Am
Mae trefi arfordirol braf Llandudno a Chonwy wedi’u lleoli rhwng dau draeth hyfryd ac mae llawer o gymeriad oes Fictoria’n dal i berthyn iddynt. Yno, fe gewch chi fwynhau golygfeydd arbennig o’r Gogarth, y Pier, Castell Conwy a’r wlad o’ch cwmpas.
Camwch ar y bws gyda’ch tocyn 24 awr a mwynhewch olygfeydd panoramig o lawr uchaf bws pen agored wrth i chi ymlwybro drwy’r ddwy dref.
Gadewch i City Sightseeing dynnu’ch sylw at yr holl bethau sydd i’w gwneud a’u gweld yn y ddwy dref glan môr. Ar North Parade mae Pier Llandudno, sy’n adeilad rhestredig gradd II a gafodd ei adeiladu’n wreiddiol yn 1858. Mae nifer o atyniadau, llefydd bwyta a phethau i’w gwneud ar y strwythur godidog yma, gan gynnwys ffair fach ar y pen agosaf at y lan. Gyferbyn â’r Pier, efallai y cewch chi hyd yn oed weld sioe Punch and Judy draddodiadol. Crwydrwch ar hyd y pier, yr un hiraf yng Nghymru, i weld golygfeydd anhygoel o’r môr. Mae Bae Llandudno ei hun yn cynnig llefydd picnic, llwybrau ar yr arfordir a golygfeydd ardderchog. Camwch oddi ar y bws a mynd ar daith ar Dramffordd y Gogarth, sydd wedi bod yn denu ymwelwyr ers ei hagor yn 1902. Yn rhyfeddod peirianyddol yn ei hoes, dyma’r unig dramffordd sy’n cael ei thynnu gan gebl sy’n dal i redeg ar ffyrdd Prydain ac mae wedi cael ei hadfer gyda gofal.
Gallwch brynu tocynnau gan gynrychiolydd City Sightseeing wrth fynedfa’r Pier, ar y bws, yng Nghanolfannau Croeso Llandudno a Chonwy neu ar-lein ar https://city-sightseeing.com/en/94/llandudno
Pris a Awgrymir
Math o Docyn | Pris Tocyn |
---|---|
Adult Ticket | £12.50 oedolyn |
Child Ticket (Age 5-15) | £6.00 plentyn |
Consesiwn | £10.00 pensiynwyr |
Family Ticket (2adults & 3children) | £30.00 teulu |
Student Ticket | £10.00 oedolyn |
Tocynnau cyfuniad ar gael.
Gwybodaaeth Covid-19
COVID-19 Response
- Masg wyneb yn hanfodol (yn cael eu rhoi)
Cyfleusterau
Arall
- Croesewir Cerddwyr
Cyfleusterau Darparwyr
- Derbynnir Cw^n
Dulliau Talu
- Cyfraddau arbennig i grwpiau
- Derbynnir Grwpiau
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Hygyrchedd
- Caniateir Cw^n Cymorth
Marchnadoedd Targed
- Wedi'i Farchnata ar gyfer Teuluoedd
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
- Mewn tref/canol dinas
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
Teithiau ac Arddangosiadau
- Derbynnir Ymweliadau Addysgiadol
- Teithiau Tywysedig ar gael i Grwpiau
- Teithiau Tywysedig ar gael i Unigolion
Teithio a Masnachu
- Disgownt ar gael ar gyfer grwpiau