Polisi Diogelu Data

Polisi Preifatrwydd

Fersiwn: 03/12/2019

Dewch i Gonwy

1. Cyflwyniad

Mae yna ffurflenni ac apiau ar wefan Dewch i Gonwy sy’n gofyn am eich gwybodaeth bersonol. Rydym yn sylweddoli pwysigrwydd preifatrwydd a diogelwch eich gwybodaeth bersonol a bydd y polisi preifatrwydd hwn yn eich helpu i ddeall pa wybodaeth bersonol y mae Dewch i Gonwy yn ei chasglu gennych i roi gwybodaeth i chi am yr ardal, ein cynhyrchion a’n gwasanaethau; sut ydym yn storio ac yn defnyddio’r wybodaeth honno a’r dewisiadau sydd gennych pan fyddwch wedi rhoi’ch gwybodaeth bersonol i ni.

Cadwn yr hawl i wneud newidiadau i’r Polisi hwn ar unrhyw adeg. Bydd y ffaith eich bod yn parhau i ddefnyddio’n cynhyrchion, apiau, gwasanaethau a’n gwefannau, sy’n dod o dan y Polisi hwn, yn dangos eich bod yn derbyn unrhyw a phob newid i’r Polisi hwn a wneir gennym o dro i dro.

Pwy ydym ni

Caiff gwefan dewchigonwy.org.uk ei rheoli gan y Tîm Marchnata Twristiaeth o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.

Gallwch weld polisi preifatrwydd llawn y Cyngor yn cynnwys manylion cyswllt ar www.conwy.gov.uk/privacynotices

Gallwch gysylltu â Dewch i Gonwy yn:

Y Tîm Marchnata Twristiaeth

Busnes a Twristiaeth

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Canolfan Fusnes Conwy

Lôn y Gyffordd

Cyffordd Llandudno

LL31 9XX

01492 575945/575950

tourism@conwy.gov.uk  

 

2. Sut ydym y defnyddio’r data personol a roddwch

Yn yr adran hon rydym wedi gosod allan:

  • y categorïau cyffredinol o ddata personol y gallwn fod yn eu prosesu
  • y dibenion rydym yn prosesu data personol ar eu cyfer; a’r
  • sail gyfreithiol dros brosesu

Byddwn yn prosesu’ch data personol yn unol â Deddfwriaeth Diogelu Data’r Deyrnas Unedig. Rydym yn cynnal safonau a gweithdrefnau diogelwch llym gyda golwg ar atal unrhyw un i weld eich data heb awdurdod.

2.1 Marchnata

Mae’n bosibl y byddwn yn prosesu gwybodaeth a rowch i ni at ddiben cofrestru ymwelwyr, gwneud cais am lyfryn, tanysgrifio i e-newyddlenni a rhoi cynnig ar gystadlaethau. Gall y data hwn gael ei brosesu at ddiben anfon yr hysbysiadau a’r cyfryngau perthnasol i chi. 

  • Ceisiadau am bamffled – drwy lenwi’r ffurflen Archebu Llyfryn rydych yn cytuno i dderbyn llyfrynnau gennym ni.
  • Cystadlaethau – gwiriwch y telerau a’r amodau unigol sy’n gysylltiedig â phob cystadleuaeth. Drwy roi cynnig ar ein cystadlaethau a llenwi’n ffurflenni cais rydych yn cytuno i’r telerau a’r amodau hyn.

Y sail gyfreithiol dros y prosesu hwn yw cydsyniad.

2.2 Cynnwys a Gynhyrchwyd gan y Defnyddiwr

2.2.1 Cyfryngau Cymdeithasol

Os ydych yn defnyddio unrhyw un o’n tudalennau cyfryngau cymdeithasol neu’n apiau neu un o’n cynhyrchion neu wasanaethau sy’n caniatáu rhyngweithio â rhwydweithiau cymdeithasol, gallwn dderbyn gwybodaeth sy’n gysylltiedig â’ch cyfrifon rhwydweithiau cymdeithasol. Er enghraifft:

