Cynlluniwr Rhaglen

Cerdded Llwybr Arfordir Cymru yn Sir Conwy

Pâr yn cerdded ac yn dal dwylo ar hyd Llwybr Arfordir Cymru

Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i fod â llwybr troed sy’n dilyn ei harfordir cyfan. Mae’r llwybr yn rhedeg am 870 o filltiroedd ar hyd yr arfordir ac mae darn hyfryd i’w fwynhau yn sir Conwy. Mae llawer o’r llwybr yn ein sir ni’n wastad a darnau hir wedi’u hwynebu â tharmac, sy’n ei wneud yn addas ar gyfer pobl o bob gallu.

Diwrnod 1: Abergele - Bae Colwyn 

Tref farchnad fach ger arfordir y sir yw Abergele. Mae’r dref wedi’i hamgylchynu â llethrau coediog ac yn gyfoeth o hanes sy’n dyddio’n ôl i Oes yr Haearn.

Enw un o’r bryngaerau Oes yr Haearn y tu ôl i’r dref yn Nhan y Copa yw Castell Cawr. Mae hon yn daith fendigedig ar hyd ymyl bryn coediog gyda golygfeydd dros y dref, y wlad a'r môr.

Cyfarwyddiadau

  1. Os ydych yn dod ar y trên byddwch yn cychwyn eich taith ym Mhensarn.  O’r orsaf drenau mae’r daith yn un gron o tua 5 milltir. Mae bysys hefyd yn stopio ar Stryd y Farchnad yn agos at y traeth.
  2. O’r orsaf drenau dilynwch y llwybr sy’n mynd oddi wrth y traeth. Byddwch yn dod at gylchfan.
  3. Croeswch y ffordd at y goleuadau traffig ar y chwith. 
  4. Yna dilynwch y ffordd ar y dde.
  5. Ar ôl mynd o dan y bont, croeswch y ffordd a byddwch yn gweld mynedfa drwy’r waliau i Barc Pentre Mawr.
  6. Dilynwch y llwybr i’r chwith drwy’r ardal goediog.
  7. Pan fyddwch wedi cyrraedd pen pella'r parc byddwch yn dod allan ar Dundonald Avenue.
  8. Trowch i’r dde a dilynwch y ffordd i’r dref.
  9. Pan fyddwch wedi cyrraedd y goleuadau traffig ar y groesffordd trowch i’r dde.
  10. Ewch ar hyd Stryd y Farchnad heibio’r siopau a Tesco nes y byddwch yn gweld porthdy a waliau mawr carreg.
  11. Pan welwch y porthdy, croeswch drosodd a dilynwch y ffordd o’ch blaen (Ffordd Tan y Gopa). Pan fyddwch yn agosáu at dop Ffordd Tan y Gopa, ewch ymlaen ar hyd y ffordd i'r dde heibio'r clwb golff ac ymlaen i ddechrau'r daith gerdded.

Delwedd o Gwrych Castell a'r cefn gwlad o'i amgylch

Mae’r porthdy’n perthyn i hen blasty Gradd 1 Castell Gwrych. Mae'r Castell yn sefyll mewn 250 acer o erddi a thiroedd sy'n edrych dros Fôr Iwerddon. Adeiladwyd y Castell gan Lloyd Hesketh Bamford Hesketh,  etifedd y teulu Lloyd o Wrych, o tua 1810 ymlaen. Bu'r Castell yn nwylo nifer o deuluoedd a pherchnogion tan iddo gael ei adael y wag yn y 1980au.  Dros y blynyddoedd wedyn cafodd y castell ei ysbeilio a’i fandaleiddio a’i adael i fynd yn adfeilion. Ym mis Mehefin 2018 prynwyd Castell Gwrych gan Ymddiriedaeth Cadwraeth Castell Gwrych ac mae rhaglen ddeng mlynedd o waith wedi dechrau i adfer y Castell a’r adeiladau allanol. Yn 2020 cafodd y rhaglen deledu boblogaidd "I’m a Celebrity...Get Me Out of Here” ei ffilmio yma.

