Coronafeirws: Am y wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 CLICIWCH YMA
I greueich Amserlen eich hun, cliciwch i ychwanegu eitem i’ch basged Amserlen.
Wedi cadw Amserlen yn barod?
Nifer yr eitemau: 13
Abergele
Fe ganfyddwch lwybrau gwasgaredig o dywod a cherrig crynion ar hyd y rhan hon o’r traeth sy’n cysylltu gyda Bae Colwyn i’r gorllewin. Addas ar gyfer cerddwyr a beicwyr, mae llwybr arfordirol a llwybr beicio rhwng y traeth hwn a Bae Colwyn.
Penmaenmawr
Traeth tywod hir gyda phromenâd sydd wedi’i adnewyddu’n ddiweddar. Mae Penmaenmawr yn edrych allan i Afon Menai a’i holl gyfleusterau sy’n ei wneud yn gyrchfan boblogaidd i deuluoedd. Wedi’i leoli rhwng y mynyddoedd a’r môr, mae Traeth Penmaenmawr
Llandudno
Mae traeth Pen Morfa yn dangos ochr dawelach Llandudno na thraeth poblogaidd Traeth y Gogledd. Mae’r traeth hwn yn draeth tywod, sy’n boblogaidd gydag ymwelwyr ac mae’n wynebu Bae Conwy, a phan fydd llanw isel, datgelir ardal fawr o dywod.
Colwyn Bay
Mae yna draeth tywod a graean yn cysylltu cyrchfan Llandrillo-yn-Rhos, Bae Penrhyn, sydd â thraeth tywod llydan ar y chwith ac ar y dde mae paradwys o byllau dal berdys. Mae yna ddigon o gyfleoedd cerdded hefyd.
Kinmel Bay
Mae Traeth Sandy Cove, Bae Cinmel yn draeth tywod gwych sy’n wynebu’r gogledd gyda phromenâd cul a ddefnyddir gan gerddwyr a beicwyr, morglawdd a gwarchodfa natur Twyni Cinmel. Mae maes lleoedd parcio am ddim ar gael i fwy na 100 o geir.
Penmaenmawr
Llandudno
Traeth y Gogledd yw prif draeth Llandudno, ac mae’n draeth cysgodol gyda phier Fictoraidd a phromenâd llydan yng nghysgod penrhyn godidog Pen y Gogarth.
Colwyn Bay
2021 Seaside Award Winner. Sandy, non-tidal beach ideal for family fun.
Colwyn Bay
Mae traeth Hen Golwyn yn daith gerdded fer o dref Bae Colwyn ar arfordir gogledd Cymru, oddi ar yr A55, ar gyrion Bae Colwyn. Ceir amrywiaeth lleol o fwytai a chaffis, promenâd gyda meinciau, ciosgau lluniaeth a digon o leoedd parcio.
Llanfairfechan
Mae traeth tywod hir Llanfairfechan pan mae’r llanw’n isel yn hyfryd ar gyfer teuluoedd â phlant ifanc. Mae ganddo olygfeydd gwych o Ynys Môn, Afon Menai a Phen y Gogarth. Mae’r traeth yn garegog pan mae’r llanw’n uchel.
Colwyn Bay
Mae traethau Bae Colwyn a Llandrillo-yn-Rhos yn wych ar gyfer nofio, chwaraeon dŵr a physgota gyda llwybrau beicio a cherdded ar hyd yr arfordir. Mae Bae Colwyn yn gyrchfan glan y môr Fictoraidd gyda thraeth hir o dywod a graean a phromenâd.
Abergele
Mae’r traeth cerrig mân yn wych ar gyfer cerdded yn hamddenol ar gyfer y promenâd, sydd hefyd yn addas i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. I fynd am dro hirach, dilynwch Lwybr Arfordir Gogledd Cymru, sy’n rhedeg ochr yn ochr â’r traeth.
Conwy
Mae traeth Morfa Conwy yn fae mawr tywodlyd, sy’n ffurfio rhan o’r traethau tywydd a banciau cregyn gleision helaeth Bae Conwy. Mae’n lleoliad da ar gyfer pysgota, mae yma farina ac mae cwrs golff gerllaw. Llai na milltir o ganol Conwy.