Coronafeirws: Am y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 CLICIWCH YMA
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Home > Pethau i’w Gwneud > Ymgolli yng Ngogledd Cymru
Darganfod antur anhygoel, golygfeydd hudol a phrofiadau unigryw.
Y peth anoddaf i’w wneud yn Llandudno a Sir Conwy ydi gwneud amser i bopeth ar wyliau cartref dros y gaeaf! Mae cymaint i'w gynnig - boed yn wyliau i'r teulu, gwyliau antur neu’n seibiant er mwyn ymlacio, mae’r cyfan ar gael yn y rhan hon o ogledd Cymru.
Ymgollwch mewn antur, bwyd a diod, hanes a chysurusrwydd cartrefol mewn un daith. Ewch ati i grwydro Parc Gwledig y Gogarth, mynyddoedd Eryri neu ewch am dro iachusol ar hyd pier hiraf Cymru. O ddyffryn Conwy i Hiraethog, tydi darganfod pentrefi hudolus a phrofiadau na ellir eu methu erioed wedi bod mor gyffrous
Dyna sy’n egluro efallai pam ein bod yn gyrchfan boblogaidd gydol y flwyddyn.
Mae cerddwyr a’r rheini sy’n hoffi’r awyr agored yn heidio i’r cefn gwlad i adfywio ac ymlacio o fisoedd Ionawr i Rhagfyr.
Mae gwyliau yn y gaeaf yn ogystal â’r haf yn cadw ein cyrchfannau’n brysur. Mae llawer o’n hatyniadau a llefydd y gallwch ymweld â nhw – ynghyd â’n gwestai, gwestai bychain a llety hunanddarpar – ar agor ym mhob tymor.
Dyma ychydig o syniadau i’ch helpu i Ymgolli Mewn antur yng Ngogledd Cymru:
Os ydych ar wyliau byr yn yr ardal, ni fyddwch am wastraffu unrhyw amser gwerthfawr yn teithio pellteroedd maith.
Mae’n ddigon hawdd cyrraedd yma os ydych yn teithio ar y ffordd neu mewn trên o rannau eraill o’r Deyrnas Unedig, byddwch yma mewn dim o dro … wel, bron iawn.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl