Atyniadau yn Sir Conwy
Morloi, Punch a Judy a’r Rhaeadr Ewynnol - mae atyniadau Llandudno yn berffaith ar gyfer y teulu cyfan.
Ble i ddechrau?
Draw yn y Sŵ Fynydd Gymreig sy’n edrych dros Fae Colwyn? Mae yno lemyriaid â chynffonnau cylchog a morloi, neu ewch am dro ar hyd Pier Llandudno – yr hiraf yng Nghymru, sy’n ymestyn 2,295 o droedfeddi dros y môr, gydag amrywiaeth o arcedau diddanu, caffis a bariau?
Beth am ymweld â Gardd Bodnant yn Nyffryn Conwy? Ystyrir y gerddi hyn yn rhai o’r gorau yn y DU, mae yno erddi teras, lawntiau a gerddi gwyllt ac amrywiaeth enfawr o blanhigion a blodau o bob cwr o'r byd.
Neu mwynhewch ymysg llynnoedd a rhosydd Mynydd Hiraethog yng Nghanolfan Ymwelwyr Llyn Brenig.
Mae atyniadau Sir Conwy i’w cael mewn sawl siâp a maint – yn llythrennol.
Beth am ymweld â’r ‘Tŷ Lleiaf ym Mhrydain’ yng Nghonwy – tŷ bach wedi’i beintio’n goch, sydd yn mesur 3 metr o uchder a 1.8 metr o led?
Wedi hynny, beth am fwynhau natur ar raddfa fawr drwy ymweld â’r Rhaeadr Ewynnol ysblennydd ar yr Afon Llugwy ym Metws y Coed? Mae’r atyniad hwn yn enwog ar draws y byd. Ewch i Ganolfan Ymwelwyr Parc Gwledig Y Gogarth yn uchel uwchben Llandudno lle cewch wybod mwy am y 400 math o flodyn gwyllt sydd ar y clogwyni calchfaen a dysgu am yr adar môr, yn cynnwys gweilch y penwaig ac adar drycin y graig, yr ydych yn debygol o’u gweld.
Mae atyniadau Llandudno yn denu cynulleidfa fawr ac amrywiol.
Rydym ni’n gartref i barciau fferm a chanolfannau treftadaeth, difyrion ar gyfer y teulu cyfan a theithiau ar gychod, parciau hamdden newydd a’r sioe boblogaidd, Punch a Judy.
Mae ein treftadaeth yn atyniad mawr hefyd.
Mae Castell Conwy, a adeiladwyd yn ystod y 13eg ganrif, yn sefyll uwchben un o’r enghreifftiau gorau o dref gaerog yn Ewrop.
Ond dim ond rhan o’n stori yw’r castell a’r waliau a adeiladwyd gan y Brenin Edward I. Porwch drwy ein dewis o atyniadau isod, neu dewch i wybod mwy am atyniadau dan do / awyr agored penodol.