Am
Mae The Summit Complex wedi’i leoli ar gopa 679 troedfedd Pen y Gogarth yn Llandudno.O’r lleoliad trawiadol hwn, mae’r Summit Complex yn cynnig golygfeydd aruthrol i chi o Landudno, ardaloedd o Barc Cenedlaethol Eryri, Ynys Môn a Môr Iwerddon.
Mae’r Summit Complex yn cynnwys Caffi/Bwyty, bar thema bocsio yn seiliedig ar yr enwog Randolph Turpin a siop anrhegion sy’n cynnig cofroddion gwych i’ch atgoffa chi o’ch ymweliad. Hefyd, mae yna faes chwarae i blant, golff byr a chanolfan i ymwelwyr yn y Summit.
Gallwch deithio i’r copa drwy un dull teithio neu gyfuniad o’r tram, car cebl, bws, cerdded neu gar.
Os byddwch yn dewis car cebl neu’r tram cewch brofiad bythgofiadwy. Y car cebl yw’r hiraf o’i fath yn y DU ac mae’r dramffordd yn eich cludo yn ôl i oes Fictoraidd y gorffennol. Mae’r ddau yn cynnig golygfeydd gwych, ac mae plant yn arbennig yn mwynhau’r profiad bythgofiadwy hwn.
Cyfleusterau
Arall
- Croesewir Beicwyr
- Croesewir Cerddwyr
Arlwyo
- Caffi/bwyty ar y safle
- Safle Picnic
Dulliau Talu
- Derbynnir y prif gardiau credyd
Marchnadoedd Targed
- Hwyl i'r Teulu
Nodweddion Darparwr
- Atyniad Awyr Agored
- Atyniad Dan Do
- Yn y wlad
Parcio a Thrafnidiaeth
- Hygyrch drwy drafnidiaeth gyhoeddus
- Parcio ar y safle