Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Teithiau Cerdded Llanrwst: Llwybr 2 yn Cynnwys Coed y Felin


Summary (optional)
start content

Hon yw'r ail daith mewn cyfres o deithiau cerdded o Lanrwst.  Cynhyrchwyd y daflen mewn partneriaeth rhwng Gwasanaeth Cefn Gwlad Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Cyngor Tref Llanrwst, Trailblazers Llanrwst a Menter Nant Conwy. 

Mae'r daith gerdded gylchol hon yn mynd â chi o dref farchnad Llanrwst drwy 'Coed y Felin' (safle sy'n cael ei reoli gan Wasanaeth Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy Conwy) coetir hynafol ar lannau nant gyda hen felin arni. Mae'r safle ar ei orau yn y gwanwyn pan mae'r ddaear wedi'i orchuddio gan flodau coetir. Mae'r daith gerdded yn mynd a chi ar hyd lonydd i bentref Llanddoged ac yna llwybrau ar draws tir fferm gyda golygfeydd godidog o Eryri a Dyffryn Conwy.

  • Dechrau'r Daith: maes parcio Glasdir, cyfeirnod grid SH797 617
  • Tir: llawer o ddringo a disgyn, rhai llwybrau serth, cul trwy goetiroedd gyda thir anwastad a stepiau
  • Amser: tua 3 awr, Pellter: tua 8 cilomedr, 5 milltir
  • Llwybrau: palmentydd, ffyrdd cul, llwybrau troed
  • Cŵn: dylai cŵn fod dan reolaeth dynn
  • Map: Rydym yn awgrymu eich bod yn mynd a map Explorer OL17 gyda chi, Lluniaeth: ar gael mewn caffis, tafarnau a siopau lleol yn Llanrwst

Byddwch yn ofalus!

  • Mae esgidiau a dillad addas yn hanfodol ar gyfer cerdded gydol y flwyddyn.

Mapiau:

 

end content