Cynlluniwr Rhaglen

Concro’r Cestyll (72 awr).

Concro’r Cestyll (72 awr).

Ar ddiwedd y 13eg ganrif, cychwynnodd Brenin Lloegr, Edward I, ar ei goncwest o Ogledd Cymru. Y canlyniad oedd cyfres o gestyll godidog ar draws y rhanbarth, wedi’u dylunio i drechu’r boblogaeth Gymreig frodorol. Heddiw, ystyrir y cestyll hyn yn rhai o’r enghreifftiau gorau  o bensaernïaeth ganoloesol, sydd â’i gilydd yn ffurfio Safle Treftadaeth y Byd.

Gwnewch y gorau o’ch gwyliau yng Ngogledd Cymru drwy ddilyn ôl traed y concwerwr fyd enwog hwn!

Diwrnod 1- Conwy

Cychwynnwch eich taith ym mhrydferthwch tref Conwy. Wrth ichi agosáu at y dref, ar ôl croesi un o’r tair pont enwog yng Nghonwy, byddwch yn cael eich cipolwg gyntaf ar y castell godidog! Ar gyfer y gwerth gorau am arian, parciwch eich car yn y maes parcio arhosiad hir sydd y tu allan i furiau’r dref.

O’r maes parcio, gwnewch eich ffordd i mewn i’r dref drwy danffordd, sy’n eich harwain o dan y muriau ag amddiffynnodd boblogaeth ganoloesol y dref rhag y brodorion Cymreig. Yna, trowch i’r dde a rhowch gynnig ar ddringo Tŵr Millgate i gerdded rhannau llai o furiau Conwy, sy’n rhoi golygfeydd bendigedig ichi o’r Castell a’r aber. Ar ddiwedd yr rhan hon, ewch i lawr ac yna i mewn i’r Castell – ar gyfer y gwerth gorau peidiwch ag anghofio prynu cerdyn adnabod CADW, a fydd yn eich gadael i mewn i rai o’r atyniadau eraill, am ddim, ar eich taith!

Ar ôl eich taith o amgylch y castell, ewch yn eich blaenau i Stryd y Castell, gan gymryd y cyfle i dynnu lluniau o’r bensaernïaeth hen ffasiwn. Ceir amryw o lefydd sy’n gweini bwyd Cymreig lleol, felly beth am alw i mewn am rywbeth i’w fwyta neu i wneud ychydig o siopa yn yr amrywiaeth eang o siopau annibynnol?

Ar y Stryd Fawr, gallwch ddod o hyd i dŷ tref Elisabethaidd, Plas Mawr, sydd wedi’i adfer o’r cyfnod ac a oedd unwaith yn gartref i deulu’r Wynniaid. Yn y fynedfa, cofiwch afael yn eich taith sain, yn rhad ac am ddim, er mwyn dysgu am hanes yr adeilad yn ogystal â Chonwy ei hun.

Wrth iddi nosi, gwnewch eich ffordd i’r orsaf drenau i ddod o hyd i’r grisiau cuddiedig sy’n eich arwain i ran hirach o furiau’r dref. Wrth ichi gerdded, byddwch yn gallu gweld Conwy o safbwynt hollol wahanol, gan werthfawrogi golygfeydd megis Mynydd Conwy, Pen y Gogarth yn Llandudno yn ogystal â’r bryn hanesyddol yn Neganwy, bryn Varde, a oedd unwaith yn safle i gastell y Tywysogion Cymreig.

Awgrym am arhosiad dros nos: Gwesty’r Castell, Conwy

Diwrnod 2- Eryri a Chaernarfon

Castell Dolwyddelan

Cychwynnwch y diwrnod drwy yrru i lawr Dyffryn Conwy, gan werthfawrogi golygfeydd trawiadol cefn gwlad a mynyddoedd Eryri. Eich cyrchfan ar y diwedd yw Castell Dolwyddelan, a oedd yn gartref i Llywelyn Fawr, Tywysog enwog Cymru. Dyma eich cyfle i ddysgu mwy am Dywysogion Cymreig Gwynedd a’u brwydr yn erbyn y Saeson.

O’r fan hon, ewch yn ôl fymryn, i’r cyfeiriad y daethoch, i borth Eryri, Betws-y-Coed. Os yr ydych yn teimlo braidd yn llwglyd, beth am alw i mewn am ginio yn un o fwytai’r dref ac edmygu prydferthwch Afon Llugwy sy’n rhedeg drwy ganol y dref.

Gallwch nawr ymuno â’r A5, a oedd yn arfer bod yn brif ffordd, drwy Ogledd Cymru cyn yr adeiladwyd y ffordd ddeuol, yr A55. Byddwch yn teithio drwy ganol Eryri, a chael y cyfle i fyfyrio mewn nifer o olygfannau ar hyd y ffordd er mwyn tynnu lluniau o leoliadau trawiadol y byddwch yn siŵr o ddod ar eu traws e.e. Llyn Ogwen, Tryfan a’r Wyddfa.

