A hoffech chi hysbysebu eich busnes ar ein gwefan cyrchfan?
Bydd y wefan yn helpu ymwelwyr i gynllunio eu teithiau drwy ddefnyddio’r tudalennau amrywiol ar y safle.
O ganlyniad, mae amrywiaeth o becynnau hysbysebu a marchnata ar gael ar gyfer busnesau twristiaeth leol. Mae’r buddion allweddol i fusnesau fel a ganlyn:
Pecynnau hysbysebu
- Cyfle i’ch busnes ymddangos ar y wefan cyrchfan swyddogol ar gyfer Sir Conwy – yn 2018, ymwelodd dros 1.4 miliwn o bobl â’r dudalen.
- Bydd y wefan newydd yn cael ei gefnogi gan optimeiddio peiriannau chwilio cynyddol.
- Mae ein gwefan yn gysylltiedig â gwefannau twristiaeth allweddol eraill megis Croeso Cymru – yn 2018, cafodd visitwales.com dros 5 miliwn o ddefnyddwyr unigryw.
- Mae ein porth busnes yn cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch cymorth i fusnesau, cyllid, niferoedd ymwelwyr a llawer mwy. Caniateir mynediad i bob hysbysebwr.
Pecynnau marchnata (llefydd yn brin)
- Mae cyfanswm o 40,000 o bobl yn dilyn ein tudalennau ar y cyfryngau cymdeithasol – felly gallwn ennyn rhagor o sylw i’ch busnes ymysg y gynulleidfa fwy sy’n defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
- Mae gennym gronfa ddata o 10,000 o ymwelwyr sydd wedi dewis derbyn newyddlenni gan Dewch i Gonwy. Drwy ymddangos ar ein newyddlen, gallwch farchnata cynnyrch, gweithgaredd neu gynnig arbennig i gynyddu gwerthiant.
- Cyfle i ymddangos mewn erthyglau blog rheolaidd i gael rhagor o sylw.
- Mwy o gyfleoedd cysylltiadau cyhoeddus.
Mae prisiau yn dechrau o £90 am hysbyseb sylfaenol ar y wefan, a £60 am becyn marchnata efydd. Gallwch lawrlwytho ein cerdyn cyfradd llawn isod.
I gael rhagor o fanylion, anfonwch e-bost at tourism@conwy.gov.uk neu ffoniwch 01492 575950.
• Cerdyn prisiau