Am
Ynglŷn â’n llety
Mae’n cabanau gwyliau hynod o gyfforddus mewn lleoliad heddychlon ger yr afon yng nghysgod y mynyddoedd. Rydym yn cynnig cabanau unllawr sydd ag un, dwy, neu dair ystafell wely ar gyfer gwyliau heddychlon – maent yn ddelfrydol ar gyfer cyplau, unigolion, teuluoedd a grwpiau o ffrindiau. Mae ein holl gabanau wedi eu hadnewyddu’n ddiweddar ac yn cynnig llety o’r ansawdd uchaf. O’n matresi hynod gyfforddus i’n llenni a deunyddiau moethus, rydym wedi dylunio popeth i sicrhau eich bod yn cael amser ymlaciol a hamddenol gyda ni.
Cyfleusterau allweddol i ymwelwyr
Yn ogystal â chroeso Cymreig cynnes a lleoliad hardd, gallwch ddisgwyl gofod byw agored
gyda chegin fwyta gyda’r holl gyfarpar angenrheidiol ac ystafell eistedd gyfforddus, ystafelloedd gwely hardd, ac ystafelloedd ymolchi cyfoes. Mae’r cabanau mwyaf yn cynnwys prif ystafell wely en-suite, ac mae cyfleusterau golchi dillad ar y safle. O 1 Hydref ymlaen bydd y cabanau'n gyfeillgar i gŵn
Sut i archebu?
Archebwch ar-lein ar https://www.rwstholidaylodges.co.uk
Gwybodaeth ychwanegol
Mae parc cabanau gwyliau newydd hardd Rwst yng nghanol Eryri. Gyda golygfeydd eang dros Afon Conwy at ddolydd, coedwigoedd a’r mynyddoedd mawrion y tu hwnt iddynt, does dim dwywaith ei bod mewn rhan anhygoel o hardd o’r byd. Daw’r enw Rwst o Lanrwst, ein tref yn Nyffryn Conwy. Mae Llanrwst yn dref farchnad hanesyddol, gyda’r Carneddau tua’r gogledd a mynyddoedd Eryri tua’r de. Mae’n dirlun gwirioneddol anhygoel.
Mae rhai o atyniadau mwyaf poblogaidd yr ardal ar garreg ein drws, gan gynnwys Zip Word, Parc Antur Eryri, a Llwybrau Gwydir Mawr a Gwydir Bach. Ychydig ymhellach mae’r Wyddfa, Bounce Below, a chanolfannau beicio mynydd Coed y Brenin ac Antur Stiniog.
Mae digon i’w wneud ar lai o gyflymder hefyd. 12 milltir yn unig oddi wrth yr arfordir, rydym yn agos at deithiau cerdded arfordirol hardd, a threfi glan môr poblogaidd Conwy a Llandudno. Disgrifir Eryri weithiau fel Ardal y Llynnoedd Cymru, ac mae gennym ddigon o lynnoedd yma hefyd. Delfrydol os ydych yn mwynhau nofio gwyllt ar eich gwyliau.
Rydym yn gymdogion i un o’r llefydd mwyaf poblogaidd i dynnu ffotograff yng Nghymru: ar draws yr afon mae ystafell de Tu Hwnt i’r Bont a phont dair bwa Llanrwst, a ddyluniwyd yn yr ail ganrif ar bymtheg gan y pensaer enwog Inigo Jones.
Pris a Awgrymir
- Nifer yr Ystafelloedd / Unedau
- 22
Ystafell / Uned Math | Ystafell / Uned Tariff* |
---|---|
Fesul uned yr wythnos | o£349.00 i £1,800.00 fesul uned yr wythnos |
*Pecyn gwyliau byr 3 noson fesul uned: o £299
Gwybodaaeth Covid-19
COVID-19 Response
- Ardaloedd prysur yn cael eu glanweithio’n rheolaidd
- Arwyddion clir
- Cadw pellter o 2m yn ei le
- Contactless payment possible
- Glanhau trylwyr rhwng ymwelwyr
- Mae’n ofynnol i staff olchi eu dwylo’n rheolaidd
- Pob lliain yn cael ei lanweithio wrth ymolchi ar wres uchel
Cyfleusterau
Arall
- Areas provided for smokers
- Bed linen provided
- Central heating
- Credit cards accepted
- Ground floor bedroom/unit
- Private Parking
- Short breaks available
- Showers on site
- Toilets on-site
- TV in bedroom/unit
- Washing machines available on-site
- Welsh Spoken
- Wireless internet
Nodweddion Darparwr
- Croesawgar i gŵn
Nodweddion Ystafell/Uned
- Derbynnir Anifeiliaid Anwes - Dau gyfrinfa sy'n addas i gŵn.