Rwst Holiday Lodges

Am

Mae ein cabanau gwyliau hynod o gyfforddus mewn lleoliad heddychlon ger yr afon ac o flaen y mynyddoedd. Rydym yn cynnig cabanau unllawr un, dwy a thair ystafell wely ar gyfer gwyliau hamddenol gartref - sy'n ddelfrydol ar gyfer cyplau, unigolion, teuluoedd a grwpiau o ffrindiau.

Mae ein holl gabanau wedi eu hadnewyddu’n ddiweddar ac yn cynnig llety o’r ansawdd uchaf. O’n matresi hynod gyfforddus i’n llenni a deunyddiau moethus, rydym wedi dylunio popeth i sicrhau eich bod yn cael y gwyliau mwyaf ymlaciol a chysurus. Mae gennym ddau gaban lle croesewir cŵn.

Yn ogystal â chroeso cynnes Cymreig a lleoliad hynod brydferth, gallwch ddisgwyl lle byw agored chwaethus gyda chegin ac ystafell fwyta yn un ac ystafell fyw gyfforddus, ystafelloedd gwely wedi’u cyflwyno’n hardd, ac ystafelloedd ymolchi gwlyb. Mae cabanau mwy yn cynnwys prif ystafell wely en-suite, ac mae cyfleusterau golchi dillad ar y safle. 

Fe welwch ein parc gwyliau newydd hardd Rwst yng nghanol Eryri, Gogledd Cymru. Gyda golygfeydd godidog dros Afon Conwy i ddolydd, coedwigoedd a’r mynyddoedd mawr y tu hwnt, mae’n rhan syfrdanol o’r byd. Daw’r enw Rwst o Lanrwst, tref Dyffryn Conwy sy’n gartref i ni. Mae Llanrwst yn dref farchnad hanesyddol, gyda’r Carneddau tua’r gogledd a mynyddoedd Eryri tua’r de. Dyma dirwedd epig yn ddiamau.

Mae rhai o atyniadau mwyaf poblogaidd y rhanbarth ar garreg ein drws, gan gynnwys Zip World a Llwybrau Gwydir Mawr a Gwydir Bach. Ychydig ymhellach o’r dref mae’r Wyddfa, Bounce Below, a chanolfannau beicio mynydd Coed y Brenin ac Antur Stiniog.

Mae digon i'w archwilio heb fynd ar garlam hefyd. Dim ond 12 milltir o’r arfordir, rydyn ni’n agos at deithiau cerdded hardd ar lan y traeth, a threfi glan môr poblogaidd Conwy a Llandudno. Disgrifir Eryri weithiau fel Ardal y Llynnoedd Cymru, ac mae digon ohonynt ar stepen ein drws hefyd. Delfrydol os ydych yn mwynhau nofio gwyllt ar eich gwyliau.

Rydyn ni’n gymdogion i un o’r llefydd mwyaf poblogaidd i dynnu llun yng Nghymru: rydyn ni wedi ein lleoli ochr draw i’r afon o ystafelloedd te eiconig Tu Hwnt i’r Bont a phont garreg dri bwa hardd Llanrwst, a ddyluniwyd yn yr 17eg Ganrif gan y Pensaer gwych yng nghyfnod y Dadeni, Inigo Jones.

Archebwch ar-lein yn Rwst Holiday Lodges

Pris a Awgrymir

Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
22
Ystafell / Uned MathYstafell / Uned Tariff*
Fesul uned yr wythnoso£349.00 i £1,800.00 fesul uned yr wythnos

*O £349.00 i £1,800.00 yr uned yr wythnos. Pecyn seibiannau byr, 3 noson yr uned o £299.

Cyfleusterau

Arall

  • Areas provided for smokers
  • Bed linen provided
  • Central heating
  • Credit cards accepted
  • Ground floor bedroom/unit
  • Private Parking
  • Short breaks available
  • Showers on site
  • Toilets on-site
  • TV in bedroom/unit
  • Washing machines available on-site
  • Welsh Spoken
  • Wireless internet

Nodweddion Darparwr

  • Croesawgar i gŵn

Nodweddion Ystafell/Uned

  • Derbynnir Anifeiliaid Anwes - Dau gyfrinfa sy'n addas i gŵn.

