Cynlluniwr Rhaglen

72 awr yng Ngogledd Cymru

72 awr yng Ngogledd Cymru

Mae Sir Conwy yn rhan hyfryd o’r byd sy’n darparu tirlun trawiadol ac ystod o bethau ar gyfer pob oedran.  Er mwyn gwneud y mwyaf o’ch gwyliau yng Ngogledd Cymru, dyma gynllun 72 awr yn nodi’r llefydd gorau i ymweld â nhw i weld treftadaeth a harddwch naturiol yr ardal.

Diwrnod 1

Dechreuwch eich diwrnod yn Llandudno a dilyn taith gylchol Marine Drive o’r Gogarth – pentir 207m sy’n edrych i lawr dros y dref.  Gan gynnig golygfeydd trawiadol, Marine Drive yw un o’r tollffyrdd hiraf ym Mhrydain sydd dros 5 milltir o hyd.  Os yw’n well gennych bod rhywun arall yn gyrru, beth am archebu lle ar deithiau Marine Drive y Gogarth a gwrando ar un o'r tywyswyr yn cyflwyno’r ardal.  

Ar ôl eich taith ar hyd Marine Drive, ewch i Benmorfa yn Llandudno i weld y traeth sydd wedi ennill gwobr Baner Las 2019 cyn parhau â'ch taith i dref Conwy.  Wrth i chi gyrraedd y dref, gallwch weld Castell Conwy o’r 13 Ganrif, a adeiladwyd gan y Brenin Edward y 1af – fe gymerodd ychydig dros bedair blynedd i’w adeiladu!  Beth am gael ychydig o ginio yn un o'r caffis neu’r siopau coffi yn y dref cyn prynu tocyn i gael gweld tu mewn i’r castell.

 Ar ôl eich taith o amgylch y castell, ewch i Gei Conwy lle y dewch o hyd i'r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain. Dim ond 72 modfedd o led ac 122 modfedd o uchder yw'r tŷ ac roedd pysgotwr lleol yn byw yno yn y gorffennol.  Ymysg y teras o dai ar y cei yng Nghonwy, mae’n anodd peidio â gweld y tŷ lleiaf ac mae’n syniad da mynd i mewn wrth fynd heibio.

Yn y gyda’r nos, ewch draw i theatr Llandudno, Venue Cymru, a mwynhau’r profiad o gael bwyd cyn mynd i’r theatr, ym mwyty Y Review.  Gan edrych dros Draeth y Gogledd, mae Bwyty Y Review yn darparu golygfeydd panoramig o Fae Llandudno i ymwelwyr tra byddant yn mwynhau cynnyrch lleol o ansawdd a phrydau Cymreig traddodiadol.  Ar ôl bwyta, ewch i’r awditoriwm i fwynhau noson o theatr, cerddoriaeth, comedi neu ddawns.

Awgrym o lefydd i aros dros nos:  Llandudno. Gweler ein hystod o lety.

Diwrnod 2

Adventure Parc Snowdonia

Ar ôl brecwast, ewch tuag at Gonwy ond trowch i’r chwith yn syth ar ôl y castell a theithio drwy fwa cul i'r B5106, Ffordd Llanrwst.  Yn fuan byddwch yn cyrraedd Dolgarrog – cartref Adventure Parc Snowdonia.

Mae gan Adventure Parc Snowdonia'r lagŵn syrffio mewndirol cyntaf yn y byd sy'n cynhyrchu'r don berffaith bob 90 eiliad.  Archebwch wers syrffio gydag un o’u hyfforddwyr medrus.  Fel arall, gallwch roi cynnig ar eu cyfleuster dan do sy’n cynnwys cyrsiau antur yn yr awyr, waliau dringo, sleidiau serth ac ogofau ffug.  

Dim ond 20 munud i lawr y lôn, trowch i’r chwith tuag at dref farchnad Llanrwst, a chyn croesi’r bont fechan dros afon Conwy, trowch i’r chwith i’r maes parcio ar gyfer yr ystafell de enwog  a adnabyddir fel "Tu Hwnt-i'r-Bont".  Gwyliwch eich pen ac ewch i fwynhau sgons cartref blasus neu Fara Brith traddodiadol.  Mae’r sgons yn cael eu creu gan ddefnyddio rysáit arbennig y teulu sydd wedi’i rannu gyda’r cenedlaethau dros y blynyddoedd!