Ar ôl i chi fod am dro rownd Tan y Gopa beth am stopio am ginio yn un o gaffis ,

tafarndai a bwytai niferus Abergele cyn mynd yn ôl am lan y môr. Oddi yno, dilynwch lwybr yr arfordir i gyfeiriad Maes Carafanau Castle Cove (7 milltir i Fae Colwyn).

Ychydig y tu hwnt i Abergele saif pentref Llanddulas ar droed bryn calchfaen Tan-yr-Ogof (670 troedfedd). Yn y bryn hwn mae ogofau mawr a chaiff calchfaen ei chwarelu yma. Mae hwn yn galchfaen pur dros ben sy’n ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer y diwydiannau cemegol ac i wneud sment.  Caiff y cerrig o'r chwarel eu cludo ar lanfa hir 200m i'w llwytho ar gychod. Efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld hyn un o’r cychod hyn wrth i chi gerdded heibio.

Byddwch yn gwybod eich bod ym Mae Colwyn pan welwch Borth Eirias, adeilad modern, trawiadol ar y promenâd lle mae bwyty a chyfleusterau newid. Os bydd arnoch angen help i drefnu rhywle i aros dros nos mae'r Ganolfan Groeso’n cynnig gwasanaeth bwcio gwely. I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â Chanolfan Groeso Llandudno ar 01492 577577 neu Ganolfan Groeso Conwy ar 01492577566, neu gallwch anfon e-bost at llandudnotic@conwy.gov.uk  or conwytic@conwy.gov.uk

Diwrnod 2: Bae Colwyn - Llandudno

Cyfarwyddiadau

  1. Ewch o'ch llety yn ôl at y llwybr arfordirol. Unwaith y byddwch ar y llwybr, ewch ymlaen tua Llandrillo yn Rhos.
  2. Ewch ymlaen drwy Landrillo yn Rhos heibio’r clwb golff a thrwy Bae Penrhyn
  3. Ar ôl bod drwy Bae Penrhyn byddwch yn mynd i fyny Trwyn y Fuwch.

Cychod mewn Llandrillo yn Rhos

Mae Llandrillo yn Rhos tua  1.7 milltir o Fae Colwyn ac yn bentref glan môr bach deniadol.  Yn yr ardal hon yr oedd teyrnas hynafol Rhos a sefydlwyd fel is-deyrnas i Deyrnas Gwynedd yn yr oesoedd canol. I gael gwybod mwy am y pentref diddorol hwn beth am ddilyn Llwybr Treftadaeth Llandrillo yn Rhos. Mae’r llwybr yn mynd â chi heibio 25 o safleoedd hanesyddol mewn tua 3 awr, yn cynnwys Capel Sant Trillo, yr eglwys leiaf ym Mhrydain.  Mae allor Capel Sant Trillo wedi’i chodi dros ffynnon naturiol o ddŵr clir a gysegrwyd i Sant Trillo yn gynnar yn y 6ed ganrif OC.  Mae’r llwybr treftadaeth hefyd yn mynd â chi i Fryn Euryn lle saif gweddillion hen blasty canoloesol Llys Euryn.

Bryn o galchfaen yw Bryn Euryn sy’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd y cymysgedd o laswelltir a choetir sydd yno. Ar Fryn Euryn mae olion bryngaer yn dyddio o'r 6ed ganrif a gweddillion Llys Euryn, plasty'n dyddio o'r 15fed ganrif. Mae nifer o lwybrau y gellir eu dilyn ar y Bryn, yn cynnwys Llwybr y Copa sy'n cysylltu Llys Euryn a'r fryngaer ar y copa. Mae’r llwybr treftadaeth yn dod i ben yn ôl ar yr arfordir ger y clwb golff.

Mae Trwyn y Fuwch yn un o ddau bentir calchfaen ym Mae Llandudno. Mae wedi’i orchuddio â glaswelltir ac mae yma glogwyni naturiol ac o waith dyn sy’n llefydd delfrydol i adar nythu. O Drwyn y Fuwch hefyd ceir golygfeydd godidog o arfordir Gogledd Cymru. Tua 4 milltir yw’r daith o Landrillo yn Rhos i Landudno.

