Am
Hoffa Gavin a Mandie Jacob eich croesawu chi i Albany House, Gwely a Brecwast bach sy’n cael ei redeg gan y teulu, ac sydd wedi’i leoli ar Bromenâd prydferth Llandudno, sy’n cynnwys golygfeydd panoramig ar draws y bae. Albany House yw’r lleoliad delfrydol ar gyfer eich arhosiad – am un noson neu sawl un.
Mae Llandudno - ‘Brenhines Cyrchfannau Gwyliau Cymru’ yn enwog am ei phromenâd a’i phensaernïaeth Fictoraidd. Gall gwesteion fwynhau golygfeydd bendigedig o’r môr i’r Gogarth a Thrwyn y Fuwch o ardal y patio ar flaen yr adeilad, yr ystafell fwyta a’r ystafelloedd gwely yn y blaen.
Mae Albany House yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer mynd ar daith o amgylch Parc Cenedlaethol Eryri, arfordir anhygoel Gogledd Cymru, tref a chastell Conwy a sawl lle arall o ddiddordeb hanesyddol a phrydferthwch naturiol.
Rydym wedi ein lleoli yn ardal ddistawach Craig y Don yn Llandudno, taith gerdded tua 15-20 munud i'r pier a chanol y dref.
Mae pob ystafell yn en-suite gyda theledu lliw, hambwrdd lletygarwch a WiFi am ddim. Mae gennym faes parcio mawr i gefn yr eiddo, ac rydym o fewn pellter cerdded i Venue Cymru, bwytai lleol, caffis a mannau prydau parod. Croesewir beicwyr a cherddwyr. Mae gennym garej sy’n cloi i gadw beics yn ddiogel, a thap tu allan ar gyfer golchi eitemau awyr agored.
Mae croeso cynnes i blant, ond nid ydym yn darparu cot. Yn anffodus, nid oes mynediad cadeiriau olwyn ac nid oes gennym ystafelloedd gwely ar y llawr gwaelod.
Pris a Awgrymir
- Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
- 1
Ystafell / Uned Math | Ystafell / Uned Tariff* |
---|---|
Albany House | o£30.00 i £45.00 fesul person y noson |
*Brecwast wedi'i gynnwys
Cyfleusterau
Arall
- Areas provided for smokers
- Credit cards accepted
- Private Parking
- Short breaks available
- Special diets catered for
- Tea/Coffee making facilities in bedrooms
- Totally non-smoking establishment
- TV in bedroom/unit
- Wireless internet
Cyfleusterau Darparwyr
- Children's facilities available
- Wifi ar gael
Nodweddion Darparwr
- Glan y môr