  • Os ydych yn clicio ar ‘like’, ‘+1’ neu ‘tweet’ neu fotwm tebyg ar un o’n gwefannau neu’n gwasanaethau, gallwn gofnodi’r ffaith eich bod wedi gwneud hynny. Yn ogystal, gall y cynnwys rydych yn edrych arno gael ei bostio ar eich proffil neu’ch ffrwd rhwydwaith cymdeithasol. Mae’n bosibl y cawn wybodaeth bellach am ryngweithio pellach â’r cynnwys hwn (er enghraifft os yw’ch cysylltiadau yn clicio ar ddolen yn cynnwys a bostiwyd), y gallem gysylltu â’r manylion rydym yn storio amdanoch chi.
  • Os ydych yn ‘like’, ‘+1’ neu debyg ar un o’n tudalennau ar safle rhwydwaith cymdeithasol, mae’n bosibl y byddwn yn derbyn gwybodaeth am eich proffil rhwydwaith cymdeithasol, yn dibynnu ar osodiadau preifatrwydd eich cyfrif rhwydwaith cymdeithasol.

Am ragor o wybodaeth ac i gael manylion am sut y gallwch reoli mynediad at eich proffil rhwydwaith cymdeithasol, dylech edrych ar y polisi preifatrwydd a chanllawiau eraill sydd ar gael ar wefan eich rhwydwaith cymdeithasol.

2.2.2 Adolygiadau, sylwadau a chynnwys

Os ydych wedi lanlwytho adolygiadau, sylwadau neu gynnwys am gynnyrch ar ein gwefannau neu’n gwasanaethau a’u gwneud yn weladwy i’r cyhoedd, gallwn gysylltu â’r deunyddiau hyn, eu cyhoeddi neu eu hysbysebu mewn llefydd eraill yn cynnwys yn ein hysbysebion ein hunain.

2.2.3 Fforymau

Bob tro rydych yn creu neu’n ateb post neu edefyn ar fforwm gwefan gennym ni, yn ogystal â darparu’r gwasanaeth fforwm hwn, gallwn hefyd gofnodi enw’r fforwm ac amser a dyddiad eich post neu’ch edefyn gyda manylion eich cyfrif. Gwnawn hyn fel bod gennym ddealltwriaeth well o ‘ddefnyddwyr nodweddiadol’ ein fforymau ac i ddewis neu deilwra’n marchnata i adlewyrchu’ch gweithgaredd. Nid ydym yn defnyddio union gynnwys eich pyst neu edefyn at ddibenion anfon deunyddiau marchnata.

Y sail gyfreithiol dros brosesu yn 2.2.1, 2.22 a 2.2.3 yw buddiant dilys.

2.5 Rhwymedigaeth Gyfreithiol

Yn ychwanegol at y dibenion penodol lle gallem brosesu’ch data personol yn yr adran hon, gallwn hefyd brosesu’ch data personol lle mae prosesu o’r fath yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’r rhwymedigaeth reoleiddiol a chyfreithiol yr ydym yn ddarostyngedig iddi, neu er mwyn gwarchod eich buddiannau allweddol neu fuddiannau allweddol bod dynol arall.

3.  Rhoi eich data personol i eraill

Mae’n bosibl y byddwn yn defnyddio darparwyr gwasanaeth trydydd parti i ddarparu rhai gwasanaethau prosesu data ar ein rhan (yn gweithredu fel ein prosesyddion data awdurdodedig). Gallai enghreifftiau o’r rhain gynnwys partneriaid bilio a dosbarthu, darparwyr datrysiadau TG, darparwyr dadansoddi data sy’n prosesu gwybodaeth ar ein rhan at y dibenion a nodwyd uchod. Er enghraifft, gallem ddefnyddio gwasanaethau trydydd parti i bersonoli cynnwys, cyflawni archebion, dosbarthu pecynnau, anfon post ac e-byst, anfon negeseuon testun, rhoi cymorth marchnata, prosesu taliadau cerdyn credyd, darparu gwasanaethau gwirio rhag twyll a darparu gwasanaethau cwsmer.

Wrth weithredu fel ein prosesyddion data awdurdodedig, mae gofyn i’n darparwyr gwasanaeth brosesu data yn unol â’n cyfarwyddiadau yn unig, yn unol â’r Polisi hwn, ac maent yn ddarostyngedig i’r rhwymedigaethau priodol o ran cyfrinachedd a diogelwch.

