Am
Llond gwlad o hwyl i’r teulu cyfan..... Mwynhewch y rasio defaid, ewch yn agos at yr ymlusgiaid a’r pryfetach, dewch i roi cwtsh i’r cwningod, bwydo’r geifr a chyfarch yr alpacas! Neu ymunwch â ni wrth i ni groesawu anifeiliaid bach newydd drwy gydol y flwyddyn – o’r ŵyn bach chwareus i’r mynnod geifr direidus, y cywion fflwfflyd a’r moch bach del.
Beth am fynd am dro i’r ysgubor chwarae, at y gwibgerti ac yna i’r pwll tywod anferth?! Dewch i chwarae rôl yn y ‘Tiny Town’, archwilio'r Clamber Castle a llosgi egni ar y clustogau bownsio cyn mynd i’r Greedy Goat Snack Hut i gael byrbryd a’ch gwynt atoch! Mae yna ddigon i’w weld yma a hyd yn oed mwy o bethau i’w gwneud!
Yn swatio ym mharcdir hardd Castell Gwrych, yn agos at arfordir y gogledd ac mewn lle cyfleus oddi ar yr A55.
Gwybodaaeth Covid-19
COVID-19 Response
- Archebu ar-lein yn unig
- Ardaloedd prysur yn cael eu glanweithio’n rheolaidd
- Bwyd ar gael yn ystod cyfyngiadau Covid-19
- Cadw pellter o 2m yn ei le
- Cwblhawyd hyfforddiant staff Covid-19
- Glanhau trylwyr rhwng ymwelwyr
- Glanweithydd dwylo ar gael i ymwelwyr a staff
- Mae’n ofynnol i staff olchi eu dwylo’n rheolaidd
- Rhaid archebu ymlaen llaw
- Seddi tu allan
- Sgriniau hylendid yn eu lle
- System giwio
- System unffordd
- Terfyn capasiti
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwyr
- Toiledau
Hygyrchedd
- Caniateir Cw^n Cymorth
- Lleoedd Parcio i Ymwelwyr Anabl
- Mae Pob Ardal yn Hygyrch i Ymwelwyr Anabl
- Toiledau ar gyfer Ymwelwyr Anabl