Hyrwyddo am dâl

Ydych chi wedi trefnu eich gwyliau gartref ar gyfer 2021 eto? Mae gennym ystod eang o letyau ac atyniadau o safon ar gael yn Sir Conwy.  Mae’n lle delfrydol i fwynhau gwyliau trwy gydol y flwyddyn. Edrychwch ar rai o’n hawgrymiadau isod...Ydych chi wedi trefnu eich gwyliau gartref ar gyfer 2021 eto? Mae gennym ystod eang o letyau ac atyniadau o safon ar gael yn Sir Conwy.  Mae’n lle delfrydol i fwynhau gwyliau trwy gydol y flwyddyn. Edrychwch ar rai o’n hawgrymiadau isod...

Adventure Parc Snowdonia

Ydych chi wedi archebu gwyliau yn Sir Conwy? Beth am fynd draw i Adventure Parc Snowdonia a chychwyn eich diwrnod trwy nofio mewn dŵr agored yn eu lagŵn syrffio dŵr croyw? Mae’n newydd ar gyfer 2021 ac ar gael o 7am ymlaen, mae’n ffordd wych o ddeffro ac adfywio’r corff a mynd allan i’r awyr agored. Gallwch gyfuno hyn gyda gweithgaredd arall ar y safle, megis syrffio, padlfyrddio, dringo, ogofa artiffisial neu wibio ar linell sip. Ar ôl yr holl hwyl gallwch fynd i’r Deli i ymlacio gyda chinio blasus. Neu beth am roi cynnig ar Zephyr’s Bar and Grill yn yr Hilton Garden Inn am bryd cyfoes gyda golygfeydd godidog. Gallwch hefyd ddewis bwyta yn yr awyr agored.

Darganfod mwy.

Ystâd Bodnant

Arhoswch yn Ystâd Bodnant ac fe gewch fwynhau mynd i grwydro ar hyd milltiroedd o lwybrau preifat drwy goed a chaeau ar yr ystâd.  Cewch eich syfrdanu gan olygfeydd anhygoel ar draws Eryri a Môr Iwerddon. Mae mynyddoedd, llynnoedd, coedwigoedd ac, yn bennaf, heddwch a llonyddwch. Arhoswch mewn hen dai, bythynnod neu ysguboriau cerrig sydd wedi’u hadfer yn draddodiadol a’u dodrefnu’n steilus. Mae deg o fythynnod a thai fferm hyfryd ar gael sy’n cysgu rhwng 2 ac 8 o bobl. Yn ystod eich ymweliad, beth am archwilio popeth sydd gan Bodnant i’w gynnig? Gan gynnwys gerddi enwog Bodnant, Canolfan Arddio Bodnant, Canolfan Grefft Bodnant a Bwyd Cymreig Bodnant. 

Darganfod mwy.

Neuadd Bodysgallen

Neuadd Bodysgallen

Mae Neuadd a Sba Bodysgallen yn neuadd nodedig Gradd 1 o’r ail ganrif ar bymtheg sy’n llawn hanes ac yn mwynhau golygfeydd godidog o’i gerddi ffurfiol hyd at Gastell Conwy a mynyddoedd mawreddog Eryri. Yma, gall gwesteion ymgolli yn y profiad tŷ gwledig hanfodol a moethus hwn. Ymbleserwch mewn te prynhawn a mwynhewch brofiad cofiadwy i’w rannu gyda’ch teulu a’ch ffrindiau. Mwynhewch y cyfleusterau iechyd a hamdden ardderchog, ble mae therapyddion proffesiynol yn cynnig amrywiaeth o driniaethau harddwch a lles gan ddefnyddio eu cynnyrch.  Neu am wyliau moethus go iawn, cyfunwch hyn oll gydag arhosiad dros nos yn un o’n hystafelloedd i westeion neu un o'r bythynnod ar y safle sydd wedi cael eu trosi o'r adeiladau allanol gwreiddiol. 

Find out more..

Gwely a Brecwast Bryn Derwen

Gwely a brecwast Bryn Derwen

Archebwch arhosiad yn llety Gwely a Brecwast Bryn Derwen. Mae’r llety hwn wedi’i leoli ar droed y Gogarth ar dir gwastad nepell o Draeth y Gogledd a Phenmorfa a thref Llandudno, sydd â detholiad o fwytai, tafarndai a siopau. Gall gwesteion fwynhau gardd gefn furiog hardd ac ardal batio gydag ystafell ardd gyfforddus wrth ddarllen neu fwynhau diod o’r bar trwyddedig. Mae’r ystafell frecwast hyfryd a helaeth yn edrych dros yr ardd ffrynt liwgar ac mae gan bob gwestai eu byrddau unigol eu hunain. Gellir darparu ar gyfer anghenion deietegol a dewisiadau gan fod brecwast yn cael ei goginio'n ffres yn ôl yr archeb.

Find out more..