Yn ychwanegol at y datgeliadau penodol o ddata personol yn yr adran hon, gallwn hefyd ddatgelu’ch data personol lle mae datgelu o’r fath yn angenrheidiol er mwyn cydymffurfio â’r rhwymedigaeth reoleiddiol a chyfreithiol yr ydym yn ddarostyngedig iddi, neu er mwyn gwarchod eich buddiannau allweddol neu fuddiannau allweddol bod dynol arall.

4.  Trosglwyddo’ch data personol yn rhyngwladol

Rydym yn storio’ch data ar weinyddion diogel yn y Deyrnas Unedig ac yn ei gadw am gyfnod rhesymol neu cyn hired ag y myn y gyfraith. Fodd bynnag, gall eich data gael ei drosglwyddo, ei storio, a’i brosesu mewn cyrchfan y tu mewn neu’r tu allan i’r Ardal Economaidd Ewropeaidd gan ein partneriaid neu’n darparwyr gwasanaeth. Drwy gyflwyno’ch data personol, rydych yn cytuno i’r trosglwyddo, y storio neu’r prosesu yma. Byddwn yn cymryd pob cam sy’n rhesymol angenrheidiol i sicrhau fod eich data’n cael ei drin yn ddiogel ac yn unol â’r Hysbysiad Preifatrwydd hwn.

5.  Cadw a dileu data personol

Mae’r Adran hon yn gosod allan ein polisïau a’n gweithdrefn cadw data a’u nod yw helpu i wneud yn siŵr ein bod yn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol o ran cadw a dileu data personol.

  • Ni fydd y data personol a broseswn yn cael ei gadw’n hirach nag sydd angen i’r diben hwnnw neu’r dibenion hynny.
  • Bydd eich data personol yn cael ei gadw am 5 mlynedd yn dilyn y dyddiad yr ydych yn peidio â bod yn gleient, neu’n hirach fel bo angen i fodloni’n rhwymedigaethau rheoleiddiol.
  • Serch darpariaethau eraill yr Adran hon, gallwn gadw’ch data personol lle mae angen gwneud er mwyn cydymffurfio â rhwymedigaeth gyfreithiol yr ydym yn ddarostyngedig iddi, neu er mwyn gwarchod eich buddiannau allweddol.

6.  Dolenni i safleoedd trydydd parti

Mae’n bosibl y bydd rhai o’n gwefannau yn cynnwys dolenni i wefannau trydydd parti eraill nad ydynt yn cael eu gweithredu gennym ni. Er ein bod yn ceisio cysylltu’n unig â safleoedd sy’n rhannu’n safonau uchel a’n parch i breifatrwydd, nid ydym yn gyfrifol am gynnwys, diogelwch neu arferion preifatrwydd y gwefannau trydydd parti hyn. Rydym yn eich annog yn gryf i gael golwg ar y polisïau sy’n ymwneud â phreifatrwydd a chwcis a ddangosir ar y gwefannau trydydd parti hynny er mwyn canfod sut gall eich gwybodaeth bersonol gael ei defnyddio.

7.  Newidiadau

  • Mae’n bosibl y byddwn yn diweddaru’r polisi hwn o dro i dro drwy gyhoeddi fersiwn newydd ar ein gwefan.
  • Dylech edrych ar y dudalen hon bob hyn a hyn i sicrhau eich bod yn fodlon ag unrhyw newidiadau i’r polisi hwn.

8.  Eich Hawliau

Yn yr Adran hon rydym wedi crynhoi’r hawliau sydd gennych o dan gyfraith diogelu data. Mae rhai o’r hawliau hyn yn gymhleth, ac nid ydym wedi cynnwys y manylion i gyd yn ein crynodebau. Felly, dylech ddarllen y deddfau a’r canllawiau perthnasol gan yr awdurdodau rheoleiddio i gael esboniad llawn am yr hawliau hyn.

