Am
Mae Go Below yn fusnes teuluol sydd wedi ennill gwobrau, sy’n cynnig anturiaethau tanddaearol , beth bynnag y tywydd.
Profwch deithiau tanddaearol am hanner diwrnod neu ddiwrnod cyfan drwy’r hen fwyngloddiau yng nghrombil Eryri. Mae dewis o bedwar o anturiaethau unigryw sy’n amrywio o ran yr her a’r cyffro.
Does dim angen unrhyw brofiad, ac ni fydd yno unrhyw wasgu drwy ogofeydd a thyllau cyfyng.
Mae ein taith Her Go Below (10+) yn brofiad 5 awr, sy’n mynd trwy amgylchedd tanddaearol hudol. Byddwch yn gweld arteffactau hynafol, yn mynd ar gwch ar draws llynnoedd glas angof, yn dringo wynebau creigiau, ac yn abseilio o ddibynnau gyda chymorth ein tywyswyr profiadol.
I’r rhai sydd eisiau gwthio eu hunain ymhellach, mae ein taith Hero Xtreme (14+) yn 6 awr o grwydro’r chwarel lechi mwyaf a’r dyfnaf yn y byd! Profwch eich gallu meddyliol a chorfforol wrth lywio drwy lwybrau, pontydd a gwifrau sip cyffrous, gyda siawns i gael egwyl ar ein mainc bicnic Xtreme, sy’n hongian o wyneb craig anferthol!
Ar gyfer yr antur fythgofiadwy gorau bosibl, gwthiwch eich hun i’r eithaf ar ein taith Ultimate Xtreme 7 awr (18+). Os ydych chi’n anturiwr rheolaidd neu os ydych chi eisiau bod yn ddewr a goresgyn eich ofnau, mae ein taith Ultimate Xtreme yn antur danddaearol unigryw o’r radd flaenaf, gan gynnwys dringfeydd heriol fel y ‘corkscrew’, nifer o wifrau sip, yr unig naid rydd danddaearol yn y byd a’r reid sip danddaearol hiraf a’r dyfnaf yn y byd: ‘Goliath’.
Am antur anferthol 14 awr, ewch i’r afael â ‘Mine to Mountain’ – The Ultimate Ascent. Dyma brawf gwirioneddol o ddygnwch a stamina, sy’n mynd a chi 1,375 o droedfeddi o dan y ddaear i’r pwynt hygyrch dyfnaf yn y DU, ac yna dringo i gopa’r Wyddfa, y mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr, oll mewn un diwrnod anghoel!
Arweinir ein holl deithiau yn bersonol gan dywyswyr profiadol ac angerddol, a fydd yn eich cadw yn ddiogel ac yn eich annog i fentro. Bydd ein harweinwyr hefyd yn dangos cip i chi o’r diwydiant lechi a’i hanes drwy arteffactau hynafol sydd i’w gweld ar hyd y ffordd, yn yr amgylchedd sydd heb ei gyffwrdd.
Bydd esgidiau ac offer diogelwch yn cael eu darparu i chi. Yn agored drwy’r flwyddyn. Mae cyfyngiadau oedran yn gymwys. Gwiriwch prisiau,
argaeledd ac archebu ar ein gwefan: www.go-below.co.uk.
Pris a Awgrymir
Math o Docyn | Pris Tocyn |
---|---|
(10-17 mlwydd oed) Pris plentyn yn dechrau o | £79.00 unrhyw un |
(2 +2) Pris Teulu yn dechrau o | £99.00 oedolyn |
Mine to Mountain | £149.00 unrhyw un |
Pris oedolyn yn dechrau o | £59.00 unrhyw un |
Disgownt ar gael i grwpiau.
Gwybodaaeth Covid-19
COVID-19 Response
- Glanweithydd dwylo ar gael i ymwelwyr a staff
- Masg wyneb yn hanfodol (yn cael eu rhoi)
- Polisi ad-daliadau a chanslo Covid-19 yn ei le
- Rhaid archebu ymlaen llaw
Cyfleusterau
Arlwyo
- Caffi
- Pecyn cinio ar gael
- Yn darparu ar gyfer llysfwytawyr
Cyfleusterau Darparwyr
- Cawodydd
- Croesewir grwpiau un rhyw, e.e. parti plu / penwythnos stag
- Cymorth Cyntaf
- Hyfforddwyr cymwys
- Lefel ffitrwydd ofynnol - canolig
- Lefel profiad - dechreuwr
- Mae croeso i bobl nad ydynt yn aelodau
- Offer/dillad am ddim
- Siop
- Toiledau
- Yn darparu ar gyfer grwpiau ysgolion
- Yswiriant wedi'i gynnwys
Dulliau Talu
- Derbynnir MasterCard
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Nodweddion Darparwr
- Yn y wlad
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
- Maes parcio
- Parcio ar y safle
Plant a Babanod
- Yn derbyn plant (isafswm oedran)
Teithio a Masnachu
- Disgownt ar gael ar gyfer grwpiau
- Wi-fi ar gael
Teithio Grw^p
- Derbynnir bysiau