Beth Sydd ‘Mlaen
Diweddariad Coronafeirws
Mae nifer o’n digwyddiadau yng Nghonwy wedi’u canslo yn sgil y Coronafeirws. Ein prif nod yw sicrhau fod ein hymwelwyr, preswylwyr a’n busnesau yn ddiogel. Byddwn yn diweddaru’r dudalen hon er mwyn eich galluogi i wirio statws y digwyddiadau y mae gennych chi ddiddordeb ynddynt. Os hoffech chi ragor o wybodaeth, ymwelwch â’n tudalen cwestiynau cyffredin.
Am rŵan, gallwch ddarllen am rai o’n digwyddiadau blynyddol isod. Defnyddiwch ein calendr i ddod o hyd i ddigwyddiadau sydd ar y gweill yn yr ardal. Nodwch fod rhai o’r digwyddiadau isod wedi’u heffeithio gan y Coronafeirws eleni.
Digwyddiadau blynyddol yn Sir Conwy
Mae ein rhaglen lawn o wyliau a digwyddiadau’n rhedeg drwy gydol y flwyddyn.
Os ydych chi’n caru gwyliau, mae digonedd o ddewis i chi yng Nghonwy. Mae gennym ffeiriau bwyd lleol gyda chynhyrchwyr bwyd llwyddiannus, yn ogystal â pherfformiadau gan sêr pop byd-eang yn Stadiwm Zip World a Venue Cymru.
Mae gennym ni hefyd wledd a hanner i’w chynnig i selogion chwaraeon. Gallwch fwynhau rygbi ym Mae Colwyn, criced yn Llandrillo-yn-Rhos, hwylio yng Nghonwy a ralïo ceir yng nghoedwigoedd Gogledd Cymru. Mae Conwy a Llandudno yn un o’r prif leoliadau yn ystod digwyddiad Rali Cymru GB hefyd.
Ym mis Mai, mae tref Llandudno yn cynnal y digwyddiad Ecstrafagansa Fictoraidd Llandudno. Mae’r digwyddiad hwn yn denu cynulleidfaoedd enfawr i’r dref. Mae ffair stryd Fictoraidd, reidiau ffair o’r cyfnod, stondinau hwyl, injans stêm a phobl mewn gwisg Fictoraidd.
Mae’r Nadolig yn amser arbennig ar gyfer digwyddiadau hefyd. Mae llawer o ffeiriau, dathliadau a marchnadoedd Nadoligaidd yn Sir Conwy i chi eu mwynhau. Pa ffordd well o fynd i hwyliau’r ŵyl nag ymweld â stondinau Nadolig?
Digwyddiadau unigryw yn ein trefi llai
Mae nifer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn ein trefi llai yn ogystal. Gallwch gael rhagor o fanylion am y digwyddiadau hyn ar ein tudalennau Trefi a Phentrefi. Cadwch lygad allan am ddigwyddiadau megis Diwrnod Prom Deganwy. Mae amrywiaeth o weithgareddau, stondinau a lluniaeth yn y digwyddiad i chi gael mwynhau diwrnod llawn hwyl. Neu beth am deithio i fyny’r dyffryn a chymryd rhan mewn gwyliau cerdded lleol yn Nhrefriw ac Eryri?
Aros yn Sir Conwy
Beth am wneud y mwyaf o’ch amser yn Sir Conwy drwy aros yn hirach ac archebu llety? Byddem yn argymell i chi gael golwg ar ein tudalen llety. Yma, gallwch ddod o hyd i ystod eang o westai, eiddo gwely a brecwast a llety hunanddarpar sy’n addas ar gyfer pob chwaeth a chyllideb!