Hyrwyddo am dâl

Beth am drefnu taith funud olaf i Sir Conwy? Er bod y dyddiau’n oeri mae ein gwestai, ein lletyau gwely a brecwast, ein bythynnod gwyliau a’n bwytai yn dal yn estyn croeso cynnes iawn.

Beth am ddewis yr Hilton Garden Inn Snowdonia ar gyfer eich antur awyr agored nesaf?

Ar bwys Parc Cenedlaethol Eryri, mae Adventure Parc Snowdonia yn lleoliad gwych efo digon o bethau i’w gwneud beth bynnag fo'r tywydd! Boed law neu hindda, fe allwch chi reidio’r tonau yn y lagŵn mewndirol, profi’ch nerth yn y cwrs Ninja neu ymlacio yn y Wave Garden Spa. A dim ond blas ar bethau ydi hynny.

Mae gwesty’r Hilton Garden Inn Snowdonia yn lle delfrydol ac fe allwch chi ddeffro bob bore ar lan y lagŵn yng nghanol yr holl fwrlwm. Wedi’i agor yng ngwanwyn 2021, mae’r gwesty newydd sbon danlli wedi’i gynllunio ar gyfer anturiaethau drwy gydol y flwyddyn, ac mae’n ddewis gwych ar gyfer gwyliau bach yn yr hydref neu’r gaeaf. Mae’r bar a’r gril yn gweini bwyd blasus gyda chynhwysion Cymreig, ac mae’r 106 o ystafelloedd yn berffaith ar gyfer teuluoedd a grwpiau fel ei gilydd. Gyda ffenestri mawr a golygfeydd godidog o’r mynyddoedd a’r coed, bydd eich calon yn curo’n gyflym o’r funud y byddwch chi’n agor y llenni.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Ymarfer eich swing yng Nghlwb Golff Llandrillo-yn-Rhos

Sefydlwyd Clwb Golff Llandrillo-yn-Rhos ym 1899 ac mae wedi chwarae rhan annisgwyl yn hanes awyrennau pan laniodd awyren ddwbl Farman yn y clwb yn Awst 1910. Bu’n rhaid i’r awyren lanio oherwydd argyfwng, a hynny prin 100 llath o dŷ’r clwb. Dyma’r awyren gyntaf i lanio yng Ngogledd Cymru.  Roedd y peilot, yr actor a’r arloeswr awyrennau dewr, Robert Loraine yn ceisio cyflawni her a fyddai’n torri record, sef hedfan dros y môr o Blackpool i Gaergybi ac yna dros Fôr Iwerddon. Mae’n drist mai tywydd gwael a phroblemau technegol wnaeth ddifetha ei gynllun brwdfrydig, ond roedd Llandrillo-yn-Rhos wedi gwirioni gyda’r gwestai trwsiadus ac annisgwyl hwn!

Gan ddatgan ei hun (gyda balchder) fel y cwrs mwyaf cyfeillgar yng Ngogledd Cymru mae’r clwb arfordirol hardd hwn yn ymfalchïo mewn lletygarwch hyd heddiw. Mae’r clwb bob tro yn falch o groesawu ymwelwyr, hyd yn oed os ydych gwneud ymweliad gwibiol â Sir Conwy.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Dewch o hyd i’ch bwthyn perffaith gyda North Wales Holiday Cottages.

Mae North Wales Holiday Cottages yn gwmni teuluol lleol sy’n adnabod Conwy fel cefn eu llaw. Wedi’u hachredu gan Lywodraeth Cymru maen nhw’n archwilio pob eiddo yn bersonol. Gyda deng mlynedd o brofiad, fe wnân nhw ganfod y llety delfrydol i chi mewn dim o dro. Pa un ai ydych chi wedi rhoi’ch calon ar fwthyn gwledig neu rywbeth mwy trefol fel rhandy moethus i ddau neu dŷ trefol smart – mae’ch gwyliau hydrefol yn saff yn eu dwylo nhw.

Mae gwyliau llety hunanarlwyo yn rhoi rhyddid a lle i chi wneud fel y mynnoch. A, gorau oll, fe allwch chi fod yn ddigymell. Gyda dewis eang o eiddo ar hyd a lled y sir, mae North Wales Holiday Cottages yn siŵr o fod gydag argaeledd funud olaf. Archebwch heddiw, ac fe allwch chi fod yn nôl yr allweddi o fewn ychydig wythnosau – neu hyd yn oed fory!

