Cynlluniwr Rhaglen

48 awr yn Llandudno

48 awr yn Llandudno

Aeth y golygydd a’r awdur llyfrau teithio, Roger Thomas, a’i wraig Liz am wyliau byr dau ddiwrnod. Gallwch ddilyn ôl eu traed unrhyw adeg o’r flwyddyn. Beth bynnag fo’r tymor, mae Llandudno’n llawn bywyd.

Diwrnod un

10am Fe gychwynnwn ni o'r top. A gyda hynny, rydw i’n cyfeirio at gopa'r Gogarth, y pentir 207m o uchder sy’n rhan annatod o gymeriad Llandudno.

Hyd at fis Hydref, fe allwch chi gyrraedd yno ar dramffordd neu mewn car cebl. Yn y gaeaf, mae’n daith fer, serth yn y car o lan y môr. Mae ein golygfa trwy lygad aderyn yn gweld bwa’r bae a mynyddoedd Eryri. Mae’r Gogarth ei hun yn unigryw o amrywiol, yn gartref i barc gwledig, mwyngloddiau copr hynafol ac amrywiaeth anhygoel o fywyd gwyllt, gan gynnwys geifre o eifr Cashmiri a rhai o blanhigion prinnaf y byd.

11.30 am Amser paned. Mae yna ddewis gwych o siopau coffi – a llawer mwy – ar strydoedd siopa prysur Llandudno, sy’n ymochel dan ganopi, yn union y tu ôl i’r prom.

2pm Ar ôl cinio, rydym ni’n gwneud beth mae pawb arall yn ei wneud – mynd am dro ar hyd y pier. Mae pier hiraf Cymru’n mynd â ni bron i hanner milltir allan i’r môr, a bob cam o’r ffordd, rydym ni’n mwynhau golygfeydd o’r glan môr perffaith yna â’i liwiau blwch paent - gwledd go iawn i'r llygaid - sy'n gwneud Llandudno'n lle mor arbennig.

3.30pm Rydym ni’n dysgu mwy am Llandudno – o’i wreiddiau hynafol i’w esgoriad fel cyrchfan wyliau – yn amgueddfa’r dref (sydd bellach ar gau er mwyn ei adnewyddu, ond fydd ailagor yn ystod hydref 2019 -–ewch i llandudnomuseum.co.uk). Yna rydym yn galw i mewn i Amgueddfa’r Home Front Experience, sef amgueddfa fechan lle gallwch chi ymgolli’n llwyr ym mhrofiadau’r Ail Ryfel Byd.

7pm. Amser bwyd. Mae yna ormod o ddewis bron, ond rydym yn penderfynu ar Fwyty Dylan's yn ei leoliad anhygoel ar lan y môr. Mae’r bwyd cystal bob tamaid â’r lleoliad – fe fyddwn i’n argymell ein dewis ni o silod mân a draenog y môr.

Diwrnod dau

10am Rydym yn galw heibio Canolfan Groeso Llandudno (yng Nghanolfan Fictoria ar Mostyn Street). Yn ogystal â chynnig gwybodaeth leol am bethau i’w gweld a’u gwneud, fe gewch chi hefyd syniadau gwych am anrhegion ymysg ei ystod lawn o grefftau, bwydydd a diodydd lleol.

Mae cysylltiadau Llandudno’r 19eg Ganrif ag Alice Liddell (yr Alys yng Ngwlad Hud wreiddiol) yn hynod ddiddorol. Rydym yn olrhain ei chysylltiadau â'r dref ar Lwybr Alys (the Alice Trail). Cychwynnwn o’r ganolfan groeso a, gyda chymorth y map (mae yna ap ar gael hefyd o alicetowntrails.co.uk), rydym yn dilyn olion traed efydd Y Gwningen Wen heibio cymeriadau enwog ei byd hudolus, fel yr Hetiwr Hurt a Brenhines y Calonnau. Dyma ffordd ddelfrydol o ddod i adnabod y dref hon llawn treftadaeth, nad yw wedi newid rhyw lawer ers amser Alys.

Hanner dydd. Amser brechdan a thywod. Rydym yn bachu brechdan ac yn anelu at Draeth y Gogledd, sef traeth poblogaidd lle cewch chi fynd am daith ar gwch, reid ar gefn mul a gweld sioe Pwnsh a Jwdi. Mae yna gryn dipyn o adeiladu cestyll tywod hafaidd yn mynd ymlaen o’n cwmpas ni (er, a dweud y gwir, mae'n well gen i'r traeth ar ei wedd ffres, adfywiol yn y gaeaf). Mae ail draeth Llandudno – Penmorfa – yn dawel braf drwy’r flwyddyn, gyda’r olygfa odidog o’r mynyddoedd yn fonws ychwanegol.