Unwaith yr ydych yn ôl ar yr arfordir, parhewch ar hyd y A487 i Gaernarfon, sy’n gartref i gastell mwyaf Edward I! Os ydych am brofi’r golygfeydd gorau dros y Fenai i Sir Fôn, dringwch i ben Tŵr yr Eryr. Cymerwch amser i archwilio yn yr Amgueddfa Ffiwsilwyr Brenhinol sydd tu mewn i’r tyrau. Cymerwch hun-lun yn y man y cafodd Tywysog Charles ei arwisgiad fel Tywysog Cymru ym 1969.

Dewch â’ch diwrnod i ben drwy ymuno ym mywyd nos fywiog y dref. Ewch am dro i lawr Stryd y Palas i bori yn y siopau a’r tafarndai unigryw. Beth am alw i mewn i’r galeri ar lan y dŵr, sy’n gartref i ganolfan greadigol  Caernarfon ac yn sinema ar gyfer ychydig o adloniant.

Awgrym am arhosiad dros nos- Caernarfon.

Diwrnod 3- Sir Fôn a Biwmares.

Bydd eich taith yn gorffen drwy groesi dros un o ddwy bont fyd enwog i mewn i Sir Fôn; Pont Menai, ag adeiladwyd gan Thomas Telford ym 1826 neu Bont Britannia, ag adeiladwyd gan Robert Stephenson ym 1850. Os dymunwch dynnu ychydig o luniau o’r pontydd, ewch i ymweld â golygfan Pont Menai am olygfa anhygoel o’r ddwy bont.

Pa bynnag opsiwn a ddewiswch, dim ond taith fer sydd gennych, drwy dref Porthaethwy ac ar hyd yr arfordir, cyn cyrraedd tref atyniadol Biwmares. Mae’r castell anorffenedig hwn yn enghraifft berffaith o’r dylunio consentrig canoloesol; prosiect uchelgeisiol na gafodd ei gwblhau’n llawn.

Ar ôl ichi goncro’r cestyll, cymerwch amser i grwydro’r dref hon sydd ar lan y môr. Mae digonedd o siopau i bori ynddynt a nifer o fwyd lleol i’w blasu. Os oes arnoch awydd cael mwy o hanes, ymwelwch â’r carchar  a’r Tŷ Cwrt cyn ichi adael er mwyn cael profi sut fywyd yr oedd gan droseddwyr y 19eg ganrif.

Dewch â’ch taith i ben â thrip i Briordy Penmon, ychydig y tu hwnt i Fiwmares. Wedi’i sefydlu gan St Seiriol yn y 6ed ganrif, llwyddodd y Priordy i oresgyn concwest Edward, ond erbyn 1538 cafodd ei ddiddymu o dan deyrnasiad Harri VIII. Tra yr ydych yno, gallwch hefyd fwynhau’r golygfeydd trawiadol ar bwys ymylon Sir Fôn. Gwelwch warchodfa natur Ynys Seiriol a phentir Pen y Gogarth, Llandudno.

Gwybodaeth am y Cynnyrch

  1. Castell Conwy

    Conwy

    Pan adeiladodd y Brenin Edward I Gastell Conwy ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg y bwriad oedd dominyddu a brawychu - ac mae’n dal i wneud ei waith, gan gystadlu â gorwelion garw Eryri ac ennill y frwydr am ein sylw.

  2. Muriau Tref Conwy

    Conwy

    Yn rhan o Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sy’n cynnwys cestyll ysblennydd ym Miwmares, Harlech ac yma yng Nghonwy, mae’r muriau trefol hyn ymhlith y ceinaf a’r mwyaf cyflawn yn Ewrop.

  3. Plas Mawr

    Conwy

    Plas Mawr yw’r tŷ tref Elisabethaidd gorau ym Mhrydain. Lleolir yng Nghonwy, cartref un o gestyll Edward I, mae Conwy y lle perffaith i’r sawl sy’n caru hanes.

  4. Canolfan Ymwelwyr Parc Gwledig y Gogarth

    Llandudno

    Gyda modelau, arddangosfeydd rhyngweithiol a ffilmiau cyffrous, bydd y teulu cyfan yn mwynhau darganfod mwy am fywyd gwyllt amrywiol a hanes y Gogarth.

  5. Castell Dolwyddelan

    Dolwyddelan

    Cadarnle Cymreig aruchel mewn lleoliad mynydd trawiadol. ​​​​​Mae Dolwyddelan mor Gymreig â mynyddoedd geirwon Eryri sy’n gefnlen drawiadol iddo.  

Pellteroedd y Daith

OIPellter * (metrig)
Castell Conwy (53.28006,-3.82581)Muriau Tref Conwy (53.28018,-3.82703)0.07
Muriau Tref Conwy (53.28018,-3.82703)Plas Mawr (53.28113,-3.82992)0.2
Plas Mawr (53.28113,-3.82992)Canolfan Ymwelwyr Parc Gwledig y Gogarth (53.33225,-3.85441)5.33
Canolfan Ymwelwyr Parc Gwledig y Gogarth (53.33225,-3.85441)Castell Dolwyddelan (53.0536,-3.90115)28.06
Cyfanswm Pellter *33.65 milltir
Amcangyfrif o Amser y Daith1.08 oriau

* Amcangyfrif o'r pellter ar y ffordd

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....