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Dringo’r Gogarth o Osborne House

Yn sefyll ar lan môr Llandudno ar droed y Gogarth mae gwesty moethus Osborne House sydd â theimlad preswylfa breifat. Os fedrwch chi lusgo’ch hun o’r ystafelloedd cyfforddus, fe allwch chi fynd am dro ar Dramffordd y Gogarth ac i fyny’r allt ar yr unig reilffordd halio sy’n teithio ar ffyrdd cyhoeddus ym Mhrydain. Taith sy'n siŵr o ddwyn atgofion melys i gof.

I’r de a’r dwyrain mae ysblander Fictoraidd Llandudno yn ymledu, gyda Mostyn Street, Traeth y Gogledd a’r pier enwog o fewn cyrraedd hawdd. Mae croeso i’r gwesteion ddefnyddio bwyty, lolfa, sba a phwll dŵr hallt yn rhiant westy Osborne House, sef gwesty pedair seren yr Empire rhyw funud i ffwrdd.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Golygfeydd godidog o’r bae o Stratford House

Er bod yr haf yn dirwyn i ben dydi hynny ddim yn golygu bod yn rhaid i ni droi ein cefnau ar y traeth. Mae Stratford House yn hafan dedwydd drwy gydol y flwyddyn, gyda’r lleoliad glan môr ysblennydd yn darparu golygfeydd godidog o’r bae o ochr ddwyreiniol y dref. Mae yna le parcio am ddim ar gael gerllaw, ac mae’r theatr a’r ganolfan gynadleddau yn dro byr i ffwrdd.

Gydag arbenigwyr lletygarwch wrth y llyw, rydych chi mewn dwylo diogel yn y llety gwely a brecwast moethus a chartrefol hwn. Mae’r perchnogion yn ymfalchïo yn y manylion bychain ystyriol sy’n gwneud gwahaniaeth mawr. O’r danteithion yn yr ystafell i gymorth i archebu seti ar gyfer yr Opera Genedlaethol Gymreig, does dim byd yn ormod o drafferth iddyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Dilynwch y Gwningen Wen i westy’r Whitehouse

Os ydych chi wrth eich bodd gyda straeon Alys, mi fyddwch chi wedi gwirioni efo Llwybr Alys yng Ngwlad Hud. Mae gwesty’r Whitehouse yn lle perffaith ar gyfer gwyliau hydrefol, gyda thro hudolus. Mewn lle canolog ar lan y môr, mae’r gwesty hwb, cam a naid o gerfluniau ac atyniadau cymeriadau Lewis Carroll.

Gydag ystafelloedd modern y tu ôl i’r wyneb Fictoraidd, mae’r Whitehouse yn fforddiadwy iawn o ystyried y golygfeydd o'r môr. Ac, ar ben hynny, mae ‘na groeso cynnes i’ch anifeiliaid anwes hefyd. Ond pa un ai ydi hynny’n cynnwys fflamingos, cathod Swydd Gaer a phili pala bara, does dim modd i ni ddweud.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Gwledd o gimwch yn Paysanne

Mae Cai Ross, cyd-berchennog brwdfrydig bwyty Ffrengig Paysanne yn Neganwy, yn credu bod ei gwsmeriaid eleni yn haeddu trît bach. A phwy ydym ni i ddadlau efo hynny? I’w helpu nhw i ddathlu, mae Cai wedi bod yn cynnal nosweithiau Homard et Frites (cimwch a sglodion), gyda chimychiaid lleol mewn saws thermidor – wedi'u coginio a’u paratoi gan eu cogydd David Hughes.

Mae’r nosweithiau hyn wedi bod mor boblogaidd nes bod Cai a’i dîm wedi penderfynu rhoi rhywfaint o’r elw i elusen. “Dw i’n falch o ddweud bod ein nosweithiau Homard et Frites Tŷ Gobaith wedi bod yn llwyddiant ysgubol gan godi dros fil o bunnau i hosbis leol arbennig sy’n gweithio’n ddiflino i helpu plant a rhieni mewn angen”, meddai. Mae ‘na noson arall ar 28 Medi ond mae’n rhaid i chi frysio – mae’r byrddau yn fflio mynd!

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?

Gadewch Ymateb