Ymunwch â ni ym mhrydferthwch Gogledd Cymru wrth i’r dyddiau ymestyn, ein gerddi flodeuo a lle cynhelir dathliadau llawn hwyl i roi pawb mewn hwyliau da.

Mwynhewch eich hun gyda Phrofiad y Pasg Parc Fferm Manorafon

Dyma’r adeg braf o’r flwyddyn lle mae’r cywion yn canu, y cennin pedr yn blodeuo a lle mae pawb yn gwirioni am siocled. Bydd plant sy’n arbenigo mewn cwningod siocled llaeth (rhai masnach deg, wrth gwrs) wrth eu bodd â’r Helfa Wyau Pasg ym Mharc Fferm Manorafon yn Abergele: mae’n wych. 

Ewch â’r plant am daith drwy’r ddrysfa, o gwmpas yr ardd fawr ac i’r te parti anferth, ac os ydynt yn dod o hyd i hanner dwsin o wyau lliwiau gwahanol, byddant yn ennill gwobr.

Wedyn, ewch i’r Cwt Potiau, lle gall y teulu cyfan helpu Cwningen y Pasg a’i gynorthwywyr galluog i blannu moron. Yn y parc fferm ei hun, gallwch weld cwningod bach go iawn â chlustiau blewog, yn ogystal â geifr, defaid a moch cyfeillgar. Mae lle chwarae yno hefyd - sy’n berffaith i’ch plant bach.

Mae hwyl y Pasg ym Mharc Fferm Manorafon yn dechrau dydd Gwener y Groglith (15 Ebrill) ac yn parhau ddydd Sadwrn y Pasg (16 Ebrill) a dydd Sul y Pasg (17 Ebrill)

Cliciwch yma i ddarganfod mwy

Codwch eich hwyliau drwy ymweld â Gardd Bodnant y gwanwyn hwn

Nid Japan yw’r unig genedl i fynd yn emosiynol am flodau’r gwanwyn - yma yng Nghymru, rydym yn mynd yn farddol iawn. Mae Gardd Bodnant yn Sir Conwy yn lle bendigedig i gerdded o gwmpas, gyda phobl yn dod yn ôl mis ar ôl mis i fwynhau’r holl liwiau gwahanol sy’n dod ar adegau gwahanol o’r flwyddyn, o’r rhesi o gennin pedr a’r carpedi o glychau’r gog i’r coed ceirios sy’n llawn blodau cain. 

O fis Mawrth i fis Mehefin, mae Casgliadau Cenedlaethol Bodnant o fagnolias a rhododendron, lle daeth llawer ohonynt gan helwyr planhigion Fictoraidd enwog, yn blodeuo. 

Pam na wnewch chi ymweld â’r ardd rhwng 15-18 Ebrill 2022, pan gynhelir llwybr wyau Pasg i blant?

Dewch ddiwedd y gwanwyn, a gallwch weld planhigion egsotig gorfoleddus, fel y goeden hances bapur â phetalau ifori, llwyni fflamgoch Chileaidd lliw fflamau, pabïau glas Himalaiaidd a briallu Himalaiaidd coch golau. Ond yr arddangosfa fwyaf ysbrydoledig allan ohonyn nhw i gyd yw Bwa Tresi Aur byd-enwog Bodnant, sef rhodfa felen hyfryd sydd ar ei orau ddiwedd mis Mai ac ar ddechrau mis Mehefin.

Eleni, mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn dathlu tymor y gwanwyn gyda # GwleddYGwanwyn, sef cyfle i rannu eich lluniau ag eraill - ac efallai cyfansoddi ambell i gerdd. 

Cliciwch yma i ddarganfod mwy

Mae’n amser ail-fyw partïon y flwyddyn 1899 yn Strafagansa Fictoraidd Llandudno 

Yma yn Sir Conwy, rydym yn caru’r gwanwyn. Felly mae’n naturiol ein bod yn dewis yr adeg hyfryd hon o’r flwyddyn i gynnal y digwyddiad teulu am ddim mwyaf yng Nghymru. Wedi’i gynnal yn Llandudno ers 1986, mae ein Strafagansa Fictoraidd dros dri diwrnod yn dathlu ysblander hanesyddol y dref. 

Beth bynnag fo’r tywydd, mae yna bethau da yn mynd ymlaen bob amser yn yr ŵyl arbennig hon: bydd y strydoedd bonheddig yn llawn gwisgoedd Fictoraidd, injans stêm a rhyfeddodau eraill, a chynhelir cyngherddau, cystadlaethau a digwyddiadau syrcas mewn pabell fach (fel pabell fawr, ond yn fwy ciwt). Bydd masnachwyr lleol yn ymuno â’r hwyl hefyd, gydag arddangosfeydd arbennig mewn ffenestri siop a stondinau dros dro wedi’u dylunio i fynd a phawb yn ôl mewn amser.

Un o uchafbwyntiau’r Strafagansa Fictoraidd yw’r orymdaith o hen gerbydau a diddanwyr sy’n teithio drwy’r dref pob dydd am hanner dydd. Eleni, bydd y Strafagansa yn teithio trwy Landudno yn ystod penwythnos Gŵyl y Banc mis Mai, ddydd Sadwrn 30 Ebrill, dydd Sul 1 Mai a dydd Llun 2 Mai 2022, rhwng 10am a 5pm. 

Cliciwch yma i ddarganfod mwy

Ahoi! Mae Gŵyl Môr-ladron Conwy yn ôl! 

Byddwch yn barod - mae’r ail benwythnos ym mis Mai yn mynd i fod yn llawn hwyl. Os ydych chi’n mynd am dro i Gonwy ac yn digwydd arogli mwg powdr gwn yn yr aer neu’n clywed sŵn yr hen ganonau, peidiwch â phoeni - mae hyn i’w ddisgwyl.

Mae’r penwythnos yn dechrau gyda digwyddiad ail-greu uchelgeisiol yng Nghastell Conwy. Byddwch yn barod i glywed gweiddi a bloeddio wrth i fôr-ladron a milwyr frwydro yn y sioe fawr sy’n dangos cryfder, menter a chyfrwystra. Ond mae yna lawer mwy na hynny ymlaen. Ar Gei Conwy, bydd y Port Sunlight Sea Dogs yn canu caneuon morwyr ymhlith rhai yn cwffio gyda chleddyf, brwydrau gwn, cystadlaethau rolio casgenni a llwyth o adloniant arall i’ch rhoi chi mewn hwyliau da.

Bydd y sioe yng Nghastell Conwy yn cael ei gynnal ddydd Sadwrn 14 Mai 2022 rhwng 11am a 4pm. Gyda’r nos, bydd bwyd maethlon, cwrw lleol a cherddoriaeth gan yr Old Time Sailors ar gael mewn tafarn dros dro ar Gei Conwy. 

Bydd y tocynnau gyda’r nos yn costio £31.50. Bydd yr ŵyl yn parhau ddydd Sul 15 Mai; cadwch lygaid allan am y manylion llawn yn nes at yr amser.

Cliciwch yma i ddarganfod mwy

Cysylltiedig

0 Sylwadau

#number# Sylwadau

Mae sylwadau wedi eu hanalluogi ar gyfer y neges hon.