Diwrnod 3: Llandudno, Y Gogarth – Conwy

Tref glan môr Fictoraidd yw Llandudno sy'n gorwedd rhwng dau bentir - Y Gogarth a Thrwyn y Fuwch. Mae promenâd Traeth y Gogledd yn rhedeg am ddwy filltir rhwng Trwyn y Fuwch â’r Gogarth. Adeiladwyd Pier Llandudno sydd ar ben pella’r promenâd yn agos iawn at droed y Gogarth yn 1884 a hwn yw’r Pier hiraf yng Nghymru.

Mae Parc Gwledig y Gogarth yn Ardal Gadwraeth Arbennig, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac yn Arfordir Treftadaeth oherwydd yr amrywiaeth o gynefinoedd sydd yno, yn cynnwys rhostiroedd, clogwyni serth y disgyn i’r môr, glaswelltir calchfaen a choetir sy’n cynnal amrywiaeth fawr o blanhigion a bywyd gwyllt. Credir bod y Gogarth wedi’i ffurfio dros 350 miliwn o flynyddoedd yn ôl. O’r Gogarth ceir golygfeydd ysblennydd dros y môr am Ynys Môn ac Eryri.

Mae nifer o lwybrau y gallwch eu dilyn i grwydro’r Gogarth. Mae’r rhain yn cynnwys llwybrau natur a hanes. Gallwch ddysgu mwy am lwybrau cerdded y Gogarth yma.

Yr enw ar y ffordd o amgylch gwaelod y Gogarth yw Cylchdro'r Gogarth. Mae’r ffordd yn rhedeg am 5 milltir o Draeth y Gogledd i Benmorfa. Gallwch lawrlwytho llwybr sain  sy’n rhoi manylion yr amgylchedd, yr hanes, yr archeoleg a’r atyniadau amrywiol sydd gan y Gogarth i’w cynnig.

Pe bai’n well gennych fynd ar siwrnai fwy hamddenol i gopa'r Gogarth gallwch ddal tram sy’n rhedeg bob 20 munud o Church Walks. Os ydych yn mynd i fyny ar y tram, gallwch ddod i ffwrdd yn yr orsaf hanner ffordd a mynd i weld Mwyngloddiau Copr Oes yr Efydd.  Neu gallech fwynhau reid i gopa Parc Gwledig y Gogarth mewn car cebl sy’n rhan o system ceir cebl hiraf Prydain. Bydd taith 679 o droedfeddi i fyny yn yr awyr o’r Fach i gopa’r Gogarth yn rhoi golygfeydd heb eu hail o Fae Llandudno a Môr Iwerddon.

car cebl

Wrth ymweld â Llandudno beth am fynd i’r Ganolfan Groeso (yng Nghanolfan Siopa Fictoria) i gael rhagor o wybodaeth am bethau i’w gweld a’u gwneud yn y dref. Gallwch hefyd brynu amrywiaeth o fapiau ac anrhegion yno.

Mae darn nesaf y llwybr yn ymestyn o Benmorfa, Llandudno i Gastell Deganwy. Mae’r llwybr yn rhedeg am tua 2 filltir ac yn edrych dros yr arfordir a Mynydd Conwy.

Cyfarwyddiadau

  1. Gan ddechrau ym Mhenmorfa, dilynwch y llwybr tan i chi gyrraedd Marine Crescent.
  2. Ar Marine Crescent trowch i’r chwith i Sefton Terrace  ac yna i’r chwith eto dros y bont i Station Road.
  3. Yn Station Road, trowch i’r chwith ac yna cymerwch y troad nesaf i’r dde i York Road.
  4. Mae York Road yn arwain ymlaen i Gannock Park.
  5. Yn bellach i fyny Gannock Parc ar y chwith fe welwch lwybr sy’n arwain at Gastell Deganwy.
  6. Mae’r llwybr yn arwain at rif 5 ar y map sy’n dangos y llwybrau o amgylch y castell.
  7. Pan fyddwch wedi bod o amgylch y castell ewch yn ôl i lawr i'r llwybr arfordirol.

