Rhowch wledd i’ch blasbwyntiau!
Ydych chi’n canfod eich hun yn mynd i'r un hen fwytai yn archebu'r un hen fwyd o fwydlen sydd yr un peth ers blynyddoedd?
Oes angen deffro eich blasbwyntiau?
Os mai’r ateb heb os yw 'oes', gwych, gan eich bod wedi dod i'r lle iawn!
Dewis gwych o fwy o bob cwr o’r byd!
P'un a ydych chi'n chwilio am fwytai yn Llandudno, bistro ym Metws neu gaffi yng Nghonwy, deffrowch eich blasbwyntiau gyda'n dewis enfawr o fwytai a bistros sy'n gweini bwyd o bob cwr o'r byd!
Bwyd o’r radd flaenaf ym mhob pen o’r sir!
Mae ein harlwy bwyd yn ddyfeisgar ac yn llawn bwrlwm, gyda bwydlenni'n cynnwys popeth o giniawa cain i'r pysgod a'r sglodion gorau. Fedrwch chi ddim mynd o chwith yng Nghonwy, er enghraifft. Beth am roi cynnig ar ‘Signatures’ yn yr ‘Aberconwy Resort and Spa’, neu flasau mawr, beiddgar ym Mistro “Watson’s”.
Ym Mae Colwyn gallwch fwynhau pryd o fwyd ym mistro glan môr y cogydd Bryn Williams a enwyd yn ddiweddar yn Fwyty’r Flwyddyn yr AA (Cymru) 2019–20.
Pysgodyn y Dydd
Mae'r milltiroedd o arfordir rhagorol yn ardal Conwy yn golygu y byddwch chi'n dod o hyd i fwytai a bistros yn y rhan hon o Ogledd Cymru sy'n gweini pysgod a bwyd môr rhagorol, o bysgod a sglodion i gimwch, draenog y môr wedi'i ddal yn lleol a chawl cregyn gleision Conwy. Bydd gennych doreth o ddewis gyda bwydlenni sy'n cynnwys llawer o bysgod ffres, wedi'u hategu gan ystod eang o winoedd gan gynnwys rhai o Winllan Conwy, gwinllan leol sy'n cynhyrchu pum math o winoedd.
Os oes gennych chi ofynion dietegol arbennig, peidiwch â phoeni gan fod gennym ni amrywiaeth eang o fwytai sy'n addas ar gyfer yr holl ofynion dietegol a llysieuol.
Felly tân arni, dechreuwch chwilio!
Mae'n hawdd cychwyn arni!
Gallwch chi ddechrau trwy archwilio'r rhestr lawn o fwytai, bistros, caffis a bariau ar waelod y dudalen hon neu os ydych chi'n chwilio am rywbeth penodol yn unig, gallwch chi bob amser ddefnyddio ein swyddogaeth chwilio syml i gulhau eich chwiliad.
Ar nodyn olaf, os na allwch ddod o hyd i'ch bwyty neu fistro delfrydol, rhowch alwad i ni, wedi'r cyfan rydym yn hoffi bwyta allan hefyd a gallwn helpu i'ch cynghori ar y lleoedd gorau i fynd yn seiliedig ar eich gofynion! Mae ein canolfannau gwybodaeth ar agor bob dydd ac ar gael ar 01492 577577.