn dilyn canllawiau Covid y Llywodraeth a’r diwydiant. Mae pob ystafell wedi ei haddurno’n chwaethus gyda thema glan y môr ac mae ystafelloedd sengl, dwbl, i deulu, neu ystafelloedd gyda gwely maint king a super king ar gael.  Os ydych chi’n chwilio am wyliau golff, yna beth am gymryd mantais o’u pecynnau ‘Stay and Play’. Mwynhewch o leiaf 2 noson yn aros mewn llety Gwely a Brecwast ac 18 twll o golff y dydd. Mae prisiau’r haf yn dechrau am £75 yr un am Wely a Brecwast a rownd o golff. Mae prisiau’r gaeaf yn dechrau o £67.50. Ffoniwch 01492 877369 i gael gwybod mwy.

Beth am ddianc i gefn gwlad yn Elen’s Castle Hotel

 Y tu allan i Westy Elen's Castle

Tafarn o’r 18fed ganrif ym mhentref godidog Dolwyddelan yn ardal Eryri. Mae’r gwesty wedi cael dyfarniad Good To Go ac mae’n barod i’ch croesawu chi’n ôl ar gyfer eich gwyliau gartref yn Eryri. Mae’r gwesty’n cynnig yr holl gyfleusterau modern, gan gynnwys band eang cyflym, man gwefru ceir trydan, man cloi beiciau mynydd, bwyty gwych sydd wedi ennill gwobrau a’r lleoliad perffaith i grwydro’r parc cenedlaethol. Felly os ydych chi’n chwilio am encil gwledig, beth am drefnu gwyliau yn y dafarn wledig hudol hon? Ffoniwch 01690 750207 i drefnu.

Mwynhewch eich hafan bersonol ger y môr yn 

 Ystafell wely ddwbl yn Hafan Y Mor

Mae Hafan y Môr yn ddisgrifiad perffaith ar gyfer y tŷ gwesty hyfryd hwn yn Llandudno.  Os ydych chi’n chwilio am rywle cyfeillgar, ymlaciol a chyfforddus i aros, does dim rhaid i chi chwilio ymhellach. Mae’r chwe ystafell wely wedi’u haddurno’n chwaethus gyda phopeth sydd ei angen arnoch i gael arhosiad pleserus.  Archebwch yn uniongyrchol i gael y prisiau gorau. Ffoniwch nhw ar 01492 875272 i drefnu eich gwyliau gartref nesaf dros yr haf a’r hydref yng Ngogledd Cymru.

Hwyl i’r teulu oll SF Parks

Pwll nofio yn SF Parks

Mae Parciau SF yn cyflwyno’u parciau cyffiniol, Canolfan Golden Gate Holiday a Pharc Hamdden Whitehouse sydd wedi’u lleoli yn ardal brydferth Towyn, Gogledd Cymru. Mae’r parciau wedi ailagor ac wedi cyflawni safon Good To Go y diwydiant. Mae’r rhan fwyaf o’u cyfleusterau gan gynnwys bariau, bwytai a phyllau nofio dan do wedi ailagor yn barod i chi eu mwynhau. Mae’r pwll nofio newydd, sy’n arbennig ar gyfer defnydd ein perchnogion a’n gwesteion, yn cynnwys un pwll nofio mawr a phwll nofio i’r plant, gyda nodweddion dŵr a ffynhonnau, yn ogystal â galeri i wylio. Gyda’r nos, beth am ymlacio ym Mar Adeilad y Clwb gyda phryd o fwyd a gwylio’r gêm neu chwarae bingo! Gwnewch yn iawn am amser a gollwyd a ffoniwch 01745 833048 i drefnu eich gwyliau gartref dros yr haf.

Dewch i fwynhau encil gwledig yn Maenan Abbey Caravan Park 

 Lleoliad cefn gwlad ym Mharc Carafannau Abaty Maenan

Gwnewch yn iawn am amser a gollwyd ym mharc Carafanau Abaty Maenan. Wrth gyrraedd y parc carafanau bach hardd a chyfeillgar hwn yng nghanol y wlad, byddwch yn gallu ymlacio ac anghofio am straen a phoenau bach bywyd bob dydd yn syth. Mae’r parc wedi cyflawni safon Good To Go y diwydiant ac mae’r cartrefi gwyliau moethus wedi’u lleoli o fewn gerddi hardd, gydag ardal bicnic a phatio bach. Mae’n agos at bentref hyfryd Betws-y-coed ac yn agos iawn at y porth i Barc Cenedlaethol Eryri – mae’r cyfan yn disgwyl amdanoch chi. Ffoniwch 01492 660630 i gael dianc i’r wlad dros yr haf hwn.

Beth am ymlacio mewn llety gwely a brecwast 5 seren yn Bryn Derwen B&B

Arwydd a thu allan Gwesty Bryn Derwen

Mae llety Gwely a Brecwast Bryn Derwen wedi ailagor ac mae’n barod i’ch croesawu ar gyfer eich gwyliau nesaf i Landudno. Maent wedi ennill Gwobr Covid Confidence yr AA, yn ogystal â safon Good To Go y diwydiant. Mae amrywiaeth o ystafelloedd gwely en suite wedi’u dylunio’n unigol ar gael gyda’r holl gyfleusterau byddech chi’n eu disgwyl gan lety gwely a brecwast 5 seren. Wedi’i leoli ar droed y Gogarth, mae’n daith gerdded rwydd i bromenâd y gogledd a’r dref lle bydd digonedd o fariau, bwytai a siopau yn eich haros. Gwnewch yn iawn am amser a gollwyd a threfnwch eich gwyliau gartref dros yr haf rŵan. Ffoniwch 01492 876804 i drefnu.

Dewch i aros wrth lan y môr yn The Beach Caravan Park

Lleoliad traeth ym Mharc Carafannau'r Traeth gyda charafanau yn y cefndir

Gwnewch yn iawn am amser a gollwyd yn The Beach Caravan Park yn Abergele. Lleolir ar arfordir bendigedig Gogledd Cymru yn Llanddulas, yn cynnig mynediad uniongyrchol i un o lwybrau beicio mwyaf Ewrop gyda golygfeydd godidog dros y môr a’r bae. Dyma’r man cychwyn perffaith i archwilio atyniadau niferus Gogledd Cymru fel Abergele, tref gyrchfan Fictoraidd boblogaidd Llandudno, heb anghofio am Gonwy. Mae'r parc wedi ennill safon Good To Go y diwylliant ac mae'n barod i'ch croesawu yn ôl am wyliau gartref dros yr haf. Dewch draw - rydych chi’n colli allan. Ffoniwch 01492 515345 i drefnu rŵan.

Lle bynnag y byddwch yn ei ddewis ar gyfer eich gwyliau gartref nesaf, rydym ni’n gobeithio y cewch chi amser gwych. Cofiwch ein tagio ni yn eich lluniau ar gyfryngau cymdeithasol

 #DalIFyny #YmweldÂChonwyYnDdiogel

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?

Gadewch Ymateb