Bydd y daith o amgylch y castell yn cymryd tuag awr, gyda llethrau graddol a thir anwastad.

Yn y 6ed ganrif roedd gan Maelgwn Gwynedd amddiffynfa ar y safle ond cafodd hon ei dinistrio gan y Sacsoniaid yn y 9fed ganrif. Ddiwedd yr 11eg ganrif ail-adeiladwyd y castell gan Robert o Ruddlan. Cafodd y castell hwnnw ei ddinistrio a’i ailadeiladu’n ddiweddarach gan Harri III o Loegr yn 1245-50 ond fe’i dinistriwyd eto gan Llywelyn ap Gruffudd yn 1263 i rwystro’r Saeson rhag meddiannu’r safle.

Wrth ddilyn y llwybr o Ddeganwy i Gonwy (2 filltir) cewch olygfa wych o Gei Conwy a Chastell Conwy.  Cyn i chi gerdded dros y bont i Gonwy stopiwch i dynnu lluniau gan mai oddi yma y ceir un o’r golygfeydd gorau o Gastell Conwy.

Diwrnod 4: Conwy

Beth am ddechrau’r diwrnod  drwy gerdded yn ôl dros y bont i ymweld â gwarchodfa natur RSPB Conwy. Mae’r safle’n cynnwys glaswelltir, tir prysg, gwely cyrs, corsydd halen a fflatiau llaid ar lannau’r foryd. Ar ôl bore yn y warchodfa natur, dilynwch y llwybr yn ôl dros y bont i mewn i Gonwy.

Mae Conwy’n dref hyfryd o bwysigrwydd hanesyddol ar gyrion y Parc Cenedlaethol lle mae digonedd i’w weld a’i wneud. Waliau’r dref yw’r mwyaf di-dor yn Ewrop ac maent yn amgáu llawer o adeiladau hanesyddol a siopau diddorol. Mae Conwy hefyd yn enwog am y Ty Lleiaf ym Mhrydain a oedd unwaith y gartref i bysgotwr dros 6 troedfedd o daldra. Mae atyniadau eraill yn cynnwys y Castell a adeiladwyd gan Edward 1 yn y 13eg ganrif a thŷ Elisabethaidd tra-addurniedig Plas Mawr.

Ty Lleiaf ym Mhrydain

Safle treftadaeth enwog arall yw Pont Grog Thomas Telford a gwblhawyd yn 1826. O’r bont ceir golygfeydd bendigedig o Afon Conwy. Mae Tŷ Aberconwy yn adeilad hanesyddol arall a adeiladwyd ar gyfer masnachwr yn y 14eg ganrif.

Tra byddwch yng Nghonwy beth am alw i mewn i’r Ganolfan Groeso (dros y ffordd i’r Castell yn Rosehill Street). Bydd staff cyfeillgar y ganolfan yn gallu rhoi taflen llwybr y dref i chi. Ar y daith gerdded 80 munud hon byddwch yn gweld rhai o nodweddion mwyaf diddorol y dref gaerog sy’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Cewch ddysgu am hanes hynod y dref, o'r oesoedd canol hyd heddiw. Gall y Ganolfan Groeso hefyd rhoi rhagor i wybodaeth i chi am beth i’w weld a’i wneud yn y dref a gallwch brynu mapiau ac anrhegion yno.

Cyfarwyddiadau

  1. Mae llwybr y dref yn dod i ben ar y cei yng Nghonwy.  Dilynwch y ffordd i’r cei dros y ffordd i’r castell ac ewch drwy’r bwa.
  2. O fan hyn fe welwch lwybr rhwng dau dŷ sy’n arwain at lwybr (Marine Walk) drwy Barc Bodlondeb.
  3. Dilynwch y llwybr hwn ac ewch ymlaen heibio'r ysgol a throi i'r dde i fyny Morfa Drive.
  4. Dilynwch Morfa Drive i’r pen, trowch i’r dde i Elis Way, ewch drwy’r maes parcio heibio Tafarn y Mulberry ac ymlaen i’r Marina.
  5. O'r Marina dilynwch y llwybr o amgylch ymyl y clwb golff i draeth Morfa Conwy.
  6. Ewch yn ôl ar hyd y traeth at y marina, drwy Fodlondeb a darfod y diwrnod yn ôl yng Nghonwy.

