
Am
Mae Distyllfa Wisgi Aber Falls yn un o bedair distyllfa yng Nghymru, ond dyma’r un gyntaf yn y gogledd ers dechrau’r 20fed ganrif.
Mae’r wisgi’n cael ei ddistyllu, ei botelu a’i adael i aeddfedu yn ein distyllfa, dafliad carreg o Raeadr Fawr Abergwyngregyn, ac mae’r cynhwysion yn gynnyrch lleol wedi’u gwneud yng Nghymru.Bydd y wisgi ar gael yn 2020, ond mae gennym hefyd gasgliad bach premiwm o jin a liqueurs wedi’u gwneud â llaw.
Ae ein canolfan ymwelwyr bellach ar agor ac yn cynnig y cyfle i chi weld y distyllfa a blasu rhywfaint o’n portffolio arobryn. Bydd y teithiau yn rhedeg rhwng 12 a 4yh, dydd Iau i ddydd Sul gan gynnwys y rhan fwyaf o wyliau banc ac yn para tua 40 munud. Efallai y bydd amserau teithiau eraill ar gael trwy apwyntiad o flaen llaw, cysylltwch â ni gyda’ch ofynion penodol.
Uchafswm o 12 o bobl ar bob taith, cynghorir archebu gan ein bod ar hyn o bryd yn gweithredu’r sail gyntaf i’r felin.
Pris a Awgrymir
Math o Docyn | Pris Tocyn |
---|---|
Oedolyn | £8.00 oedolyn |
Consesiwn | £6.00 pensiynwyr |
Plant 6-17 oed mynediad AM DDIM. Dim mynediad i blant o dan 6.