RSPB Conwy

RSPB Conwy

RSPB Conwy yw’r lleoliad delfrydol ar gyfer teuluoedd sy’n caru natur. Bydd plant wrth eu boddau’n cymryd rhan yn ein gweithgareddau neu’n mynd yn wyllt yn y maes chwarae awyr agored. Mae cwisiau, llwybrau gyda golygfannau a chuddfannau ar gael er mwyn i chi gael gwneud y mwyaf o’ch ymweliad. Bydd cyfle hefyd i chi gwrdd â Tegi, ein bwystfil cyfeillgar. Mae’n gartref i lawer o fywyd gwyllt hyfryd, gan gynnwys corsieir, teloriaid, gwyfynnod a gweision y neidr, yn wir mae'n lle delfrydol i wylio natur ar ei orau. Ar ôl i chi orffen crwydro o amgylch y warchodfa, ewch draw i’r siop goffi i fwynhau cinio ysgafn ac edmygu golygfeydd o’r lagŵn fas.

Find out more..

Petplace

Petplace

Mae PetPlace yn Abergele yn lle perffaith i alw heibio a chael gafael ar bob dim y gallech chi fod eu hangen ar gyfer eich anifail anwes. Yn ddiweddar mae’r siop wedi ymuno â milfeddygfa flaenllaw (Milfeddygon Mochdre) i gynnig ymgynghoriadau am ddim yn y siop yn Abergele. O fis Gorffennaf ymlaen, bydd modd i chi ddod â’ch ffrind bach blewog i sesiynau dyddiol yn y siop i gael asesiad gan filfeddyg proffesiynol. Gall perchnogion anifeiliaid anwes ddod â’u hanifeiliaid am asesiad, cyngor a chyfarwyddyd am amryw o faterion o alergeddau a phroblemau croen i boen dannedd a lympiau. Gallwch hefyd brynu amrywiaeth o nwyddau i’ch anifail anwes yn ystod eich ymweliad. 

Find out more..

Osborne House

Osborne House

Mae Osborne House yn westy bach godidog ar lan y môr Llandudno. Arhoswch yn un o’r chwech ystafell foethus fawr a deffrwch i olygfeydd hyfryd o’r môr. Mae gwelyau maint brenin ar gael yn yr ystafelloedd ac ardal eistedd ar wahân a thân nwy Fictoraidd. Mae’r caffi ar y llawr gwaelod yr un mor odidog â'r ystafelloedd ac yn gweini bwyd arddull bistro yn ogystal â byrbrydau, diodydd a choctels. Datgelodd seren y rhaglen deledu ‘Benidorm’, Sherrie Hewson, mai un o’i hoff leoedd i gael diod yng Ngogledd Cymru yw’r Caffi a’r Bar yn Osborne House, oherwydd ei fod yn westy mor brydferth. Gall gwesteion Osborne House ddefnyddio holl gyfleusterau’r rhiant-westy cysylltiedig, sef Gwesty’r Empire sydd 150 llath i ffwrdd. Mae’r rhain yn cynnwys pwll nofio dan do gyda sawna ac ystafell stêm, campfa ardderchog, pwll sblasio awyr agored ac ardal haul.

Find out more..

SF Parks

SF Parks Clubhouse

Mae SF Parks yn cyflwyno’u parciau cyffiniol, Canolfan Golden Gate Holiday a Pharc Hamdden Whitehouse sydd wedi’u lleoli yn ardal brydferth Towyn, Gogledd Cymru, ger y Rhyl, Llandudno a Chonwy. Mae’r parciau yn elwa o restr hirfaith o gyfleusterau, gan gynnwys siop pysgod a sglodion, ardaloedd chwarae meddal, parc antur awyr agored, bwyty, bar, bar byrbrydau, cownter hufen ia, siop gornel a dwy arcêd! Mae hwyl di-ben-draw i’w gael yn y Clubhouse a Jakes Bar, gyda dwsinau o weithgareddau ar gyfer plant, o Glwb Plant Buddy’s, Partïon Dawnsio gyda’r Tîm Adloniant neu gallant dreulio awr yn yr arcêd. Archebwch eich gwyliau gartref nesaf rŵan.

Find out more..

Gwesty Whitehouse

Gwesty Whitehouse

Archebwch arhosiad yng Ngwesty'r Whitehouse. Mae’r gwesty teuluol canolog hwn ar lan y môr Llandudno yn edrych dros olygfeydd trawiadol o’r bae. Gall gwesteion elwa o en-suite, teledu, bath a/neu gawod. Mae gan bob ystafell Wifi ac maent o faint digonol sy’n eu gwneud yn addas i deuluoedd a theithwyr annibynnol fel ei gilydd. Mae croeso i anifeiliaid anwes hefyd. Mae’r bwyty ar y safle yn darparu detholiad gwych o brydau bwyd a dewisiadau brecwast amrywiol. Rydym yn darparu ar gyfer anghenion dietegol arbennig. Archebwch rŵan i ddeffro i olygfeydd o lan y môr yn un o ganolfannau gwyliau poblogaidd gogledd Cymru.

Find out more..

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?

Gadewch Ymateb