Astudiaeth Achos: Sian Humpherson, Rheolwr Datblygu Busnes Grŵp, Gwestai Royal Oak (Betws y Coed) Cyf

Sian Humpherson yn sefyll ar fynydd gyda'r môr yn y cefndir

Am

Sian Humperhson yw Rheolwr Datblygu Busnes Grŵp, Gwestai Royal Oak (Betws y Coed) Cyf Symudodd Sian i Lanystumdwy yng Ngogledd Cymru gyda’i rhieni er mwyn iddynt agor busnes yn yr ardal. Roedd Sian wedi gwirioni cymaint gyda Gogledd Cymru, hyd yn oed ar ôl teithio o amgylch y byd, penderfynodd ddod yn ôl i’r ardal i setlo a datblygu ei gyrfa mewn lletygarwch. Darganfyddwch beth mae hi’n ei hoffi am weithio yn y diwydiant hwn a byw yng Ngogledd Cymru.

Sut brofiad oedd cael magwraeth yng Ngogledd Cymru?

"Mae fy atgofion plentyndod yn rhai o hafau hir ar draethau Penllyn, yn chwarae yn y pyllau creigiau a caiacio môr, hydrefau yn y coetiroedd yn edrych am fwyar duon ac eirin a diwrnodau allan yn rasio i fyny’r mynyddoedd gyda fy chwaer a’r ci. Roedd yn ddelfrydol ac rwy’n ddiolchgar iawn i fy rhieni a benderfynodd symud o swbwrbia i gefn gwlad go iawn!"

Beth a’ch ysbrydolodd i ymgeisio am swydd yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch?

"Symudais i faes lletygarwch trwy ddamwain llwyr trwy helpu mewn bistro Ffrengig lleol roedd fy chwaer yn gweithio ynddo ar y pryd - mi arhosais am yr haf cyfan a defnyddio fy sgiliau creadigol trwy ddod yn gogydd toes! Roedd gan y Cogydd-Perchennog ardd gegin wych ble roeddem yn casglu addurniadau bwytadwy a dysgu am gynhwysion Ffrengig traddodiadol...ac felly dechreuodd fy ngyrfa mewn lletygarwch! Roeddwn wedi gwirioni, roedd yn fyd newydd sbon o win, methodoleg, cynhwysion ac alcemi!"

"Un o’r rhesymau yr arhosais yn y diwydiant oedd yr hyblygrwydd a roddodd yr oriau i mi. Er yn anhraddodiadol o ran y 9-5 roedd y manteision o allu trefnu gwaith o amgylch bywyd yn hytrach na bod yn y swyddfa trwy'r dydd wir yn cyd-fynd â fy ffordd o fyw. Roddwn yn gallu mynd allan gyda’r cŵn yn y bore a chael digon o amser i fynd i'r gwaith erbyn hanner dydd."

Pa mor hir ydych wedi gweithio yn eich swydd bresennol?

"Rwyf wedi bod yn fy swydd bresennol am bron i 4 mlynedd. Dychwelais i Gymru ar ôl blwyddyn o deithio ac wedi ymgeisio am sawl swydd mewn gwahanol rannau o’r DU ond ar ôl i chi fyw yng Nghymru, mae'n dal eich calon. Felly pan gysylltodd fy nghyn gyflogwr a dweud ei fod wedi clywed fy mod yn ôl ac yn edrych am swydd roedd yn benderfyniad eithaf hawdd i'w wneud."

Pa mor hir ydych wedi gweithio i’ch cyflogwr presennol?

"Symudais yn ôl i Gymru yn 2002 ar ôl 10 mlynedd yn yr Alban a dechreuais weithio i’r cwmni fel y Rheolwr Gweithrediadau ar safle Royal Oak. Yn 2008 deuthum yn ôl o gyfnod sabothol yn Ffrainc a chymryd swydd traws-safle i gynnwys Gwesty a Chabanau Waterloo."

Beth yw’r diwrnod nodweddiadol yn eich swydd bresennol?

"Nid oes unrhyw beth yn nodweddiadol am fy niwrnod – sydd yn un o’r pethau gorau am fy swydd! Gallaf fynd o ateb negeseuon e-bost yn y bore, i gyfarfod gyda’n dylunydd mewnol amser cinio, i helpu mewn ffeiriau recriwtio yn y prynhawn. Bwriad fy swydd yw datblygu’r busnes felly rwy’n gwneud llawer o hyfforddi gyda'r tîm a gweld beth yw'r anghenion o fewn y busnes. Gall hyn amrywio o uwch-sgilio staff i drefnu meddalwedd newydd neu osod system dechnegol newydd sbon."  