Eich prif hawliau o dan gyfraith diogelu data yw:

(a) yr hawl i gael mynediad;

(b) yr hawl i gywiro;

(c) yr hawl i ddileu;

(d) yr hawl i gyfyngu ar brosesu;

(e) yr hawl i wrthwynebu prosesu;

(f) yr hawl i symud data;

(g) yr hawl i gwyno i awdurdod goruchwylio; ac

(h) yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl.

Gallwch ofyn i ni roi i chi unrhyw wybodaeth bersonol a ddaliwn amdanoch; bydd darparu’r wybodaeth yn amodol ar gael tystiolaeth addas o bwy ydych. At y diben hwn, byddwn fel arfer yn derbyn llun-gopi o’ch pasbort wedi’i ardystio gan gyfreithiwr neu fanc ynghyd â chopi gwreiddiol o fil cyfleustodau sy’n dangos eich cyfeiriad presennol.

Mewn ymarfer, byddwch naill ai’n cytuno yn unswydd (yn optio i mewn) ymlaen llaw i ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata, neu byddwn yn rhoi cyfle i chi optio allan o ddefnyddio’ch gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata.

I’r graddau mai’r sail gyfreithiol i brosesu’ch gwybodaeth bersonol yw cydsyniad, mae gennych hawl i dynnu’r cydsyniad hwnnw yn ôl ar unrhyw adeg. Ni fydd tynnu’n ôl yn effeithio ar gyfreithlonedd y prosesu cyn hynny.

9.  Cwcis

Drwy ddefnyddio’n gwefan a chytuno i’r polisi hwn, rydych yn cytuno i ni ddefnyddio cwcis yn unol â thelerau’r polisi.

9.1 Beth yw Cwcis?

Ffeil destun syml yw cwci sy’n cael ei storio ar gyfrifiadur (neu ddyfais symudol) defnyddiwr sy’n cael ei chreu pan mae defnyddiwr yn ymweld â gwefan drwy ddefnyddio rhaglen o’r enw porwr (Chrome, Internet Explorer, Firefox neu Safari).

Nid yw cwci yn rhaglen ei hun ac nid yw’n gwneud unrhyw beth ei hun ar gyfrifiadur defnyddiwr. Ni ellir defnyddio cwci i adnabod defnyddiwr yn bersonol ond maen nhw’n cyfrannu at wella profiad y defnyddiwr o wefan.

Mae cwci yn galluogi’r wefan i ddarllen cynnwys y ffeil destun cwci. Mae’r ffeil destun ei hun yn cynnwys cod adnabyddwr unigryw; enw’r safle a rhai digidau a rhifau.

9.2 Pam mae Cwcis yn cael eu defnyddio?

Bydd y rhan fwyaf o wefannau yn defnyddio cwcis i wella profiad y defnyddiwr drwy alluogi’r wefan i ‘gofio’’r defnyddiwr, naill ai tra bod yr ymweliad yn para neu ar gyfer ymweliadau dilynol.

Mae cwcis yn wneud llawer o dasgau gwahanol, fel:

  • cofio pa eitemau y gall defnyddiwr fod wedi’u hychwanegu i fasged siopa neu restr wrth i’r defnyddiwr symud rhwng tudalennau ar wefan
  • arbed dewisiadau defnyddiwr i’w galluogi i addasu gwefan
  • mesur beth mae defnyddwyr yn ei wneud ar wefan er mwyn canfod pa rannau o wefan sy’n boblogaidd, pa mor hir maen nhw’n treulio ar wefan, pa mor aml mae defnyddwyr yn dychwelyd, o ble maen nhw’n dod ayb

9.3 Pa Gwcis sy’n cael eu defnyddio gan y safle hwn?

Mae cwcis wedi’u gosod gan y wefan hon (cwcis parti cyntaf) ond gallant hefyd gael eu gosod gan wefannau eraill (e.e. You Tube) sy’n rhedeg cynnwys ar dudalennau’r wefan (cwcis trydydd parti).

Gellir gosod cwcis i gofio ymwelydd dwy gydol eu hymweliad (cwcis sesiwn) neu i gofio ymwelydd sy’n dychwelyd dro ar ôl tro (cwcis parhaus). Gallwch ddysgu mwy ar wefannau fel: www.allaboutcookies.org neu www.aboutcookies.org

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....