Gyda boreau tarthog, glaswellt gwlithog a dail euraidd, mae’r hydref yn amser hardd o’r flwyddyn i ymestyn eich coesau yn yr awyr agored.

Hwyl ar gyfer cŵn ar Draeth Pensarn

Hydref yw hoff dymor holl gŵn yng Nghonwy. Pam? Oherwydd ei fod yn amser i fynd yn ôl ar y traeth. O Hydref i ddiwedd Ebrill, mae’r rheolau gwahardd cŵn sy’n gymwys yn ystod misoedd yr haf ar draethau poblogaidd megis Traeth Pensarn ger Abergele, yn cael eu codi, gan adael ein cyfeillion pedair coes yn rhydd i deimlo’r tywod o dan eu pawennau.

Felly ewch a nhw am dro hir, gollyngwch nhw’n rhydd o’u tennyn a gwyliwch nhw wrth iddynt redeg ar hyd y lan, cyfarth ar y tonnau a hyd yn oed mentro i mewn i badlo. Pwy a ŵyr – os yw’r tywydd yn ddigon mwyn, gallwch chi gael eich temtio i dynnu eich esgidiau ac ymuno â nhw.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cloddio i orffennol cyfareddol Bae Colwyn

Wedi lansio ym Medi 2021, mae’r Llwybr Dychmygu (imaginetrail.com) yn eich arwain ar gyfres o anturiaethau ysgafn o amgylch Hen Golwyn, Bae Colwyn, Mochdre a Llandrillo-yn-rhos, i ddarganfod holl fathau o straeon am hanes a threftadaeth y rhanbarth. Wyddoch chi, er enghraifft, fod eliffant mecanyddol maint llawn yn arfer mynd i fyny ac i lawr promenâd Bae Colwyn?

Lawrlwythwch yr ap Llwybr Dychmygu am ddim ar eich ffôn clyfar, ac wrth i chi ddilyn y llwybrau, bydd effeithiau realiti estynedig, fideos animeiddiad, synau a darnau o hanes a fydd yn dod a’r tirluniau ac atgofion yn fyw. Roedd yr ap dwyieithog, creadigol hwn wedi cymryd dwy flynedd i’w greu, gyda 334 o bobl lleol, gan gynnwys haneswyr, artistiaid a phlant ysgol yn cymryd rhan.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Mwynhewch helfa drysor Gwlad Hud yn Llandudno

Ym 1862 treuliodd merch fach o’r enw Alice Pleasance Liddell – y ferch ifanc a ysbrydolodd Alys yng Ngwlad Hud – ei gwyliau cyntaf ym Mhenmorfa, ym mhlasty Gothig Fictoraidd newydd sbon y teulu ym Mhenmorfa, Llandudno. Credir bod Charles Dodgson (sef Lewis Carroll) yn arfer ymweld â’r Liddells yma, gan fod Through the Looking Glass, y dilyniant i Alys yng Ngwlad Hud, yn cyfeirio ar dirluniau lleol. Mae’r ddwy graig allan yn y bae, er enghraifft, yn cael eu galw’n ‘Walrus and the Carpenter’.

Yn anffodus nid yw Penmorfa bellach yn bodoli, ond mae Llandudno yn parhau i wneud y mwyaf o’i gysylltiadau gyda chwedlau Lewis Carroll, ac mae llwybr cerdded Alys yng Ngwlad Hud (alicetowntrails.co.uk), wedi’i nodi gan bawennau cwningen mewn efydd, yn eich arwain trwy’r dref. Os hoffech wneud y mwyaf o’r llwybr, prynwch ganllawiau o Ganolfan Ymwelwyr Llandudno neu o’u Siop Ar-lein

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Ewch am dro ar hyd Llwybr yr Arglwyddes Fair gydag Iolo Williams

Beth all fod yn fwy lleddfol na llais tyner y naturiolwr Cymraeg, Iolo Williams yn eich clustiau wrth i chi grwydro ar hyd glannau’r afon Conwy ger tref farchnad Llanrwst? Mae Iolo yn cyflwyno canllaw clywedol Llwybr yr Arglwyddes Fair, ar gael i’w lawrlwytho fel mp3. Mae’n cynnwys stori am y wraig fonheddig un ar bymtheg mlwydd oed o’r 17eg ganrif, yr Arglwyddes Mary Wynn o Wydyr, ac roedd ystâd wledig ei thad, oddeutu 80,000 o aceri, y mwyaf yng Ngogledd Cymru.