Mae Parc Bodlondeb yn goetir cymysg ar lannau Moryd Conwy ac yn gartref i amrywiaeth o famaliaid, adar a gloÿnnod byw. Mae llwybrau troed da o’r dref a llwybrau niferus drwy’r goedwig gyda golygfeydd bendigedig dros y foryd â’r môr tua’r Gogarth.

Mae tafarn y Mulberry wedi’i henwi ar ôl yr Harbwrs Mulberry enwog, sef harbwrs dros dro, symudol a ddatblygwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd i hwyluso dadlwytho cargo'n gyflym i'r traethau yn ystod Glaniadau Normandi ym mis Mehefin 1944.  Gŵr o Ogledd Cymru, Hugh Iorys Hughes gafodd y dasg o greu un o’r dyluniadau ar gyfer yr harbwrs.  Adeiladwyd y prototeipiau ym Morfa Conwy a chafodd yr ardal ei thrawsnewid yn safle adeiladu anferth gyda dros 1000 o lafurwyr yn gweithio yno.  

Mae traeth Morfa Conwy yn fae mawr tywodlyd sy’n ffurfio rhan o draethau tywodlyd eang a gwelyau cregyn gleision Bae Conwy pan fo’r môr ar drai.  

Diwrnod 5: Mynydd Conwy –  Ucheldir Penmaenmawr - Llanfairfechan

Gorffennwch eich taith gerdded gyda golygfeydd godidog o fynyddoedd y Carneddau a’r arfordir draw am Ynys Môn.  Ar y rhan olaf yma byddwch yn mynd oddi ar lwybr yr arfordir i’r llwybr dros Fynydd Conwy, drwy Benmaenmawr ac i lawr i Lanfairfechan. Mae’r daith yn cynnwys tua 8 milltir o gerdded bryniau gyda rhai dringfeydd cymedrol i serth.

Cyfarwyddiadau

I gyrraedd Mynydd Conwy o Gei Conwy, cerddwch i ffwrdd o gyfeiriad y Castell a thrwy’r fynedfa fwaog.  Yna fe welwch lwybr rhwng dau dŷ sy’n mynd drwy Barc Bodloneb.

Dilynwch y llwybr drwy’r parc a phan fyddwch wedi pasio’r ysgol trowch i’r chwith i fyny Morfa Drive

