Coronafeirws: Am y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 CLICIWCH YMA
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Rydych chi yma: Porth Busnes > Cyrchfan Conwy
Fis Tachwedd 2010, cyhoeddodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) weledigaeth rheoli cyrchfan i Sir Conwy a sefydlu grŵp llywio rheoli cyrchfan. Ers hynny, mae’r grŵp wedi esblygu’n bartneriaeth gref, gan weithio gyda diwydiant twristiaeth Conwy, a’i gefnogi.
Yn 2019, cynhyrchodd Partneriaeth Cyrchfan Conwy Gynllun Rheoli Cyrchfan newydd a Chynllun Gweithredu, sy’n rhoi neges glir o’i gweledigaeth ar gyfer twristiaeth dros y deng mlynedd nesaf, a’r blaenoriaethau sydd angen i ni eu cyflawni i hwyluso ei thwf a’i chynaliadwyedd yn y dyfodol. Bydd y cynllun hwn yn cefnogi busnesau twristiaeth, o fudd i ymwelwyr ac yn bwysicaf oll, yn cefnogi ac yn datblygu’r cymunedau ar draws Conwy.
Mae cyfnod 3 blynedd i aelodau presennol Partneriaeth Cyrchfan Conwy bellach wedi dod i ben. Rydym wedi adolygu’r strwythur ac wedi gwneud rhai newidiadau i’r ffordd y mae Partneriaeth Cyrchfan Conwy yn gweithredu. Mae’r strwythur newydd hwn yn rhoi mwy o gyfleoedd i fusnesau twristiaeth ac unigolion gymryd rhan.
© Conwy County Borough Council. Cedwir Pob Hawl