Yn arwain trwy Goed Gwydyr gyda Llwybr Cerfluniau’r Ceirw a golygfeydd godidog dros Lanrwst, mae’r llwybr canolradd hwn yn 1.25 milltir (2.1km) o hyd. Gallwch ei gwblhau mewn awr, gyda’r hanes clywedol yn para am 20 munud.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Ciciwch drwy ddail yr hydref yng Nghoed Shed

Yn dechrau o bentref Groes ger y ffin â Sir Ddinbych yn nwyrain Sir Conwy, mae’r daith gerdded gylchol hardd i Goed Shed yn mynd drwy lonydd gwledig a llwybrau coetir hardd. Mae Coed Shed yn goetir saith hectar hynafol sy’n llawn coed collddail sy’n hynod o hardd yr adeg hon o’r flwyddyn.

Mae’r daith oddeutu 1.5 milltir (2.4km) o hyd. Mae’n eithaf hawdd, ond mae rhai llethrau serth, felly cymerwch ofal os ydi hi wedi bod yn glawio a chaniatewch o leiaf awr i gwblhau’r llwybr. Os ydych yn wyliwr bywyd gwyllt brwd neu’n ffotograffydd, sicrhewch fod gennych ddigon o amser, ac efallai dychwelyd ar wahanol adegau o’r dydd i ddal y golau’n newid.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Dilynwch yn ôl-troed arwr lleol Huw Tom

Mae Taith Ucheldir Huw Tom yn llwybr canolradd chwe milltir (9.6km) yn mynd i’r de o Benmaenmawr ar arfordir Gogledd Cymru, i fyny dros odre Eryri, ac yn i lawr i bentref hardd Rowen yn Nyffryn Conwy. Mae’r llwybr wedi ei enwi ar ôl y gwleidydd, undebwr llafur a’r bardd o’r 20fed ganrif, Huw Thomas Edwards, a adnabuwyd fel Huw Tom neu Huw T. Roedd yn gadeirydd Cyngor Cymru a Sir Fynwy yn y 1940au a’r 50au, swydd a hawliodd yr enw answyddogol Prif Weinidog Cymru iddo.

Fe’i ganwyd yn Rowen ym 1892, ac fe adawodd ysgol y pentref, Ysgol Rowen yn 14 oed, er mwyn ennill cyflog yn Chwarel Graiglwyd ym Mhenmaenmawr. Roedd ef a nifer yn y pentref yn cerdded dros y bryniau bob bore, yn gweithio shifft llawn yn chwarela ithfaen, ac yna’n cerdded yr holl ffordd yn ôl adref. Mae’r llwybr wedi’i arwyddo yn dangos eu llwybr adref. Mae’n daith gerdded gwledig iawn, gyda llethrau i’w dringo, camfeydd a nant i’w groesi. Y wobr? Golygfeydd godidog dros Ddyffryn Conwy, y Gogarth a Bae Lerpwl.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Crwydrwch rosydd grugog Llwybr Hiraethog

Ydych chi’n barod am fwy o her? Mae Llwybr Hiraethog, llwybr gwledig hir sy’n mynd i’r gogledd ddwyrain o odreon Eryri i Sir Ddinbych, yn berffaith ar gyfer selogion gwyliau cerdded. Mae wedi’i rannu’n dwt i chwe rhan, sy’n cymryd rhwng dwy ac wyth awr yr un i’w cwblhau: gallwch wneud y chwe llwybr yn ystod un penwythnos hir, neu eu gwasgaru dros gyfnod o wythnos. Fel arall, i’r rhai sydd eisiau llwybr byrrach, mae llwybrau cylchol eraill i’w profi, sydd rhwng tair a phum milltir o hyd, ac yn cymryd tua dwy i bedair awr yr un.

Yn cysylltu pentrefi Pentrefoelas, Cerrigydrudion, Llangwm, Llanfihangel Glyn Myfyr, Cyffylliog, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch a Bodfari, mae’r llwybr yn croesi Mynydd Hiraethog, ardal o lynnoedd, ucheldir a choetir cysgodol, gyda safleoedd gwersylla gwych, Gwely a Brecwast a bythynnod gwyliau sy’n croesawu cerddwyr.

Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth.

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Nid oes unrhyw un wedi gwneud sylw ar y neges hon eto, beth am anfon eich syniadau a bod yr un cyntaf i wneud?

Gadewch Ymateb