Am
Ydi Llandudno yn cosi’ch chwilfrydedd? Ydych chi’n chwilio am weithgaredd anarferol i’w wneud yn yr awyr agored beth bynnag fo’r tywydd? Os ydych chi, beth am gael hwyl yn darganfod mwy am Landudno drwy ddilyn dwy daith dreftadaeth – fe allwch chi hyd yn oed gymryd rhan mewn helfa drysor!? Mae Llandudno yn gyrchfan glan môr nodweddiadol o Oes Fictoria, gyda strydoedd a glan môr cain wedi eu cynllunio’n ofalus ac yn troi’n urddasol at bier hynod ddiddorol a chadwrus. Cofiwch fynd i weld sioe bypedau hanesyddol Mr Codman, gerddi’r Fach a mynd am dro yn y tram i fyny’r Gogarth – mae’r golygfeydd o’r mynyddoedd a’r arfordir yn odidog. Yn wir, mae Llandudno yn lle gwych i ymweld ag o drwy gydol y flwyddyn. Byddwch yn cael popeth – cyfarwyddiadau manwl, mapiau, cliwiau (gyda’r atebion ar y cefn), a phytiau difyr am hanes Llandudno a'r bobl sydd wedi helpu i’w ffurfio. Gallwch brynu neu lawrlwytho’r teithiau yn www.curiousabout.co.uk/llandudno ac archwilio’r dref wrth eich pwysau.
Pris a Awgrymir
Math o Docyn | Pris Tocyn |
---|---|
Caiff ei argraffu a’i anfon at y cwsmer | £8.00 gweithgarwch |
Lawrlwytho’n Syth | £5.99 gweithgarwch |
Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwyr
- Mapiau llwybrau ar gael
- Teithiau cerdded/teithiau beicio hunan-dywysedig
- Yn darparu ar gyfer grwpiau ysgolion
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Gweithgareddau yn hygyrch i ymwelwyr ag anableddau
- Mynediad wedi'i wella ar gyfer ymwelwyr ag anawsterau symudedd
Nodweddion Darparwr
- Arfordirol
- Mewn tref/canol dinas
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Teithio a Masnachu
- Disgownt ar gael ar gyfer grwpiau