 Ar ôl cinio, ailymunwch â’r briffordd (A470) a theithio tuag at Fetws-y-Coed, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel “Porth Eryri”.  Cyn cyrraedd Betws-y-Coed, trowch i’r dde a chroesi Pont Waterloo ac aros ar yr A5. Sicrhewch eich bod yn cadw golwg am  y Rhaeadr Ewynnol.  Mae’r rhaeadr yn ardal o harddwch naturiol eithriadol lle mae’r afon Llugwy yn llifo drwy geunant cul i greu rhaeadr drawiadol ymysg cefndir o goed ffawydd, conwydd a bedw.  Parciwch yn y gilfan, a mwynhau’r golygfeydd trawiadol o sawl golygfan.   

Ychydig filltiroedd ymhellach ar hyd yr A5, cadwch olwg am y "Tŷ Hyll" - bwthyn cerrig nad yw'n hyll sydd yn awr yn cyflwyno gwybodaeth leol ac ystafell de.  Yr hanes yw yr adeiladwyd y tŷ mewn un diwrnod ac un noson gan ddau frawd er mwyn llechu rhag storm ddifrifol.

Ewch yn eich blaenau ar hyd yr A5, gan gadw golwg am Westy Tyn-y-Coed ar y dde.  Gyferbyn â’r gwesty, ar ymyl y ffordd, mae copi o’r goets fawr oedd yn cael ei thynnu gyda cheffylau i fynd â theithwyr o Gaergybi i Lundain ar ddechrau’r 19eg Ganrif ar hyd y ffordd hon - taith hir a oedd yn cymryd dros dridiau.  Ewch i fwynhau pryd yn y gwesty ac yna teithio i Fetws-y-Coed i weld rhai o’r tafarndai lleol.  

Diwrnod 3

Snowdon

Teithiwch ychydig filltiroedd i lawr y ffordd ac wrth gyrraedd Capel Curig trowch i’r chwith, ar yr A4086, a theithio heibio un o nifer o Lynnoedd - Llynnoedd Mymbyr.  Fe fyddwch yn awr yn dringo ac yn disgyn, dros Ben y Pass a Dyffryn Nant Peris, gyda golygfeydd gwych o fynydd uchaf Cymru – yr Wyddfa.

Ar ôl oddeutu  20 munud fe fyddwch yn cyrraedd pentref Llanberis.  Yma mae godre'r Wyddfa, gyda’r rheilffordd rac a phiniwn a fydd yn eich hebrwng i’r copa –bron i 1000 o fetrau - mewn tua awr.  Hefyd, fe argymhellir taith i'r orsaf bŵer danddaearol y "Mynydd Trydan", neu Amgueddfa Lechi Cymru, y rheilffordd stêm ar hyd glannau Llyn Padarn, neu beth am bicnic syml ger y llyn.

Ailymunwch â’r briffordd (A4086) i’r gorllewin i dref Caernarfon, i’r maes ac yna heibio Castell Caernarfon a’r cei.  Yng nghylchfan Griffiths Crossing, ewch ychydig i'r chwith tuag at bentref hardd a hen borthladd Felinheli - gan aros am baned efallai.  Ewch drwy’r pentref ac ailymuno â'r briffordd.

Yn y brif gyffordd nesaf cadwch olwg am yr arwyddion ar gyfer gwibffordd Gogledd Cymru yr A55 i’r dwyrain tuag at Gaergybi ac Ynys Môn.  Ewch dros “Bont Britannia” cyn troi tuag at Borthaethwy.  Arhoswch yn y gilfan ar y dde – “Golygfan Porthaethwy”.  Cymerwch ychydig funudau i fwynhau golygfeydd trawiadol mynyddoedd Eryri a Phont Menai gan edrych dros y Fenai, a ddisgrifiwyd un tro gan yr Arglwydd Nelson fel un o'r darnau o ddŵr peryclaf yn y byd!  

