Er ei bod yn nesáu am y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, nid yw’r rhy hwyr i drefnu gwyliau gaeafol hyfryd yn Sir Conwy. Dyma rywfaint o syniadau.

Beth am adael eich anifeiliaid anwes yng ngofal arbennig Petplace dros gyfnod yr ŵyl

Wrthi’n trefnu dihangfa funud olaf dros y Nadolig neu’r Flwyddyn Newydd?  Peidiwch ag anghofio rhoi sylw arbennig i’ch anifeiliaid anwes.  Gwyddwn cymaint y gall tân gwyllt eu dychryn, felly eu cadw y tu mewn sydd orau ar ôl iddi dywyllu adeg yma’r flwyddyn, a chreu lle diogel iddynt guddio.  Beth arall? Mae gan Petplace yn Abergele nifer o gynghorion meddylgar, o sicrhau nad ydy’ch anifeiliaid anwes yn cnoi gwifrau’r goleuadau Nadolig i wrthsefyll y demtasiwn i’w bwydo â phethau a allai wneud drwg iddynt.  Nid yw mins-peis, siocled, grefi nionyn, esgyrn twrci na chaws byth yn syniad da, waeth pa mor berswadiol yw’r llygaid bach ymbilgar.

Mae gan storfa Petplace yn Abergele ddigonedd o syniadau hwyliog am anrhegion funud olaf.  Beth am gôt dartan smart newydd i’ch ci, er mwyn bywiogi mynd am dro ar Ddydd Gŵyl San Steffan?  Galwch heibio er mwyn dewis un, er mwyn i chi gael mwynhau rhywfaint o ddanteithion fel eich gilydd yn y Parc Cŵn a’r siop goffi.

Cliciwch yma  am fwy o wybodaeth. 

Rhowch rywfaint o’ch amser yn Adventure Parc Snowdonia

Dyma syniad arall am anrheg munud olaf hynod arbennig- yn yr achos hwn, ar gyfer y rhai o’ch cwmpas sydd wrth eu boddau’n cael hwyl yn yr awyr agored.  Beth am roi taleb iddynt ei gwario ar driniaethau mewn sba, anturiaethau awyr agored, neu seibiant cyffrous ac egnïol?  Os yw dewis yr anrheg cywir ar eu cyfer yn gallu bod yn her, gall hyn fod yr ateb perffaith.  Mae gan Adventure Parc Snowdonia ffordd hyfryd o’i ddehongli:  “Credwn mai’r ateb yw amser.  Amser i ailgysylltu â’r awyr agored, amser i ymlacio, amser i deimlo ysbrydoliaeth ac amser i fwynhau’r mannau hyfryd gyda’ch teulu neu’ch ffrindiau.”

Mae Adventure Parc Snowdonia yn cynnig talebau rhodd Syrffio ac Anturio, ar gyfer gwefrau megis syrffio lagŵn a dringo awyr agored, ynghyd â thalebau Sba Wave Garden ar gyfer dewislen y ganolfan o driniaethau lles, sydd wedi’i churadu’n ofalus.  Gallech hefyd ychwanegu taleb gan yr Hilton Garden Inn, Eryri, y gellir ei defnyddio fel taliad llawn neu ran o daliad tuag at lety a bwyd yng ngwesty anhygoel, cyfoes Adventure Parc Snowdonia. 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Gloywch eich mwyseiriau yn ystod arhosiad digrif tu hwnt yng Ngwely a Brecwast Stratford House

Os byddwch yng Nghonwy yn ystod mis Rhagfyr neu fis Ionawr, mae dal amser i archebu tocynnau ar gyfer sioe.  Oes, mae digon o amser!  Mae’r digrifwr John Evans a’r seren lleol James Lusted yn rhan o gast Aladin yn Venue Cymru, Llandudno (venuecymru.co.uk) hyd 2 Ionawr 2022, ac mae Elen Benfelen a’r Tair Arth yn achosi anhrefn sydd wedi ei goreograffu’n ofalus yn Theatr Colwyn (theatrcolwyn.co.uk) ym Mae Colwyn hyd 1 Ionawr 2022.  Er mwyn gweld pantomeim gwahanol i’r arfer, mae gan Theatr Bypedau 1950au yr Harlequin (puppetshow.info) yn Llandrillo-yn-Rhos, theatr marionét barhaol gyntaf Prydain, gynhyrchiad arbennig o Aladin: caiff ei ddangos o 26 Rhagfyr 2021 hyd 5 Ionawr 2022, yn ddyddiol am 3pm.

