Yma yng Nghonwy rydym ni’n edrych ymlaen at Nadolig Llawen iawn! Os ydach chi’n dal yn chwilio am anrheg arbennig i rywun arbennig, gall ein Canolfannau Croeso a’n siop ar-lein fod o gymorth. Beth am alw heibio heddiw?

Dathlwch y Gymraeg y Nadolig hwn

Un o’r enwau Cymraeg sydd gennym ni am y dyn sy’n rhoddi anrhegion i blant bach ydi Siôn Corn. I gael dechrau traddodiadol i’r noson hudolus y daw Siôn Corn o Wlad y Ceirw efo’i sach yn llawn anrhegion, beth am roi Blwch Noswyl Nadolig i’ch teulu, yn llawn fferins a phethau da eraill? Mae ein bocs pren addurnedig (£17.99) yn cynnwys mat Diod Siôn Corn ac Allwedd Hud Siôn Corn rhag ofn nad oes gennych chi gorn simdde a bod yn rhaid iddo ddod i mewn ffordd arall.

Mae gan Ganolfannau Croeso a siop ar-lein Dewch i Gonwy ddewis gwych o anrhegion ac addurniadau Nadolig Cymraeg – ffordd berffaith i ddymuno hwyl yr ŵyl i’ch teulu a’ch ymwelwyr. Mae yma faneri (£12.99), mygiau (£8.99), tai LED i osod ar eich coeden (£9.99) a chlustogau hyfryd gyda defaid Cymreig wedi’i gwisgo’n gynnes ar gyfer y gaeaf (£13.99). Mae gennym ni hefyd lyfrau ar gyfer dysgwyr Cymraeg (o £3.99).

Codi gwydriad (neu fwg) i ddathlu ysbryd y Nadolig yng Nghymru

Does dim dathliad Nadolig yn gyflawn heb yfed iechyd da. I wneud eich un chi’n arbennig eleni, mae gennym ni fatiau diod llechi (o £7.99) a dewis da o wydrau chwisgi, jin a chwrw (o £7.99), a bob un wedi’i addurno gyda’r Ddraig Goch. Iechyd da!

Os oes yn well gennych chi baned o de, yna beth am de dail rhydd organig Blighty Brew (o £4.50) sydd wedi’i wneud o ddail te chunmme gwyrdd a pekoe oren o’r ansawdd gorau. Os nad ydych chi wedi ychwanegu ychydig o fygiau Nadolig Llawen i’ch basged, rŵan ‘di’r adeg i wneud hynny! Rydym ni hefyd yn argymell eich bod chi’n cael cyflenwad o fagiau te Paned Gymreig (o £2.49), wedi’u cynhyrchu gan fusnes teuluol yn y Mwmbwls. Maen nhw’n cynnwys te o Affrica ac India wedi’u cymysgu i ategu dŵr Cymreig yn berffaith – ond mae’n siŵr y byddai unrhyw ddŵr yn iawn!

Difethwch nhw gyda phethau melys a blasus

Os ydych chi wrth eich bodd gyda siocled, mi fyddwch chi wedi gwirioni efo’r barrau siocled There’s No Place Like Llandudno At Christmas (£2.99), sydd wedi’u gwneud yng Nghymru yn defnyddio rysáit o Wlad Belg. Mae’r papur yn cynnwys llun o Dramffordd y Gogarth yn yr eira, gyda Siôn Corn a’i geirw yn hedfan uwchben.

I gael blas ar hanes Cymru, beth am focs o deisennau brau Aberffraw (£4.50)? Wedi’u gwneud â llaw yn defnyddio ryseitiau bisgedi hynaf Prydain mae’r cregyn cylchog hyn, sydd wedi ennill gwobr Great Taste, yn union fel hen fisgedi’r pererinion yn y deuddegfed ganrif. Rydym ni hefyd yn gwerthu danteithion lleol fel taffi Brays (£2.99), jam Welsh Lady (£2.99) a chacennau cri (£1.99), bara brith (£3.99) a theisennau brau (£1.99) Tan y Castell.