 Ewch dros y bont grog hardd tuag at Fangor - cadwch olwg am yr arwyddion tuag at Gonwy / Caer ar wibffordd yr A55, ac ymuno â’r ffordd ddeuol i ddychwelyd tuag at Landudno. Dilynwch allanfa Llandudno o’r A55 a throi i’r dde yn y gylchfan i deithio tuag at bentref gwledig hardd Tal-y-Cafn.  Ewch i ymweld â Gerddi enwog Bodnant a mwynhau tamaid i'w fwyta a cherdded o amgylch yr ardd sy'n fyd-enwog cyn dechrau eich taith am adref.  

Gwybodaeth am y Cynnyrch

  1. Canolfan Ymwelwyr Parc Gwledig y Gogarth

    Llandudno

    Gyda modelau, arddangosfeydd rhyngweithiol a ffilmiau cyffrous, bydd y teulu cyfan yn mwynhau darganfod mwy am fywyd gwyllt amrywiol a hanes y Gogarth.

  2. Y Tŷ Lleiaf ym Mhrydain

    Conwy

    Gellir dod o hyd i’r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain yn swatio o blith teras o dai ar lan y cei yng Nghonwy. Ni allwch golli’r tŷ lleiaf a byddech yn wallgof i beidio â bwrw’ch pen i mewn i gael golwg ar eich ffordd heibio.

  3. Venue Cymru

    Llandudno

    Mae’r theatr 1,500 sedd yn Venue Cymru yn un o brif theatrau derbyn y DU.

  4. Zip World Conwy

    Dolgarrog

    Ym mhentref hardd Dolgarrog yng nghanol Dyffryn Conwy, Zip World Conwy ar hen safle Parc Antur Eryri yw’r man delfrydol ar gyfer anturiaethau dan do cyffrous sy’n addas ym mhob tywydd.

  5. Y Rhaeadr Ewynnol

    Betws-y-Coed

    Mae’r Rhaeadr Ewynnol yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol lle mae’r Afon Llugwy’n llifo drwy hafn gul nes creu rhaeadr arbennig iawn gyda choed ffawydd, bythwyrdd a bedw yn y cefndir.

  6. Tŷ Hyll

    Betws-y-Coed

    Cymdeithas Eryri sy’n gofalu am Tŷ Hyll. Mae pwy adeiladodd y tŷ a phryd yn parhau’n ddirgelwch. Cartref i dŷ te bendigedig gyda gardd naturiol yn derbyn gofal gan grŵp o wirfoddolwyr. 

  7. Gwesty Tyn-y-Coed

    Betws-y-Coed

    Mae Gwesty Tyn-y-Coed yng nghanol Gogledd Cymru, gyda mynediad hawdd i holl atyniadau. Rydym yn eiddo i deulu sy’n ei redeg, ac yn cynnig gwasanaeth personol iawn. Mae’n cael ei nodi am ei awyrgylch ymlaciol a chyfeillgar.

  8. Gardd Bodnant

    Colwyn Bay

    Yn ymestyn dros 80 erw ac â mwy na 250 o flynyddoedd o hanes garddwriaethol, mae Gardd Bodnant yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnwys pum teras Eidalaidd, dolydd blodau gwylltion, coetir a gerddi ar lannau’r afon.

Pellteroedd y Daith

OIPellter * (metrig)
Canolfan Ymwelwyr Parc Gwledig y Gogarth (53.33225,-3.85441)Y Tŷ Lleiaf ym Mhrydain (53.28227,-3.82827)5.25
Y Tŷ Lleiaf ym Mhrydain (53.28227,-3.82827)Venue Cymru (53.32206,-3.81619)4.05
Venue Cymru (53.32206,-3.81619)Zip World Conwy (53.19003,-3.84265)13.32
Zip World Conwy (53.19003,-3.84265)Y Rhaeadr Ewynnol (53.10243,-3.84708)8.78
Y Rhaeadr Ewynnol (53.10243,-3.84708)Tŷ Hyll (53.10084,-3.85972)0.78
Tŷ Hyll (53.10084,-3.85972)Gwesty Tyn-y-Coed (53.09841,-3.89401)2.08
Gwesty Tyn-y-Coed (53.09841,-3.89401)Gardd Bodnant (53.2345,-3.79918)14.78
Cyfanswm Pellter *49.03 milltir
Amcangyfrif o Amser y Daith1.58 oriau

* Amcangyfrif o'r pellter ar y ffordd

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....