Peidiwch â phoeni os nad ydych wedi dod mewn car. Mae digon o ddewis os ydych am ddefnyddio cludiant cyhoeddus i deithio o amgylch ein rhanbarth. Hyd yn oed os ydych wedi cyrraedd mewn car mae sawl rheswm da pam y dylech ei barcio, ymlacio a gadael i rywun arall eich gyrru.
Gwasanaethau bws/trên lleol. Mae digonedd ohonynt ac maen nhw’n hawdd eu defnyddio. Mae copïau o’r amserlen fysiau/trenau ar gael yn y Canolfannau Croeso. Neu ewch i www.conwy.gov.uk
Mae gwybodaeth am gludiant cyhoeddus yng Nghymru ar gael gan Traveline Cymru.
Rheilffordd Dyffryn Conwy. Mae Dyffryn Conwy’n un o ardaloedd prydferthaf Gymru a pha ffordd well i ddarganfod yr ardal hon nag ar drên? Dilynwch y dyffryn wrth i’r trên deithio o brysurdeb yr arfordir drwy gefn gwlad olygfaol i ganol Eryri www.conwyvalleyrailway.co.uk
Teithio o’r orsaf drenau. Ewch i www.traintaxi.co.uk
Sherpa’r Wyddfa. Mae Sherpa'r Wyddfa yn myndâ chi ar gludiant cyhoeddus o Fetws-y-Coed ac o gwmpas Eryri a’i hatyniadau. P’un ai ydych chi’n cerdded neu’n mynd i weld golygfeydd yn rhywle, dewiswch y dewis gwyrdd a gadewch eich car adref. Eisteddwch, ymlaciwch a mwynhewch y golygfeydd o gysur ein bysiau. I weld yr amserlenni ewch i www.traveline.cymru neu www.conwy.gov.uk
Ewch i grwydro. Dewch i gasglu eich tocyn crwydro Cymru gan Trafnidiaeth Cymru
trctrenau.cymru i fwynhau pedwar diwrnod o deithio ar drenau a’r mwyafrif o fysiau dros gyfnod o wyth diwrnod. Neu os ydych yn ymweld am y diwrnod, beth am brynu tocyn Rover Gogledd Cymru trctrenau.cymru sy’n eich galluogi i deithio ar drenau a bysiau fel y mynnwch am ddiwrnod llawn.
Gwefru: Os ydych chi’n defnyddio cerbyd trydan, mae mannau gwefru ar gael ar yr arfordir yn Llandudno, ac i lawr y dyffryn ac ym Metws-y-Coed. Mae rhestr lawn o fannau gwefru ar gael yma.
Ar ddwy olwyn. Mae gennym rai o lwybrau beicio gorau a mwyaf amrywiol y Deyrnas Unedig. Dewch â’ch beic eich hun – neu llogwch feic ar ôl i chi gyrraedd.www.nationalcyclenetwork.org.uk