Am
Mae Traeth Sandy Cove, Bae Cinmel, yn draeth tywodlyd sy’n wynebu'r gogledd gyda phromenâd cul ar gyfer cerddwyr a beicwyr.Wrth ymyl y promenâd mae Gwarchodfa Natur Twyni Cinmel, sy’n gynefin twyni bras. A welwch chi’r celyn y môr pigog, y tegeirianau, yr ieir bach yr haf a’r madfallod? Welwch chi’r ehedyddion yn nythu ar y ddaear?
Mae parcio am ddim ar gael i dros 100 o geir. Mae’r traeth wedi ennill Gwobr Glan Môr (gwledig). Mae yna gaffi, man cymorth cyntaf a thoiledau ar gael yn y siop Asda gerllaw.
Mae'n lle gwych i wylio byd natur a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel nofio, canŵio môr a hwylfyrddio, yn ogystal â throchi’ch traed yn y dŵr!
Fe allwch chi weld morloi llwyd, adar y môr ac adar hirgoes o bromenâd Bae Cinmel.
Ni chaniateir cŵn ar y traeth rhwng mis Mai a mis Medi. Mae’n rhaid cadw cŵn ar dennyn yng Ngwarchodfa Natur Leol Twyni Cinmel.