Am
Mae Buster’s Cycles, yn haeddiannol iawn, wedi ennill enw da fel y prif fusnes llogi beiciau yn Llandudno, Llandrillo-yn-Rhos a’r ardal.
Rydym ni’n darparu trafnidiaeth gynaliadwy ar gyfer enillwyr y Goriad Gwyrdd gan weithio mewn partneriaeth â gwestai, lleoliadau gwely a brecwast, canolfannau gwyliau a darparwyr gwyliau eraill o ansawdd.
Wedi’i sefydlu yn 2012 mae Buster’s Cycles yn arbenigo mewn beiciau hawdd eu reidio. Mae yna lawer o lwybrau beicio yma yng ngogledd Cymru, gyda golygfeydd godidog o’r arfordir a’r cefn gwlad. Rydym ni yma i’ch helpu chi ganfod y beic perffaith er mwyn i chi fwynhau holl lwybrau beicio’r ardal.
Mae gennym ni ganolfannau ym Mae Cinmel, Llandudno a Chonwy ac rydym ni'n gorchuddio'r ardal arfordirol rhwng Talacre, Prestatyn, Llandudno a Chonwy, gan gynnig gwasanaeth llogi beics sy’n cynnwys danfon a chasglu. Mae gennym ni ddigon o feiciau hybrid, dinas, MTB ac e-feiciau, yn ogystal â beics plant 20” a 24” a bygis a beiciau tynnu.
Mae modd i gwsmeriaid ddod i mewn i nôl y beiciau, neu fe allwn ni ddod â nhw i westai, lleoliadau gwely a brecwast a pharciau gwyliau.
Rydym ni wedi cael llawer o uchafbwyntiau dros y blynyddoedd, gan gynnwys darparu
10 beic i dîm rali Toyota Gazoo yn 2019, cynyddu ein fflyd o feiciau i ymdopi â Her Richard Carter a llawer, llawer mwy.
Rydym ni’n gorchuddio ystod o leoliadau ar hyd arfordir gogledd Cymru ac mae gennym ni 10 man danfon a chasglu rhwng Prestatyn a Chonwy, sef:
1. Traeth Talacre, CH8 9RD
2. Maes Parcio’r Nova, Prestatyn, LL19 7EY
3. Horton’s Nose, y Rhyl / Bae Cinmel, LL18 5AS
4. Maes Parcio Ffordd y Twyni, Towyn, LL22 9LD
5. Maes Parcio Pensarn / Abergele, LL22 7PP
6. Traeth Llanddulas, LL22 8HB
7. Promenâd y Gorllewin, Bae Colwyn / Llandrillo-yn-Rhos, LL28 4BY
8. Maes Parcio Dale Road, LL30 2BG
9. Maes Parcio Morfa Conwy, LL32 8FZ
10. Gorsaf Reilffordd Conwy, LL32 8AD
Dewiswch, Archebwch a Reidiwch. Mae’n bryd i chi gychwyn eich taith o amgylch yr ardal hardd hon!
Ein nod yw “More Smiles Per Mile” a'ch helpu chi fwynhau beicio yng ngogledd Cymru.
Rydym ni ar agor drwy’r flwyddyn felly fe allwch chi fynd ar y beic yn y gwanwyn, haf, hydref a’r gaeaf.
Gallwch logi beic am y diwrnod neu am gyfnodau hirach, ac rydym ni’n eich cynghori i archebu ymlaen llaw. Gallwch wneud hynny ar-lein ar ein gwefan neu drwy ffonio 07858 633874.
Mae gennym ni gyfraddau arbennig i grwpiau o 10 a mwy.
Gwnewch y gwyliau hyn yn wyliau i’w gofio!
Pris a Awgrymir
Math o Docyn | Pris Tocyn |
---|---|
Child Ticket | £15.00 plentyn |
E-bike Adult Ticket | £35.00 oedolyn |
EBike Student | £35.00 consesiwn |
Hybrid Adult | £20.00 oedolyn |
Hybrid Student | £20.00 consesiwn |
Mountain Adult | £25.00 oedolyn |
Mountain Student | £25.00 consesiwn |
Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwyr
- Croesewir grwpiau un rhyw, e.e. parti plu / penwythnos stag
- Lefel ffitrwydd ofynnol - isel
- Mae croeso i bobl nad ydynt yn aelodau
- Mapiau llwybrau ar gael
- Offer/dillad ar gael i'w llogi
- Teithiau cerdded/teithiau beicio hunan-dywysedig
- Yn darparu ar gyfer digwyddiadau Corfforaethol
- Yn darparu ar gyfer grwpiau ysgolion
Cyfleusterau Hamdden
- Llogi beiciau
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Teithio a Masnachu
- Disgownt ar gael ar gyfer grwpiau
Teithio Grw^p
- Derbynnir bysiau