Am
Mae Snowdonia Nordic Walking yn cynnig teithiau cerdded tywysedig gyda Hyfforddwr INWA cymwys. Ymunwch â ni er mwyn canfod y ffordd berffaith i grwydro Eryri o ongl newydd!
Mae ein canolfan ar fferm weithredol, ac rydym yn cynnal sesiynau Blasu, a Phrofiadau Hanner Diwrnod. Mae’r ddau fath o sesiwn yn cynnwys cyfarfod briffio llawn am ddiogelwch; llogi a ffitio polion, cyfarwyddiadau ar dechneg cerdded Nordig; ac ymarferion ymestyn ar y diwedd.
Mae’r sesiwn Blasu yn 90 munud o hyd a’r nod yw eich trawsnewid o fod yn gerddwr cwbl ddibrofiad i fod yn Gerddwr Nordig hyderus!
Mae’r Profiad Hanner Diwrnod yn cynnwys taith gerdded Nordig dan arweiniad (5k - 10k yn dibynnu ar ofynion y cwsmer) sy’n cynnwys rhai o olygfeydd trawiadol Eryri. Heb anghofio paned a theisen gri gynnes a fydd yn disgwyl amdanom yn ôl ar y fferm.
Ar gael yn y Gymraeg neu Saesneg.
Pris a Awgrymir
Math o Docyn | Pris Tocyn |
---|---|
Tocyn oedolyn | £35.00 gweithgarwch |
Tocyn oedolyn | £20.00 gweithgarwch |
Noder: Canllaw yn unig yw'r prisiau a gallant newid yn ddyddiol.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Darparwyr
- Croesewir grwpiau un rhyw, e.e. parti plu / penwythnos stag
- Hyfforddwyr cymwys
- Lefel ffitrwydd ofynnol - isel
- Lefel profiad - dechreuwr
- Lefel profiad - uwch
- Offer/dillad am ddim
- Toiledau
- Yn darparu ar gyfer digwyddiadau Corfforaethol
- Yswiriant wedi'i gynnwys
Hygyrchedd
- Toiled ar gyfer ymwelwyr anabl
Parcio a Thrafnidiaeth
- Parcio ar y safle