Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.
Cartref Preswylwyr Parcio, ffyrdd a theithio Tollffordd Marine Drive

Tollffordd Marine Drive


Summary (optional)
Mae Tollffordd Marine Drive yn ffordd hynod o hardd bum milltir o hyd o amgylch gwaelod pentir y Gogarth.
start content

Mae’r dollffordd 5 milltir o hyd ar agor drwy’r flwyddyn ac mae’n cynnig golygfeydd syfrdanol o Ynys Môn ac Eryri.

Mae’r ffordd yn dechrau heibio’r pier ar Draeth y Gogledd ac mae’r 3 milltir a hanner cyntaf yn ffordd traffig unffordd yn unig.

Gallwch gael mynediad at gopa'r Gogarth drwy droi i'r chwith ar St Tudno's Road, tua milltir ar hyd Marine Drive.  Mae’n werth ymweld ag Eglwys Sant Tudno o'r 12fed Ganrif ar eich ffordd i fyny. Mae eich tocyn toll hefyd yn talu am barcio ar y copa.

Mae llawer o lefydd i barcio ar hyd Marine Drive er mwyn mwynhau'r olygfa. Mae caffi Rest and Be Thankful yn nodi’r pwynt hanner ffordd ac mae maes parcio yno. Wrth i chi yrru, byddwch hefyd yn mynd heibio Goleudy'r Gogarth. Ar ôl llawer o droadau, bydd y ffordd yn ymddangos ym Mhenmorfa, Llandudno.

Mae Marine Drive a’r Gogarth wedi’u defnyddio gan sawl cwmni cynhyrchu ffilmiau at ddibenion masnachol ac ar gyfer hysbysebion. Mae hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau, megis Cambrian Rally, Three Castles Vintage Rally, Mini Rally a World Rally Great Britain.

Taliadau

  • Beic AM DDIM
  • Beic Modur £3.00
  • Car £5.50
  • Bws mini £10.50
  • Coets (ar ôl trefnu ymlaen llaw yn unig) £16.50
  • Trwydded Tymor £61.20

Dulliau talu

  • Defnyddio PayByPhone a dangos eich derbynneb yn y tolldy
  • Talu gydag arian parod yn y tolldy


I drefnu ymweliad â choets, ffoniwch 01492 576622 rhwng 9am a 5pm.

Nodwch mai’r cyfyngiad pwysau ar gyfer Tollffordd Marine Drive yw 9 tunnell.

Neu wneud cais ar bapur

Ffurflen Gais am Drwydded Marine Drive.

end content