
Am
Mae traeth Morfa Conwy yn draeth tywod eang, ac ar lanw isel mae’n ffurfio rhan o draethau tywod a chloddiau cregyn gleision Bae Conwy. Mae’n addas ar gyfer pysgota, mae marina yno ac mae’r drws nesaf i gwrs golff. Mae digonedd o siopau, caffis a bwytai gerllaw yn nhref hanesyddol Conwy a’r castell yn ei gwarchod. Mae’r traeth yn lle da ar gyfer gwylio adar.
Mae’n draeth ardderchog ar gyfer gwneud cestyll tywod, rhoi traed yn y dŵr a mwynhau’r olygfa.
Mae croeso i gwn ar y traeth hwn. Nid oes achubwr bywydau ar y traeth hwn.