  1. Ar ben Morfa Drive, croeswch y ffordd. Byddwch yn gweld pont fetel dros y rheilffordd.
  2. Ewch dros y bont a dilynwch y llwybr ar ben y trac.
  3. Trowch i’r dde a byddwch ar ddechrau’r llwybr dros Fynydd Conwy. Y llwybr hwn yw'r un isaf, sy’n llydan ond yn dueddol o fod yn fwdlyd. Pe bai’n well gennych gallwch fynd ar y llwybr uwch,  dilynwch Mountain Road i fyny'r allt heibio’r tŷ tan i chi weld camfa bren ar eich ochr dde. Mae’r llwybr hwn yn gul ond yn llai mwdlyd.
  4. O’r copa cewch olygfeydd godidog o Ynys Môn a'r Gogarth. Os ydych yn ffodus efallai y cewch gip ar ferlod gwyllt.
  5. Dilynwch y llwybr yn ôl i lawr y mynydd i Gonwy.  Mae hanes diddorol i gopa’r mynydd. Mae gweddillion cytiau crwn o’r oes Neolithig a bryngaer oes yr haearn o’r enw Castell Caer Seion i’w gweld yma. Ar y safle mae olion caer wal garreg sy’n amgylchynu dros 50 o olion cytiau crwn a thai sylfeini gwastad, uchel gaer a chadarnleoedd.
  6. Os dilynwch y llwybr ar Fynydd Conwy byddwch yn cyrraedd ffordd Bwlch Sychnant ger y maes parcio.
  7. Trowch i’r chwith a heibio Canolfan Cadwraeth Natur Pensychnant. Fe welwch faes parcio arall ar y dde.
  8. Ewch heibio’r maes parcio i ddechrau ar daith gerdded Bwlch Sychnant.
  9. Pan gyrhaeddwch rif 7, yn lle dilyn y llwybr i’r dde ewch yn syth ymlaen dros Afon Gyrach. Mae’r llwybr hwn yn arwain at y meini hirion yn ucheldir Penmaenmawr. Mae’r meini’n agos at lwybr cyn-hanesyddol a adeiladwyd tua 3000 CC.
  10. Pan gyrhaeddwch y llwybr at y meini hirion, trowch i’r chwith ac ymlaen tuag at rif 2 ar y daflen.
  11. Ychydig ar ôl rhif 4 ar y daflen fe welwch y prif lwybr sy'n gwyro i'r chwith. Dilynwch y llwybr hwn heibio’r chwarel.
  12. Ar ôl pasio’r chwarel byddwch yn cyrraedd pentref Llanfairfechan. Tref glan- y- môr fach Fictoraidd yw Llanfairfechan sydd â hanes yn dyddio’n ôl i Oes yr Efydd.
  13. Cerddwch heibio’r chwarel tan i chi gyrraedd bythynnod gwyliau Plas Heulog.
  14. Wedi cyrraedd y bythynnod trowch i’r chwith i Ffordd Glan yr Afon. Yna trowch i’r dde i Newry Drive. Mae’r ffordd yma’n arwain at Warchodfa Natur Nant y Coed.
  15. Gallwch naill ai fynd i gael golwg ar y warchodfa o’r fan hon neu aros ar lwybr Gogledd Cymru a throi i'r chwith ar gyffordd Ffordd y Dyffryn ac yna i'r dde i Terrace Walk.
  16. Pan gyrhaeddwch y clwb golff,  trowch i’r dde. Ewch heibio’r clwb golff a throwch i’r dde ar Mill Road.
  17. Dilynwch y ffordd i lawr yr allt i’r pen.
  18. Trowch i’r dde wrth ymyl y Llanfair Arms ac yna i’r chwith i Ffordd y Pentref.
  19. Dilynwch y ffordd drwy’r pentref. Trowch i mewn i Ffordd yr Orsaf.
  20. Ewch o dan yr A55. Ar y pwynt hwn gallwch fynd yn syth i lawr at y traeth yn Llanfairfechan neu orffen eich taith a throi i’r chwith am yr orsaf drenau.

Mae Pensychnant yn ardal o harddwch naturiol eithriadol gyda’i bywyd gwyllt amrywiol o rywogaethau cyffredin a phrin, mewn coetiroedd a rhostiroedd hynafol a Fictoraidd. Mae'r dirwedd yn gyfoeth o nodweddion archeolegol, o feini hirion i dai canoloesol y gallwch eu harchwilio ar eich taith.

Enwyd pentref Penmaenmawr ar ôl Mynydd Penmaenmawr sy’n sefyll uwch y môr yn union i’r gorllewin o’r pentref. Mae llawer o’r copa crwn gwreiddiol wedi’i chwarelu am wenithfaen gan greu copa is, gwastad y mynydd heddiw. Mae llawer o olion cyn-hanesyddol yn yr ucheldir uwchben y dref, yn cynnwys safle ffatri bwyeill cerrig cyn-hanesyddol ar lethrau gorllewinol Cwm Graiglwyd heb fod yn bell o gopa mynydd Penmaenmawr. Y safle hwn oedd un o'r safleoedd cynhyrchu bwyeill pwysicaf yn Ewrop ar un adeg.