2.30pm I ffwrdd â ni am Mostyn, un o fy ffefrynnau personol i ac un o orielau blaenllaw Cymru, lle mae gwaith celf arloesol (a siop anrhegion werth chweil) yn cael ei arddangos mewn adeilad brics coch addurnedig.

4pm Dydyn ni ddim wedi cael digon ar siopa eto, felly i ffwrdd â ni am Barc Llandudno, y parc manwerthu modern ar gyrion y dref.

7pm. Amser am damaid o adloniant yn Venue Cymru, cyfadeilad adloniant mwyaf Gogledd Cymru, sy’n llwyfannu amrywiaeth aruthrol o berfformiadau serennog. Mae'n lleoliad o bwys sy’n dangos cynyrchiadau gorau'r byd - popeth o sioeau mawr y West End ac Opera Cenedlaethol Cymru i enwogion y byd pop, comedi a drama.  

Gwybodaeth am y Cynnyrch

  1. Cyfadeilad Copa'r Gogarth

    Llandudno

    O’r lleoliad trawiadol hwn, mae’r Summit Complex yn cynnig golygfeydd aruthrol i chi o Landudno, ardaloedd o Barc Cenedlaethol Eryri, Ynys Môn a Môr Iwerddon.

  2. Pier Llandudno

    Llandudno

    Pier glan môr traddodiadol yn dyddio o ddiwedd y 1800au gydag amrywiaeth o siopau, caffis, bariau ac atyniadau - a hwyl i'r teulu cyfan!

  3. Amgueddfa ac Oriel Llandudno

    Llandudno

    Mae gan yr Amgueddfa chwe oriel barhaol yn adrodd hanesion gorffennol Llandudno gan gynnwys y trigolion cynharaf, creu’r dref Fictoraidd, a’i lle fel hafan ddiogel yn ystod yr Ail Ryfel Byd. 

  4. Canolfan Groeso - Llandudno

    Llandudno

    Angen helpu i archebu llety, cyngor i gynllunio eich diwrnod, rhywbeth blasus i’w fwyta neu rodd wedi’i gwneud yn lleol ar gyfer y person arbennig hwnnw? Galwch heibio Canolfan Groeso Llandudno yng Nghanolfan Fictoria.

  5. Llwybrau Alys yng Ngwlad Hud

    Llandudno

    Mae map a chanllaw llwybr Alys yng Ngwlad Hud ar gael i'w prynu yn y Ganolfan Groeso. Archwiliwch Llandudno, a darganfyddwch beth yw’r cysylltiad ag Alice Liddell (yr Alys yng Ngwald Hud go iawn).

  6. Traeth y Gogledd Llandudno

    Llandudno

    Traeth y Gogledd yw prif draeth Llandudno, ac mae’n draeth cysgodol gyda phier Fictoraidd a phromenâd llydan yng nghysgod penrhyn godidog Pen y Gogarth.

  7. Venue Cymru

    Llandudno

    Mae’r theatr 1,500 sedd yn Venue Cymru yn un o brif theatrau derbyn y DU.

Pellteroedd y Daith

OIPellter * (metrig)
Cyfadeilad Copa'r Gogarth (53.33373,-3.85335)Pier Llandudno (53.32755,-3.83037)1.51
Pier Llandudno (53.32755,-3.83037)Amgueddfa ac Oriel Llandudno (53.32458,-3.83368)0.36
Amgueddfa ac Oriel Llandudno (53.32458,-3.83368)Canolfan Groeso - Llandudno (53.32369,-3.82906)0.29
Canolfan Groeso - Llandudno (53.32369,-3.82906)Llwybrau Alys yng Ngwlad Hud (53.3237,-3.82908)0
Llwybrau Alys yng Ngwlad Hud (53.3237,-3.82908)Traeth y Gogledd Llandudno (53.32498,-3.82478)0.29
Traeth y Gogledd Llandudno (53.32498,-3.82478)Oriel Mostyn (53.32131,-3.82514)0.37
Oriel Mostyn (53.32131,-3.82514)Venue Cymru (53.32206,-3.81619)0.54
Cyfanswm Pellter *3.35 milltir
Amcangyfrif o Amser y Daith6 munudau

* Amcangyfrif o'r pellter ar y ffordd

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....