Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Teithiau Cerdded Llanrwst: Llwybr 1


Summary (optional)
start content

Hon yw'r daith gyntaf mewn cyfres o deithiau cerdded o Lanrwst. Cynhyrchwyd y daflen mewn partneriaeth rhwng Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Tref Llanrwst, Trailblazers Llanrwst a Menter Nant Conwy.

Mae'r daith gylchol hon yn eich tywys trwy goetir ar hyd lôn werdd i chi fwynhau golygfeydd ysblennydd o fynyddoedd y Carneddau a Dyffryn Conwy.  Yn ystod y gwanwyn a'r haf cofiwch am flodau gwyllt fel clychau'r gog, blodau'r meirch a garlleg gwyllt.  Mae glöyn byw brith y coed a'r dylluan fach hefyd wedi'u gweld ar y daith gerdded.

  • Dechrau'r Daith: Ffordd Cae'r Melwr, cyfeirnod grid SH 808 609
  • Tir: esgyniad a disgyniad hawdd/cymedrol
  • Pellter: tua 5.5 km, 3.5 milltir
  • Amser: tua 2 awr
  • Llwybrau: palmentydd, lonydd gwyrdd, traciau a lonydd
  • Cŵn: dylai cŵn fod dan reolaeth dynn
  • Map: Explorer OL17 Lluniaeth: ar gael mewn siopau a thafarnau lleol

Byddwch yn ofalus!

  • Wrth gerdded ar y ffordd, cerddwch ar yr ochr dde mewn un llinell.   
  • Mae esgidiau a dillad addas yn hanfodol ar gyfer cerdded gydol y flwyddyn.

Gweler isod am gopi PDF o lwybr y daith gerdded / taflen. Mae nifer o gyhoeddiadau ar gael i'w prynu. Ewch i'n tudalen Cyhoeddiadau Cefn Gwlad am fwy o wybodaeth.

Y Côd Cefn Gwlad

end content