I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Nifer yr eitemau: 32
, wrthi'n dangos 21 i 32.
Conwy
Porth Diwylliannol i Sir Conwy - Mae Canolfan Ddiwylliant Conwy dafliad carreg oddi wrth waliau tref ganoloesol ryfeddol Conwy.
Conwy
Mae’r Academi Frenhinol Gymreig yn sefydliad unigryw yng Nghymru. Mae’n elusen annibynnol sy’n cefnogi celf ac artistiaid Cymreig ac yma caiff celf ei chydnabod, ei chreu, ei harddangos a’i thrafod.
Llandudno
Mae gan yr Amgueddfa chwe oriel barhaol yn adrodd hanesion gorffennol Llandudno gan gynnwys y trigolion cynharaf, creu’r dref Fictoraidd, a’i lle fel hafan ddiogel yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Colwyn Bay
Mae Ink. Gallery Ltd yn gwmni cydweithfa gelfyddydau newydd wedi’i leoli yn yr hen adeilad Longmans ym Mae Colwyn.
Conwy
Gellir dod o hyd i’r Tŷ Lleiaf ym Mhrydain yn swatio o blith teras o dai ar lan y cei yng Nghonwy. Ni allwch golli’r tŷ lleiaf a byddech yn wallgof i beidio â bwrw’ch pen i mewn i gael golwg ar eich ffordd heibio.
Betws-y-Coed
Mae Amgueddfa Rheilffordd Dyffryn Conwy yn ddiwrnod allan gwych i deuluoedd. Treuliwch amser yn yr amgueddfa, gyda phump rheilffordd model i’w gwylio a thaith ar y trên bach.
Llandudno
Gyda modelau, arddangosfeydd rhyngweithiol a ffilmiau cyffrous, bydd y teulu cyfan yn mwynhau darganfod mwy am fywyd gwyllt amrywiol a hanes y Gogarth.
Rowen
Mae Capel Seion yn enghraifft wych o gapel traddodiadol Cymreig a adeiladwyd yn ystod oes aur adeiladu capeli yn y 19eg Ganrif (1819).
Abergele
Cartref plentyndod Syr Henry Jones (1852-1922) yw’r amgueddfa. Ganwyd Syr Henry Jones i bobl gyffredin ond fe ddyrchafodd i fod yn Athro enwog ar Athroniaeth Foesol ym Mhrifysgol Glasgow ac roedd yn ddylanwad pwysig ar system addysg Cymru.
Betws-y-Coed
Er bod Cwm Wybrnant yn fan tawel ac anghysbell heddiw, mae’r lleoliad yn arwyddocaol iawn yn hanes a diwylliant Cymru.
Llanrwst
Eglwys hanesyddol Gradd I a godwyd yn 1470, sy’n edrych dros afon Conwy yng nghanol Llanrwst.
Llandudno
Mae Oriel Ffin y Parc yn un o’r orielau celf mwyaf llewyrchus yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’n cynrychioli mwy na deugain o arlunwyr sy’n cynnwys arlunwyr newydd a chyffrous yn ogystal â rhai o'r arlunwyr mwyaf llwyddiannus sydd wedi ennill eu plwyf…