Mae hoff gastell arswydus Cymreig pawb, ynghyd â’r treialon erchyll a’r dyn siop dirgel, yn ôl ar ITV am yr ail flwyddyn yn olynol – ac rydyn ni wedi gwirioni’n lân!

Hyrwyddo am dâl

Dewiswch y Whitehouse Hotel am daith hanesyddol llawn antur

Llwyddodd 'I’m a Celebrity... Get Me Out of Here!’ gan ITV - chwip o raglen sydd wedi'i darlledu bob blwyddyn ers 2002 – i gyrraedd ei ail ffigurau gwylio uchaf erioed yn 2020. Yma yng Nghonwy, rydyn ni’n meddwl mai ei lleoliad newydd gwych, sef Castell Gwrych ger Abergele, ydi'r rheswm am hynny. Bu i’r rhaglen 20-pennod, a ddarlledir bob noson o ganol Tachwedd hyd at ddechrau Rhagfyr, ddenu 14.3 miliwn o wylwyr, a hon oedd y rhaglen fwyaf poblogaidd ymysg gwylwyr ifanc yn 2020. All cyfres 2021 wneud yn well? Welwn ni ddim pam lai!

Ydych chi a’ch teulu yn dilyn y rhaglen? Wrth gwrs eich bod chi! Felly beth am ail-greu’r hwyl ar daith hanesyddol o amgylch cestyll Sir Conwy? Mae Castell Gwrych (gwrychcastle.co.uk) yn ailagor i’r cyhoedd ym mis Mawrth 2022, ac fe allwch chi archebu tocynnau mynediad, gan gynnwys tocynnau blwyddyn, ar lein ymlaen llaw. Yn y cyfamser, fe allwch chi fynd i archwilio Castell Conwy – clasur gwirioneddol  - a Waliau Tref Conwy. Ynghyd â'r amddiffynfeydd ysblennydd ym Miwmares, Caernarfon a Harlech, maen nhw wedi'u rhestru yn Safle Treftadaeth y Byd Unesco.  Ac os hoffech chi aros noson neu ddwy – mae’r Whitehouse Hotel yn Llandudno, sy’n gyfforddus, yn fforddiadwy ac yn ddelfrydol ar gyfer teuluoedd, wedi’i leoli bum milltir yn unig o Gastell Conwy, ac yn lle gwych i gychwyn eich antur.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Gallwch deimlo fel brenhines (neu frenin) y castell yn Osborne House

Mae tref glan môr hyfryd Llandudno lai na 12 milltir i’r gorllewin o Abergele, lle mae’r cystadleuwyr, y cyflwynwyr a’r criw cynhyrchu o tua 500 o bobl yn ymgartrefu yng Nghastell Gwrych. Cyn, yn ystod ac ar ôl y rhaglen, sef un o gynyrchiadau teledu mwyaf Ewrop, mae trigolion lleol o bob cwr o Sir Conwy, gan gynnwys Llandudno, yn ymuno yn yr hwyl. Mae busnesau Cymreig yn cael eu llogi i gyflenwi dillad, celfi a gwasanaethau, ac mae’r awyrgylch yn y ardal yn anhygoel.

Oes gennych chi awydd bod yn rhan o awyrgylch gyffrous Get-Me-Out-Of-Here, ond bod gennych chi fwy o ddiddordeb yn y gwesty moethus ar ôl gadael yn hytrach na’r oerfel a’r dioddef? Y peth doethaf i’w wneud felly fyddai archebu un o’r saith o ystafelloedd ysblennydd sydd yng ngwesty Osborne House, Llandudno. Gyda chaffi wrth olau cannwyll ar y llawr gwaelod a golygfeydd godidog o Fae Llandudno – heb sôn am y gwlâu mawr moethus -  mae’n lle delfrydol i ddianc iddo.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Rhowch sylw i’ch traed yn Elevate Your Sole

Er cymaint rydyn ni’n hoffi Cledwyn y Ciosg a’i natur ddifynegiant, mae o’n bendant yn gymeriad unigryw. Mewn cyferbyniad, mae pobl siopau go iawn Abergele yn gyfeillgar iawn ac yn ymgolli’n llwyr yn awyrgylch I’m a Celebrity, gydag arddangosfeydd ffenestri a syniadau a chynigion arbennig.

 “Rydyn ni’n edrych ymlaen at gael y tîm yn ôl yn yr ardal leol ac yn gobeithio y byddan nhw’n dod o hyd i’n siopau esgidiau bach ni!” meddai Nicola Hamon o siop Elevate Your Sole. “Mae gennym ni amrywiaeth o esgidiau gyda leinin ar gael i gadw eu traed yn gynnes yn ystod gaeafau oer Cymru. Rydyn ni wedi gwirioni’n arbennig ar ein hamrediad o esgidiau careiau llachar o arddull milwrol sydd i’w gweld yn boblogaidd iawn eleni. Ac ar gyfer gyda’r nosau, rydyn ni’n siŵr y bydden nhw wrth eu boddau gyda’r sliperi Yoko. Mae gennym ni hefyd amrywiaeth wych o sgarffiau, hosanau bambŵ ac ambaréls, felly fe allwn ni’n bendant eu gwisgo nhw’n briodol tra byddan nhw yma!”

