Am
Dewch i’n siop lle rydym yn gwerthu carthenni Cymreig traddodiadol, blancedi teithio a brethyn sy'n cael ei gynhyrchu ar y safle gyda pheiriannau sydd dros hanner cant oed.
Mae ein ffabrigau gwlân pur yn cael eu gwneud yn flancedi, gorchuddion clustogau, matiau bwrdd, hetiau, capiau a dillad merched Mae gennym hefyd amrywiaeth eang o weuwaith o wlân pur ac ategolion megis croen dafad ac anrhegion.
Bydd ein siop ar agor ar ddydd Iau, dydd Gwener a dydd Sadwrn o 11 am tan 5 pm i ddechrau.
Mae’r tyrbin dŵr sy'n cynhyrchu ein trydan i'w weld drwy ffenestr yn y siop pan fo'r siop ar agor. Y tu allan yng Ngardd y Gwehydd mae planhigion yn tyfu sy’n cael eu defnyddio ar gyfer lliw naturiol, fel sebon ac fel ymlidydd gwyfynod.
Gallwch weld y gwehyddu ar waith drwy’r ffenestri ar ddyddiau Iau a Gwener rhwng 12 pm. – 1 p.m. a 2 p.m. – 4 p.m.
Gwybodaaeth Covid-19
COVID-19 Response
- Contactless payment possible
- Croeso i anifeiliaid anwes yn ystod cyfyngiadau Covid-19
- Glanweithydd dwylo ar gael i ymwelwyr a staff
- Sgriniau hylendid yn eu lle
Cyfleusterau
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus