Yn Haf

Hyrwyddo am dâl

Rydym yn edrych ymlaen at gael eich croesawu chi’n ôl yn ddiogel i Gonwy yr haf hwn. Os ydych chi’n trefnu taith funud olaf, edrychwch ar rai o’n darparwyr llety, siopau ac atyniadau isod.

Simon Baker gan Elevate Your Soul

Delwedd o bobl y tu allan i Simon Baker gan siop Elevate Your Sole

Siop esgidiau annibynnol wedi ei lleoli yn Llandudno yw Simon Baker gan Elevate Your Sole. Mae amrywiaeth o frandiau poblogaidd ar gael, gan gynnwys Skechers, Rieker, Remonte, Josef Seibel, Fitflop, Fly London, Gabor a Waldlaufer. Beth am fachu bargen o’u sêl haf? Mae digonedd o esgidiau i ddewis ohonynt ond maen nhw’n gwerthu’n gyflym. Gallwch hefyd drefnu apwyntiad gydag unigolyn wedi’i hyfforddi i fesur eich traed er mwyn sicrhau bod eich plant yn barod i fynd yn ôl i’r ysgol. Ffoniwch y tîm yn uniongyrchol ar 01492875650 a byddant yn barod i’ch helpu i ganfod y pâr perffaith o esgidiau ar gyfer yr ysgol.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Great Orme Vertical

Merch yn abseilio gyda'r môr a'r haul yn y cefndir

Ydych chi’n chwilio am antur yn Sir Conwy? Rhowch gynnig ar Great Orme Vertical. Maen nhw’n cynnig amrywiaeth o sesiynau blasu difyr a chyffrous i’r rhai sy’n newydd i’r gamp, a chyrsiau hyfforddi proffesiynol i rai sydd â mwy o brofiad. Mae’r cyrsiau hyfforddi dringo a mynydda yn hyrwyddo arfer diogel a chynnig cyfle i gyfranogwyr ddysgu sgiliau i’w cynorthwyo i fod yn gerddwyr, dringwyr a sgrialwyr annibynnol. Mae gan y perchennog, Matt Jones, fwy na 30 mlynedd o brofiad fel hyfforddwr ac mae wrth ei fodd yn rhannu ei angerdd am antur awyr agored gyda phobl eraill. Mae’r gweithgareddau yn addas i bobl o bob oed a gallu. Beth am drefnu sesiwn pan fyddwch chi yn yr ardal?

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Hostel Llandudno

 2 set o welyau bync a 2 gadair yn hostel Llandudno

Mae Hostel Llandudno mewn tŷ tref Fictoraidd cain. Mae ganddo nenfydau uchel a siandelïers a nodweddion modern. Nid eich hostel arferol mohono! Mae pob ystafell wely ac ystafell ymolchi yn gwbl breifat ac ni fyddwch chi’n rhannu gydag unrhyw westeion eraill. Mae modd i deithwyr unigol, teuluoedd, neu grwpiau o hyd at 8 o bobl archebu lle. P’un a fyddwch chi am dreulio diwrnodau ar y traeth neu fynd i’r cefn gwlad neu fynyddoedd hyfryd, Hostel Llandudno yw’r sylfaen berffaith ar gyfer archwilio popeth sydd gan ogledd Cymru i’w gynnig. Archebwch nawr, a bydd profiad “Cartref oddi Cartref” yn aros amdanoch. 

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Min Y Don Llandudno

Y tu allan i Westy Min Y Don gyda bws golygfeydd dinas

Chwilio am rywle i fynd ar lan y môr? Mae Tŷ Llety Min y Don yn Llandudno yn darparu llety o safon gyda golygfeydd hyfryd o lan y môr. Mae Min y Don yn cynnig nifer cyfyngedig o leoedd parcio ar y safle, cysylltiad wi-fi cyflymder uchel am ddim a Theledu Clyfar sgrin fawr ymhob ystafell. Mae gan bob ystafell en-suite preifat gyda phethau ymolchi o ansawdd da, a chyfleusterau gwneud te / coffi. Mae wedi’i leoli gyferbyn â Phier Fictoraidd Llandudno ar odre’r Gogarth, a dyma’r sylfaen berffaith ar gyfer archwilio popeth sydd gan Llandudno i’w gynnig.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Penmaenmawr B&B

Ystafell wely ddwbl ym Mhenmaenmawr Gwely a Brecwast

Mae Penmaenmawr B&B yn westy gwely a brecwast hyfryd, sy’n gyfeillgar i gŵn, ac mae’n cynnig 2 ystafell wely ddwbl helaeth ac 1 ystafell wely sengl. Mae mewn tref fach gyfeillgar ar arfordir gogledd Cymru ac mae golygfeydd ar draws i Ynys Seiriol Ynys Môn a’r Gogarth yn Llandudno. Mae mewn lleoliad delfrydol ger traeth hir, felly gallwch fwynhau’r machlud hardd ac mae digonedd o le i chi a’ch cŵn. Archebwch eich lle nawr i ddeffro i weld golygfeydd o’r môr a brecwast cartref.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Gwesty’r Imperial

Ystafell wely ddwbl yng Ngwesty'r Imperial

Ydych chi wedi trefnu eich gwyliau haf yng Ngwesty’r Imperial? Mae gan nifer o’r ystafelloedd gwely olygfeydd trawiadol ar draws y Bae ac mae gan rai o'r ystafelloedd ar y pumed llawr falconïau sy'n berffaith i dorheulo neu weld y golygfeydd o safbwynt arall! Gyda’i ffasâd Fictoraidd trawiadol, ei addurn ffasiynol a’i enw da rhagorol am fwyd a gwasanaeth, Gwesty’r Imperial yw’r man cychwyn perffaith ar gyfer teithio Llandudno a gogledd Cymru. O ran bwyta, gall y gwesteion ddewis rhwng Bwyty Chantrey sydd wedi ennill dwy roséd AA i fwynhau pryd o’r radd flaenaf, neu'r Terrace i gael awyrgylch sy'n fwy anffurfiol.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Parc Carafanau Craiglwyd

Carafanau ar barc gyda'r môr yn y cefndir

Beth am ddianc i Barc Carafanau Craiglwyd a mwynhau golygfeydd anhygoel dros Landudno ac Ynys Môn? Mae Parc Carafanau Craiglwyd yn lleoliad tawel a heddychlon sydd heb fod yn bell o atyniadau poblogaidd gogledd Cymru. Dyma’r amgylchedd perffaith ar gyfer ymlacio a gwylio’r machlud hardd dros Ynys Seiriol ar ôl diwrnod llawn yn darganfod atyniadau a lleoliadau prydferth gogledd Cymru.  Mae gan y parc garafanau i’w llogi, gan gynnwys rhai â thybiau poeth, carafanau sy’n croesawu cŵn a charafanau moethus hyd yn oed. Dim ond nifer gyfyngedig o leoedd sydd ar ôl ar gyfer haf 2021 felly archebwch yn gyflym i osgoi cael eich siomi. Fel arall, archebwch wyliau gartref ar gyfer hydref 2021 neu wanwyn / haf 2022! 

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Cofiwch fod cyfyngiadau ar waith o hyd ar draws Cymru i helpu i gadw pawb yn ddiogel, felly cofiwch edrych ar ein gwefan i gael y canllawiau diweddaraf. Cliciwch yma i gael y canllawiau diweddaraf.

#DewchiGonwyYnDdiogel

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?

Gadewch Ymateb