Teulu yn chwarae ffrisbi ym Mhenmaenmawr

Coetir hardd y tu ôl i Lanfairfechan yw Gwarchodfa Natur Nant y Coed ac yno mae taith gerdded fer a deniadol ar hyd llannau’r afon fyrlymus. Mae adar fel bronwen y dŵr, aderyn coch y fflam a’r gwybedog brith i'w gweld yma.

Ar ôl i chi gwblhau’r deithlen hon beth am ddilyn rhai o’n teithlenni eraill i archwilio mwy o Sir Conwy? Gallwch ddod o hyd iddynt ar ein gwefan yma.

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am ein hardal hardd, beth am gofrestru ar gyfer Rhaglen Llysgenhadon Twristiaeth Conwy?

Gwybodaeth am y Cynnyrch

  1. Castell Gwrych

    Abergele

    Plasty Gradd I rhestredig yng Ngogledd Cymru yw Castell Gwrych a adeiladwyd ddechrau’r 19fed Ganrif mewn arddull pensaernïol Ewropeaidd canoloesol.

  2. Traeth Porth Eirias

    Colwyn Bay

    Bellach gall ymwelwyr i Fae Colwyn fwynhau traeth tywodlyd eang Porth Eirias a mwynhau golygfeydd lan y môr o’r promenâd newydd a’i seddi deniadol ac ardaloedd wedi tirlunio.

  3. Gwarchodfa Natur Leol Bryn Euryn

    Rhos-on-Sea

    Mae Bryn Euryn yn fryn calchfaen amlwg uwchben Llandrillo-yn-Rhos, efo golygfeydd da o'r copa. Arno mae cymysgfa dda o laswelltir a choetir, efo rhan ohono yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

  4. Trwyn y Fuwch

    Llandudno

    Trwyn y Fuwch yw’r pentir calchfaen i’r dwyrain o Landudno. Mae’n llai datblygedig na’i gymydog mwy ac enwog, Y Gogarth, gan olygu ei fod yn wych ar gyfer archwilio ac yn hafan ar gyfer bywyd gwyllt.

  5. Llwybrau’r Gogarth

    Llandudno

    Cyfres o lwybrau cerdded, o bellter amrywiol, i fyny ac o amgylch copa’r Gogarth yn Llandudno.

  6. Llwybr Sain Marine Drive

    Llandudno

    Ar y daith sain hunan-dywysedig hon gallwch ddarganfod yr amgylchedd, hanes, archeoleg ac atyniadau amrywiol sydd i’w gweld ar y Gogarth.

  7. Tramffordd y Gogarth

    Llandudno

    Mae Tramffordd y Gogarth yn Llandudno, gyda’i ysblander Fictoraidd a’i swyn yn aros i fynd â chi ar daith un filltir bictiwrésg, fythgofiadwy, i gopa Parc Gwledig a Gwarchodfa Natur y Gogarth.

  8. Mwyngloddiau'r Gogarth

    Llandudno

    Mae cerdded drwy dwneli a gafodd eu cloddio dros 3,500 o flynyddoedd yn ôl yn rhoi syniad i’r ymwelwyr o’r amodau caled roedd ein cyndeidiau cynhanesyddol yn eu hwynebu wrth chwilio am gopr.

  9. Car Cebl Llandudno

    Llandudno

    Mwynhewch daith ar Gar Cebl Llandudno yn ystod eich ymweliad â'r gyrchfan hyfryd. Mae’r profiad unigryw hwn a agorwyd ar 30 Mehefin 1969 fel y system car cebl teithwyr hiraf ym Mhrydain.

  10. Canolfan Groeso - Llandudno

    Llandudno

    Angen helpu i archebu llety, cyngor i gynllunio eich diwrnod, rhywbeth blasus i’w fwyta neu rodd wedi’i gwneud yn lleol ar gyfer y person arbennig hwnnw? Galwch heibio Canolfan Groeso Llandudno yng Nghanolfan Fictoria.

  11. Teithiau Cerdded Ardal Llandudno

    Llandudno

    Rydym ni wedi rhestru tair taith sy’n mynd â chi o gwmpas Llandudno a’r fro. Mae’r llwybrau isod yn mynd â chi o Landudno i Ddeganwy, Ochr y Penrhyn, Nant y Gamar, Trwyn y Fuwch a’r Gogarth.