Beth ydych chi’n ei hoffi fwyaf am eich swydd bresennol?

"Rwy’n hoffi ein bod mor ddatblygiadol yn ein hagwedd ac yn ymateb i anghenion y farchnad. Mae fy swydd yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd, sy’n golygu prosiectau amrywiol, diddorol a heriol. Mae’n rhoi rhyddid creadigol i fod yn rhan o’r cychwyn i’r diwedd. Ac er ein bod yn gweithio ar wahanol brosiectau trwy’r cwmni, mae dal yn teimlo fel ein bod yn dîm cydlynus sydd â’r un weledigaeth ac rydym yn gweithio tuag at yr un nodau. Mae ein gwerthoedd yn allweddol o ran bod yn rhan o gymuned wledig - rydych wir yn teimlo eich bod yn rhan werthfawr o rywbeth wrth weithio i gwmni annibynnol."

O’ch profiad chi, beth yw’r peth gorau am fyw a gweithio yng Ngogledd Cymru?

"Y mynyddoedd, na y môr, na y coetiroedd a’r coedwigoedd, na y diwylliant oh a’r beicio mynydd a padl-fyrddio a’r golygfeydd rownd bob cornel....oh efallai y cymudo trawiadol a gallu cerdded i’r traeth ar ôl gwaith neu’r ceffylau yn Idwal neu de hufen Cymreig..... oes rhaid i mi ddewis un peth? Rwy’n cael gwneud swydd amrywiol ddiddorol gyda chriw o bobl wych sy'n angerddol dros ddefnyddio cynnyrch tymhorol a ffres, gan sicrhau ein bod yn defnyddio masnach leol cymaint â phosib i greu cymunedau cynaliadwy ac ar fy niwrnodau i ffwrdd mae gennyf y rhestr fwyaf anhygoel o bethau y gallaf eu gwneud!"

Beth ydych yn mwynhau ei wneud yn eich amser sbâr?

"Mae Gogledd Cymru wastad wedi bod yn faes chwarae i mi ac rwy'n cerdded mynyddoedd yn aml. Mae cymaint o amrywiaeth mewn ardal mor fach gyda golygfeydd anhygoel, yr anhawster yw penderfynu ble i fynd yn hytrach na beth i'w wneud! Mae mynd allan ar y dŵr ar y byrddau padlo neu geufadau yn un o fy hoff bethau i’w gwneud - gyda chymaint o lynnoedd mewn ardal mor fach nid yw’n anodd dod o hyd i le newydd i badlo. Rwyf hefyd yn hoff iawn o gelf ac mae'r diwylliant yn sir Conwy yn eithaf cyfareddol - o’r cyfoes ym Mostyn i’r modern yn Ffin y Parc. Mae Cymru yn llawn creadigrwydd ac mae ysbrydoliaeth yn y lleoedd lleiaf." 

Beth fyddech yn ei ddweud wrth rywun sy’n meddwl am ymgeisio am swydd yn y diwydiant twristiaeth a lletygarwch?

"Ewch amdani...mae’n rhoi cymaint mwy na fyddwch erioed yn ei ddychmygu. Y cyfle i gyfarfod â chymaint o bobl o gymaint o wahanol leoedd ac mae’n agor y byd i fyny o ran sgiliau trosglwyddadwy. Mae hefyd yn dysgu sgiliau bywyd a chymaint o lwybrau at bob math o ddisgyblaethau gwahanol. Rwyf wedi gweithio mewn timau hyfforddiant i ddatblygu is-reolwyr ac wedi fy secondio i adrannau marchnata i ddatblygu ymgyrchoedd o fewn fy llwybr gyrfa corfforaethol. Mae gweithio i gwmni annibynnol wedi gwneud i brosiectau cymunedol ddod yn fyw. Ni allaf ddychmygu diwydiant arall sy’n cynnig cymaint o amrywiaeth neu lwybrau diddorol at greu llwybr gyrfa y gallwch gymryd rhan lawn ynddo."

#FyNgyrfaConwy

#BlasArLetygarwch

Cyfleusterau

Arall

  • Case study: Sian Humpherson, Group Business Development Manager, Royal Oak Hotels (Betws-Y-Coed) Ltd

TripAdvisor

Map a Chyfarwyddiadau

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....