I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Nifer yr eitemau: 132
, wrthi'n dangos 21 i 40.
Cerrigydrudion
Mewn lleoliad uchel perffaith, y peth cyntaf fyddwch yn sylwi arno wrth gerdded i mewn i Gaffi Llyn Brenig yw’r golygfeydd godidog o’r llyn ac ar draws Mynydd Hiraethog.
Conwy
Tafarn goetsys Sioraidd draddodiadol yw The Erskine Arms, sy’n swatio o fewn muriau canoloesol Conwy dafliad carreg o gaer ganoloesol fawreddog y Brenin Edward I, Castell Conwy.
Llandudno
Pysgod a sglodion blasus a rhesymol dafliad carreg o draeth Llandudno. Beth arall sydd ei angen arnoch?
Llanrwst
Mae Bar a Bwyty’r Eagles yn arbenigo mewn bwyd Indiaidd, bwyd bar a mwy.
Colwyn Bay
Gyda golygfeydd anhygoel yn edrych dros Ddyffryn Conwy a’n cwrt cysgodol, mae Y Ffwrnais yn lle perffaith i gwrdd â ffrindiau a theulu.
Betws-y-Coed
Mae bwydlen bwyty Bridge wedi'i neilltuo ar gyfer cynnyrch lleol a thymhorol. Mae Bar 1815 yn gartref i ddetholiad anhygoel o jin o bedwar ban byd gyda nodwedd amlwg ar jin o Gymru.
Llandudno
Caffi trwyddedig yn gweini pysgod a sglodion clasurol mewn ystafell fwyta achlysurol dafliad carreg o Orsaf Victoria Tramffordd y Gogarth.
Llandudno
Parlwr hufen iâ llwyddiannus â dewis o 33 blas, sydd hefyd yn gweini waffls, crempogau a diodydd poeth ffres, lathenni o Draeth y Gogledd, Llandudno.
Llandudno
Mae Caffi Dewi yn lle croesawgar a chyfeillgar i fwynhau bwyd cartref blasus. Rydym ni ddau funud ar droed o draeth Penmorfa. Mae’r holl elw yn mynd at ofalu am gleifion Hosbis Dewi Sant.
Llandudno
Yn Ristorante Romeo rydym ni’n cynnig bwydlen helaeth Eidalaidd gan ddefnyddio’r cynhwysion gorau a mwyaf ffres yn lleol yn ogystal â chael eu mewnforio’n uniongyrchol o’r Eidal.
Llandudno
Yn Carlo's, mae’r fwydlen fodern wych yn cyfuno bwyd Eidalaidd traddodiadol ag arddull gyfoes.
Conwy
Bwyd Bangladeshaidd wedi’i leoli yng nghanol tref Conwy.
Llandudno
Mwynhewch de prynhawn traddodiadol, brecwast hwyr neu ginio yng nghanol Llandudno yn y busnes teuluol hwn.
Colwyn Bay
Beth am ymweld â ni yn ein siop ym Mae Colwyn lle gallwch brynu ein bara, cacennau a brechdanau ffres.
Glanwydden
Mae’r Queen's Head yn drysor cudd ym mhentref hyfryd Glanwydden, y tu allan i Landudno a Bae Penrhyn.
Llandudno
Nod Mediterranean Restaurant yw ail-greu'r teimlad gwyliau yn syth wrth i chi gamu i mewn i’r bwyty.
Llandudno
Rydyn ni’n gaffi cyfeillgar wedi’i leoli ar Clonmel Street, ddim yn bell o’r môr yn nhref glan môr hardd Llandudno.
Llandudno
Mae Dinos Llandudno yn frwd dros ddarparu bwyd blasus o safon uchel.
Llandudno
Bwydlen helaeth o brydau Cantoneg, a rhywfaint o brydau Siapaneaidd, sy’n cael eu gweini mewn awyrgylch ymlaciol.
Colwyn Bay
Nid yw ymweliad â Conwy Garden World yn gyflawn heb fynd draw i Lavender Tea Rooms.