  12. Y Tŷ Lleiaf ym Mhrydain

    Conwy

    Gellir dod o hyd i’r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain yn swatio o blith teras o dai ar lan y cei yng Nghonwy. Ni allwch golli’r tŷ lleiaf a byddech yn wallgof i beidio â bwrw’ch pen i mewn i gael golwg ar eich ffordd heibio.

  13. Castell Conwy

    Conwy

    Pan adeiladodd y Brenin Edward I Gastell Conwy ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg y bwriad oedd dominyddu a brawychu - ac mae’n dal i wneud ei waith, gan gystadlu â gorwelion garw Eryri ac ennill y frwydr am ein sylw.

  14. Plas Mawr

    Conwy

    Plas Mawr yw’r tŷ tref Elisabethaidd gorau ym Mhrydain. Lleolir yng Nghonwy, cartref un o gestyll Edward I, mae Conwy y lle perffaith i’r sawl sy’n caru hanes.

  15. Pont Grog Conwy

    Conwy

    Cerddwch dros yr Afon Conwy ar Bont Grog Thomas Telford, gyda golygfa o Gastell Conwy, Eryri a’r Aber.

  16. Canolfan Groeso - Conwy

    Conwy

    Angen cymorth i archebu llety, cyngor i gynllunio eich diwrnod, danteithion blasus neu anrheg a wnaed yn lleol ar gyfer rhywun arbennig? Dewch draw i Ganolfan Groeso Conwy.

Pellteroedd y Daith

OIPellter * (metrig)
Castell Gwrych (53.28318,-3.60725)Traeth Porth Eirias (53.29485,-3.71542)6.58
Traeth Porth Eirias (53.29485,-3.71542)Gwarchodfa Natur Leol Bryn Euryn (53.30563,-3.75199)2.44
Gwarchodfa Natur Leol Bryn Euryn (53.30563,-3.75199)Trwyn y Fuwch (53.32244,-3.78261)2.49
Trwyn y Fuwch (53.32244,-3.78261)Llwybrau’r Gogarth (53.33373,-3.85335)4.38
Llwybrau’r Gogarth (53.33373,-3.85335)Llwybr Sain Marine Drive (53.32599,-3.83049)1.57
Llwybr Sain Marine Drive (53.32599,-3.83049)Tramffordd y Gogarth (53.3276,-3.83595)0.36
Tramffordd y Gogarth (53.3276,-3.83595)Mwyngloddiau'r Gogarth (53.32997,-3.84892)0.81
Mwyngloddiau'r Gogarth (53.32997,-3.84892)Car Cebl Llandudno (53.32963,-3.83001)1.13
Car Cebl Llandudno (53.32963,-3.83001)Canolfan Groeso - Llandudno (53.32369,-3.82906)0.6
Canolfan Groeso - Llandudno (53.32369,-3.82906)Teithiau Cerdded Ardal Llandudno (53.32242,-3.82883)0.13
Teithiau Cerdded Ardal Llandudno (53.32242,-3.82883)RSPB Conwy (53.27873,-3.80446)4.61
RSPB Conwy (53.27873,-3.80446)Y Tŷ Lleiaf ym Mhrydain (53.28227,-3.82827)1.47
Y Tŷ Lleiaf ym Mhrydain (53.28227,-3.82827)Castell Conwy (53.28006,-3.82581)0.27
Castell Conwy (53.28006,-3.82581)Plas Mawr (53.28113,-3.82992)0.27
Plas Mawr (53.28113,-3.82992)Pont Grog Conwy (53.28048,-3.82378)0.37
Pont Grog Conwy (53.28048,-3.82378)Canolfan Groeso - Conwy (53.28006,-3.82562)0.12
Cyfanswm Pellter *27.61 milltir
Amcangyfrif o Amser y Daith53 munudau

* Amcangyfrif o'r pellter ar y ffordd

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....