Am
Mae Traeth Penmorfa yn Llandudno yn lle llawer tawelwch na Thraeth y Gogledd sy’n llawn bwrlwm. Dyma draeth tywodlyd sy’n boblogaidd iawn gyda phobl ar wyliau. Mae’r traeth yn wynebu Bae Conwy a phan fydd y llanw’n isel mae yna ddarn mawr o dywod sy’n berffaith ar gyfer hedfan barcud neu syrffio barcud. Dyma hefyd le arbennig i wylio'r haul yn machlud.
Os ydych chi’n mwynhau cerdded, fe allwch chi ymuno â Llwybr Arfordir Cymru neu ddringo i fyny pentir y Gogarth gerllaw - Parc Gwledig ac Ardal Cadwraeth Arbennig sy’n llawn bywyd gwyllt.
Mae yna gaffi gyda maes parcio a chyfleusterau toiled wrth ymyl y traeth.
Mwy o wybodaeth am Draeth Penmorfa
Gwasanaeth Harbwr ac Arfordir Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy sy’n rheoli Traeth Penmorfa.
Yn 2019 dyfarnwyd statws y Faner Las i’r traeth.
Does dim achubwr bywydau ar y traeth. Cofiwch ddarllen yr arwyddion diogelwch wrth fynedfa’r traeth i wneud yn siŵr eich bod chi’n ymwybodol o beryglon lleol.
Rhwng 1 Mai a 30 Medi ni chaniateir cŵn ar y traeth. Mae hyn yn cynnwys yn yr ardaloedd canlynol:
• Glan y môr
• Blaendraeth
• Unrhyw lethr neu risiau yn arwain at y traeth
• Rhwng y llwyni cerrig
(gwelwch y pdf isod i gael map o ardal y traeth)
Mae gadael i’ch ci fynd i ardal lle gwaherddir cŵn yn drosedd. Gall methu â chydymffurfio â Gorchymyn Gwahardd Cŵn 2012 arwain at dderbyn Rhybudd Cosb Benodedig. Mae’r ddirwy ar hyn o bryd yn £75.
A chofiwch, plîs peidiwch â bwydo’r gwylanod!