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Dewch i fwynhau seibiant sba yng nghanol byd natur yn y Wave Garden Spa

Os ydych chi, fel cystadleuwyr I’m a Celebrity, yn hoffi goresgyn eich ofnau a phrofi’ch hun i’r eithaf, fe wyddoch chi cymaint o wefr y mae hynny’n ei roi i chi. Ond weithiau, mae angen i chi roi’r gorau i’r bwrlwm ac ymlacio. Yn y Wave Garden Spa, y drws nesaf i westy cyfforddus a chyfoes yr Hilton Garden Inn Snowdonia, fe allwch chi fynd ati i adfer, adnewyddu ac adfywio. Mae hyd yn oed ei olygfeydd yn iachusol, yn ymestyn dros ddyfroedd lagŵn syrffio fewndirol Adventure Parc Snowdonia ymhell i’r coedwigoedd a’r mynyddoedd y tu draw. 

Mae’r Hilton Garden Inn Snowdonia yn cynnig seibiannau arbennig ar gyfer yr hydref neu’r gaeaf, wedi’u hysbrydoli gan natur. Wyddoch chi’r teimlad heb ei ail yna a gewch chi ar frig ton, ar gopa mynydd neu’n ddwfn yn nhywyllwch dwys coedwig? Dyna i chi’r teimlad o ddedwyddwch y mae'r Wave Garden Spa yn ceisio ei ail-greu.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Rhuthrwch i mewn i’r gaeaf gyda Mynydd Sleddog Adventures

Os oes yna unrhyw un yn gwybod am werth ysgogol gwaith tîm, heriau a gwobrau fel sydd i’w cael yn I’m a Celebrity, yr hyfforddwyr cŵn ym Mynydd Sleddog Adventures yw’r rheiny, ac maen nhw’n cynnig yr unig gyfle i gael reidiau cŵn llusg a chŵn sled yng Nghymru. “Rydyn ni bellach ar gychwyn y prif dymor sledio cŵn”, meddai’r cyfarwyddwr, Joe Swiffen. “Mae’r tymheredd yn disgyn o’r diwedd, felly mae ein cŵn wedi bod yn hyfforddi’n galed ac yn cadw’n heini ar ôl eu seibiant dros yr haf.”

 “Yn ystod yr haf, buom yn cystadlu mewn ambell i bencampwriaeth gydag un o’r cŵn bach, sef Xinaskyii’s Hogyn Drwg. Fe enillodd bron pob un o’r sioeau y bu’n cystadlu ynddyn nhw ac mae o bellach yn ymuno â ni ar ein teithiau drwy'r goedwig. Rydyn ni'n edrych ymlaen yn arw at gael ein cŵn blwydd oed allan ar y llwybrau, a chael cyflwyno’r diweddaraf yn eu plith i bawb, sef ci Siberia bach o Norwy. Rydyn ni eisoes wedi dechrau rhedeg ein timau chwe chi gyda theithwyr, ac yn edrych ymlaen at gael mynd allan yn amlach wrth i’r gaeaf gyrraedd.”

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Paratowch ar gyfer y Nadolig yn Hostel Llandudno

Erbyn i I’m a Celebrity ddod i ben yn gynnar ym mis Rhagfyr, fe fyddwn ni wedi hen ddechrau ar dymor y partïon Nadolig. Ond os brysiwch chi, mae yna amser o hyd i chi archebu seibiant Nadoligaidd gyda’ch teulu a’ch ffrindiau yn Hostel Llandudno. Mae ar gael ar gyfer partïon tŷ dros y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd am bris hostel-gyfan munud olaf o £750 y noson, i lawr o £1250, pan fyddwch chi’n archebu tair noson o leiaf.

Mae gan y tŷ tref llawn cymeriad hwn bopeth y bydd arnoch chi ei angen  i greu atgofion bendigedig yn nhref glan môr hyfryd Llandudno. Mae yna 11 ystafell wely (sy’n cysgu hyd at 49 o westeion), ystafell fwyta, sied feics, Wi-Fi a chyfleusterau hunanarlwyo anhygoel. Os byddai’n well gennych chi gael gwasanaeth arlwyo – neu os hoffech chi rhywfaint o gymorth i archebu eich twrci gan y cigydd lleol, Edwards o Gonwy, fe gewch chi ddyfynbris gan yr hostel. Gorau oll, mae yna lolfa gyfforddus gyda lle tân Fictoraidd i chi ei defnyddio; felly gwnewch yn siŵr bod gennych chi ddigon o foron, mins peis, brandi a hosanau Nadolig.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?

Gadewch Ymateb