Map a Chyfarwyddiadau

Rwst Holiday Lodges

4 Sêr Croeso Cymru 4 Sêr Croeso Cymru 4 Sêr Croeso Cymru 4 Sêr Croeso Cymru 4 Sêr Croeso Cymru Hunanddarpar
Betws Road, Llanrwst, Conwy, LL26 0HE

Ychwanegu Rwst Holiday Lodges i'ch Taith

Ffôn: 01492 701567

Amseroedd Agor

Ar agor (1 Ion 2024 - 31 Rhag 2024)

Graddau

  • 4 Sêr Croeso Cymru
4 Sêr Croeso Cymru

Beth sydd Gerllaw

  1. Eglwys hanesyddol Gradd I a godwyd yn 1470, sy’n edrych dros afon Conwy yng nghanol…

    0.18 milltir i ffwrdd
  2. Mae Castell Gwydir yn dŷ Cymreig hynafol yn harddwch Dyffryn Conwy, ar odre Eryri. Caiff…

    0.33 milltir i ffwrdd
  3. Dechreuwyd gwaith adeiladu’r capel ym 1673, ac mae tu allan carreg syml y capel yn rhoi…

    0.41 milltir i ffwrdd
  4. Mae Zip World Fforest wedi’i leoli yng nghanol harddwch Dyffryn Conwy, ychydig y tu allan…

    2.52 milltir i ffwrdd
  1. Adeiladwyd yr eglwys yn y 14eg Ganrif a hwn yw’r adeilad hynaf ym Metws-y-Coed. Mae…

    2.91 milltir i ffwrdd
  2. Mae Amgueddfa Rheilffordd Dyffryn Conwy yn ddiwrnod allan gwych i deuluoedd. Treuliwch…

    2.99 milltir i ffwrdd
  3. Mae’r Rhaeadr Ewynnol yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol lle mae’r Afon Llugwy’n…

    3.17 milltir i ffwrdd
  4. Coedwig o lynnoedd a mynyddoedd yng nghanol Eryri. Mae Parc Coedwig Gwydir yn gartref i…

    3.38 milltir i ffwrdd
  5. Cymdeithas Eryri sy’n gofalu am Tŷ Hyll. Mae pwy adeiladodd y tŷ a phryd yn parhau’n…

    3.61 milltir i ffwrdd
  6. Wedi'i amgylchynu gan dirweddau godidog Gogledd Cymru, mae Sba ‘Wave Garden’ ym Mharc…

    4.22 milltir i ffwrdd
  7. Teithiau trwy 9.5 erw o goedwig gynhenid at raeadr drawiadol Conwy. Mynediad ar hyd tir…

    4.94 milltir i ffwrdd
  8. Cartref plentyndod Syr Henry Jones (1852-1922) yw’r amgueddfa. Ganwyd Syr Henry Jones i…

    5.76 milltir i ffwrdd
  9. Er bod Cwm Wybrnant yn fan tawel ac anghysbell heddiw, mae’r lleoliad yn arwyddocaol iawn…

    6.04 milltir i ffwrdd
  10. Yn ymestyn dros 80 erw ac â mwy na 250 o flynyddoedd o hanes garddwriaethol, mae Gardd…

    6.79 milltir i ffwrdd
  11. Mae Capel Seion yn enghraifft wych o gapel traddodiadol Cymreig a adeiladwyd yn ystod oes…

    7.08 milltir i ffwrdd
  12. Cadarnle Cymreig aruchel mewn lleoliad mynydd trawiadol. ​​​​​Mae Dolwyddelan mor Gymreig…

    7.2 milltir i ffwrdd
Previous Next

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....

Peidiwch â Methu....