Os oes arnoch chi angen esgus da i fwyta, beth am fynd am dro yn ein cefn gwlad hardd? Bydd ein hamper moethus i gerddwyr (£55.99) yn anrheg berffaith i’r crwydrwyr yn eich bywyd: mae’n llawn bisgedi Tan y Castell, bagiau te Paned Gymreig a llyfrau cerdded Kittiwake ar gyfer y teithiau gorau yn y sir – o’r arfordir i fyny Dyffryn Conwy i odre Eryri. Mae hefyd yn cynnwys blanced bicnic Tweedmill (sy’n £27.49 os ydych chi’n ei phrynu ar wahân) sydd wedi’i gwneud yng ngogledd Cymru gyda chotwm organig sy’n addas i’r peiriant golchi ac ochr gwrth-ddŵr; mae hefyd yn rholio’n ôl yn daclus sy’n handi iawn.

Rhowch anrheg sy’n dweud Dw i’n Dy Garu Di

Wedi’u cerfio’n ofalus allan o un darn o bren, mae llwyau caru Cymreig yn anrhegion sy’n dweud mwy na geiriau. Ganrifoedd yn ôl, pan nad oedd gan y mwyafrif o fechgyn Cymru arian a phan oedd gwerth i grefft, byddai llwy garu sycamorwydden hardd yn aml iawn yn ddigon i ennill cariad merch. Ar ôl i’r ddau briodi byddai’r llwy garu yn cael ei harddangos yn eu cartref, yn debyg iawn i lun priodas heddiw. Erbyn heddiw mae llwyau caru yn arwydd o ramant: mae rhoi un yn anrheg yn ffordd hyfryd i wneud i rywun deimlo’n arbennig, a dathlu traddodiad Celtaidd ar yr un pryd. Mae gennym ni amrywiaeth o ddewis (o £16.99) wedi’u cerfio â llaw gan Pageant Woodcrafts yn Llanrwst.

Mae Canolfannau Croeso a siop ar-lein Dewch i Gonwy hefyd yn gwerthu amrywiaeth rhamantus o glustlysau a chadwyni arian sterling ac aur coch (o £14.99) gan Celtic and Welsh Jewellery sydd wedi’i redeg gan deulu’r Pratt yn ne Cymru. Yna mae gennym ni addurniadau gwydr ymdoddedig lliwgar Pam Peters Designs, wedi’u gwneud â llaw ym Mae Colwyn gan fam a merch, Pam a Beth Peters. Mae’r corachod bach gwyrdd sydd ganddyn nhw mor ddel – yr union beth ar gyfer eich coeden Nadolig.

Oes gafr yn eich hosan Nadolig eto?

Os ydi’ch anwyliaid chi wrth eu boddau efo’r geifr Cashmir sy’n byw ar y Gogarth (ac sydd wedi dod yn fyd-enwog yn ystod y cyfnod clo am grwydro o gwmpas Llandudno ac yn cnoi ar y llwyni), cofiwch roi anrheg Geifr y Gogarth yn eu hosanau Nadolig. Maen nhw’n siŵr o roi gwên ar eu hwynebau. Rydym ni wedi gwirioni ar fatiau diod (£4.99), mygiau (£10.99) a bagiau cario (£13.99) Geifr Llandudno Mari Jones, sydd â chartwnau hynod gan ei hen ffrind ysgol, y darlunydd Lisa Williams, o Landrillo-yn-Rhos. Ond y peth mwyaf poblogaidd sydd gennym ni yn adran Geifr y Gogarth ydi'r Great Orme Goat Doo-Doos (£2.99) gan Brays – taffi wedi'u gorchuddio â siocled sy'n debyg iawn i... wel, 'da chi'n gwybod be’.

Nwyddau bach da eraill sy’n berffaith i’r hosan Nadolig ydi’r magnetau llwy garu poblogaidd (£2.99), jariau Halen Môn (£16.99) a’n dreigiau bach coch meddal (o £4). Fel arall, beth am lyfr o ddiddordeb lleol neu lyfr cerdded (o £3.50)? Yr union beth i helpu’ch cyfeillion gynllunio’u hantur nesaf yn y sir.

Anrhegion Cymreig gan Visit Conwy (shopconwy.wales)

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Mae sylwadau wedi eu hanalluogi ar gyfer y neges hon.