Am
Bar a Bistro Sheldon’s yw’r 'Bar Dinesig newydd yn y Bae’. Cafodd ei sefydlu ym mis Hydref 2018, ac mae wedi ei leoli yng nghanol Bae Colwyn. Cafodd yr eiddo ei stripio yn llwyr a’i weddnewid gan ddefnyddio arddull llawn steil a retro sy'n wahanol i unrhyw beth arall yn yr ardal. O’r waliau brics moel, siandelïers wedi eu gwneud o hen ffenestri a drysau'n hongian o'r nenfwd, i gyfuniad unigryw o gwrw crefft, gwinoedd da, coctels a bwydlen helaeth. Mae’n anodd cymharu Sheldon’s gydag unrhyw leoliad arall.
Mae Sheldon’s yn cynnig bwyd lleol wedi ei goginio’n ffres. Mae ein bwydlen wedi ei chreu gan ein cogydd, a arferai fod yn berchennog bwyty. Rydym yn ymfalchïo yn ein dewis ‘arbennig’ sy’n cynnwys cacenni pysgod, pate macrell, cawl pysgod, tarten gennin a brie, hwyaden mewn saws eirin a brie wedi ei ffrio mewn saim dwfn.
Hefyd rydym yn cynnig detholiad eang o gaws, cigoedd a phlatiau bwyd figan, saladau, paninis a phlatiau bach ar ffurf ‘tapas’.
Mae Sheldon’s yn cynnig ‘Noson Stêc’ yn rheolaidd bob nos Iau lle rydym yn cynnig Stêc Bistro flasus gan ‘Edwards o Gonwy’, sglodion neu salad a gwydraid o win y tŷ neu gwrw am £15.00 y pen.
Mae gennym ni gwrw, gwinoedd a gwirodydd gan gynifer o fusnesau lleol â phosibl er mwyn cefnogi’r economi leol. Ymhlith y rhain mae Bragdy Conwy, Wild Horse, Polly’s Brew, Tiny Rebel, Mŵs Piws a Snowdon Craft. Rydym hefyd yn cyflenwi rhai gwirodydd Cymreig gan gynnwys gin gan Cariad Gin o Sir Ddinbych.
Mae Sheldon’s yn cynnig amrediad eang o winoedd o ansawdd da gan fasnachwyr Tanners Wine a bwydlen goctel ddeniadol ar gyfer y rhai sydd â chwaeth draddodiadol a’r rhai hynny sy'n dymuno profi rhywbeth newydd ac unigryw!
Rydym ar agor ar gyfer te, coffi a chacen, cyfarfodydd busnes, derbyniadau a phartïon preifat.
Mae 'Sesiynau Sul’ Byw Sheldon’s, sy'n noson feicroffon agored, yn cynnig platfform i dalent lleol i berfformio mewn lleoliad llawn awyrgylch a lle gellir ymlacio.
Mae ein staff cyfeillgar yn ymroddedig i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol a sicrhau bod ein cwsmeriaid yn mwynhau eu hymweliad!
Pris a Awgrymir
Mae'r prisiau'n amrywio rhwng £ 3.95 a £ 15.00.
Gwybodaaeth Covid-19
COVID-19 Response
- Contactless payment possible
- Glanweithydd dwylo ar gael i ymwelwyr a staff
- Lloriau wedi’u marcio’n glir ar gyfer cadw pellter cymdeithasol
- Rhaid archebu ymlaen llaw
Cyfleusterau
Arlwyo
- Cinio ar gael
- Darperir ar gyfer gofynion dietegol arbennig
- Gwasanaeth tecawê
- Pryd nos ar gael
- Trwyddedig
- Yn darparu ar gyfer llysfwytawyr
- Yn gweini te prynhawn
Cyfleusterau Darparwyr
- Ar gael ar gyfer derbyniad priodas
Cyfleusterau Lleoliad
- Seddau yn yr awyr agored
Hygyrchedd
- Caniateir cw^n cymorth
- Gall ymwelwyr anabl gael mynediad i bob ardal
- Toiled ar gyfer ymwelwyr anabl
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
Plant a Babanod
- Cadeiriau uchel
- Cyfleusterau newid babanod
Teithio a Masnachu
- Wi-fi ar gael