Ag yntau’n ymhell o dan ddeng munud ar droed o Venue Cymru ac o fewn pellter hawdd i’w ddreifio o Landrillo-yn-Rhos a Bae Colwyn, byddai Gwely a Brecwast Stratford House yn le gwych i aros.  Ac yn well na hynny, mae gan y Gwely a Brecwast rhagorol frecwast blasus iawn, sy’n cael ei weini â steil.  Peidiwch ag anghofio edmygu’r bae prydferth cyn i chi adael.  Mae y tu ôl i chi!

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Cymerwch ran yn nathliad arbennig Gwesty’r Imperial

Llongyfarchiadau i Geoff Lofthouse, sy’n dathlu 40 mlynedd fel rheolwr cyffredinol Gwesty’r Imperial yn Llandudno, sydd o bosib yn golygu mai ef sydd wedi gwasanaethu hiraf fel rheolwr gwesty yng Ngogledd Cymru.

Fel petai rhedeg gwesty mawr ddim yn ddigon iddo, mae Geoff yn ymgymryd â nifer o fentrau codi arian, gan gynnwys beicio o Lundain i Baris ac o bwynt gorllewinol eithaf yr Alban i Benrhyn Cothnais i godi arian ar gyfer Diabetes UK, Dementia UK, Springboard, Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint ac Ambiwlans Awyr Cymru, i enwi ond rhai.  Mae Geoff hefyd yn hyrwyddo busnesau lleol ac yn cefnogi elusennau lleol gan gynnwys Hosbis Dewi Sant a Chyn-filwyr Dall yn Llandudno, a Hosbis Plant Tŷ Gobaith ger Conwy.

Ar ddathlu’r garreg filltir hon, dywedodd Geoff:  “Mae pawb yn dweud bod amser yn hedfan wrth gael hwyl- a dwi wedi cael llawer o hwyl dros y 40 mlynedd!  Mae gweithredu fel gwesty yn ystod pandemig wedi bod yn her ac mae’n rhaid i mi ddiolch i’r holl staff, y rhai presennol a’r rhai a fu, am eu holl waith caled a’u hymroddiad.”

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Dihangwch i Ystâd Bodnant ddechrau 2022

Ydych chi erioed wedi ystyried ar ddiwedd tymor yr ŵyl: dwi’n haeddu seibiant arall, a hynny’n fuan?  Rydym ni’n gwybod y teimlad.  Mae cwpwl o ddiwrnodau i ffwrdd mewn llety hunanddarpar yn wych ar gyfer cael digon o ryddid i ymestyn ac ymlacio mewn moethusrwydd a phreifatrwydd.

Mae ystâd brydferth a hanesyddol Bodnant yn cynnig deg o fythynnod gwledig, dymunol, sy’n croesawu cŵn ar gyfer rhwng 2 ac 11 o westeion.  Setlwch i mewn, a gallech dreulio eich diwrnodau yn ymlwybro trwy’r dail yng nghoetiroedd preifat yr ystâd neu fynd am dro ar draws traethau gorau’r sir, sy’n agos iawn mewn car.  A hwythau ar riniog Canolfan Bwyd Cymru Bodnant, ni fyddai llenwi eich cegin â chynnyrch lleol ffres yn ddim problem.  Yn ogystal, mae’n bosib mwynhau te prynhawn yn ystafelloedd te’r Pafiliwn a Magnolia yng Ngerddi enwog Bodnant, sy’n cael eu rhedeg gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. 

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Edrychwch ymlaen at flagurion gwyrdd cyntaf y gwanwyn ym Mryn Derwen

Mae canol y gaeaf yn prysur agosáu, ond ymhen dim bydd yr eirlysiau a blodau’r gog yn dod i’r golwg, arwydd nad oes gennym lawer o amser i aros am ein ffefryn, y cennin pedr.  Rydym yn edrych ymlaen at weld y diwrnodau’n ymestyn a goleuo, ynghyd â mynd am dro iach yn y boreau a phrynhawniau bach clyd. 

Bydd Bryn Derwen, fila Fictoraidd heddychlon, yn llinell y coed Lôn yr Abaty, Llandudno, yn ailagor ar gyfer gwely a brecwast tua diwedd y gaeaf, mewn pryd ar gyfer Dydd Gŵyl Sant Ffolant a gwyliau hanner tymor mis Chwefror 2022.  Gyda naw o ystafelloedd gwely sydd wedi’u cynllunio’n unigol, lolfa gain a gardd furiog, mae’n lle hyfryd i ymlacio yn ystod yr amser hwyliog ac optimistaidd hwn.  Os ydych chi’n credu y byddai’r rhai sydd agosaf atoch yn hoff o aros yma, beth am brynu taleb rhodd iddynt?  Pwy â ŵyr, efallai y byddwch yn cael dod gyda nhw hefyd pan ddaw’n amser archebu.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Mae sylwadau wedi eu hanalluogi ar gyfer y neges hon.